Cwest i farwolaeth bachgen gafodd ei anfon adre o'r ysbyty
- Cyhoeddwyd
Bu farw bachgen naw oed ddyddiau yn unig wedi i'w dad gael sicrwydd ei fod yn diodde o "nodau wedi chwyddo" mewn ysbyty.
Cafodd Dylan Cope o Gasnewydd ei gludo i Ysbyty'r Faenor yng Nghwmbrân o dan amheuaeth o fod â llid y pendics, ond cafodd ddiagnosis o'r ffliw.
Clywodd Llyw Crwner Gwent fod Dylan wedi cael ei weld gan nifer o glinigwyr, gan gynnwys meddyg anhysbys a "wfftiodd unrhyw bryder am bendics Dylan".
Ddyddiau yn ddiweddarach, cafodd ddiagnosis pellach o bendics wedi rhwygo a sepsis, a bu farw yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ar 14 Rhagfyr, 2022.
'Neilltuol o brysur'
Pan aeth Laurence Cope â'i fab i'r ysbyty, clywodd y llys fod nodyn gan ei feddyg teulu wedi cael ei gyflwyno i'r ysbyty yn gofyn iddyn nhw "wirio am lid y pendics".
Ni chafodd Dylan ei weld am awr a chwarter oherwydd "prysurdeb yn yr adran", ac yna cafodd ei weld gan nyrs blant, Samantha Hayden.
Dywedodd hi wrth y cwest ei bod yn ymwybodol fod Dylan wedi gweld meddyg teulu, ond na edrychodd ar y ddogfen gyfeiriol ac nad oedd wedi chwilio am y ddogfen.
"Roedd yr adran yn neilltuol o brysur y diwrnod hwnnw," meddai, gan egluro nad oedd yn anarferol i weld cleifion heb weld nodyn gan feddyg teulu.
Aeth ymlaen i ddweud: "Fe wnaethon ni drafod llid y pendics - tad Dylan a minnau - ac fe wnes i ystyried hynny."
Dywedodd ei bod wedi gofyn i Dylan sawl gwaith lle'r oedd y boen, a'i fod wedi ateb ei fod ar yr ochr chwith o'i gorff.
Mae'r pendics ar ochr dde'r corff.
Clywodd y llys fod "meddyg gwrywaidd" yn gwisgo dillad priodol a mwgwd ar ei wyneb wedi gweld Dylan yn ddiweddarach.
Dywedodd Laurence Cope nad oedd y meddyg wedi cyflwyno'i hunan, ond ei fod e wedi cymryd arno mai llawfeddyg oedd.
Ychwanegodd fod y meddyg yn ymddangos yn "bwyllog a hyderus", a'i fod wedi dweud fod y broblem "yn annhebygol iawn o fod yn broblem gyda'i bendics".
Fodd bynnag, dywedodd Mr Cope nad oedd yn cofio'r meddyg yn archwilio Dylan yn gorfforol.
Clywodd y llys hefyd fod meddyg arall wedi cyrraedd gan ddweud fod Dylan wedi profi'n bositif am y ffliw, ac y gallai'r boen yn ei stumog fod oherwydd "nodau wedi chwyddo".
Cafodd ei anfon adre gyda thaflen gynghori am annwyd a pheswch.
Gwingo mewn poen
Ni wnaeth cyflwr Dylan wella, ac ar 10 Rhagfyr fe ffoniodd ei dad y rhif argyfwng ar y daflen - cafodd ei gynghori i gysylltu gyda GIG 111.
Erbyn hyn roedd Dylan yn gwingo mewn poen ac aeth ei dad ag ef yn ôl i Ysbyty'r Faenor cyn iddo gael ei drosglwyddo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.
Yno clywodd ei rieni fod Dylan wedi diodde "sioc gwenwynig i'w organau ac nad oedd gobaith iddo wella".
Dywedodd Uwch Grwner Gwent, Caroline Saunders fod Dylan wedi marw ar 14 Rhagfyr, 2022, ac mai achos ei farwolaeth oedd "sioc septig wedi'i achosi gan bendics wedi rhwygo".
Mae'r cwest yn parhau.