'Cyhoeddi cytundeb rygbi ar ddiwrnod angladd Dad'

Deian Gwynne
Disgrifiad o’r llun,

Mae Deian Gwynne yn hyfforddi gyda thîm dan-20 Cymru ar hyn o bryd

  • Cyhoeddwyd

Mae Clwb Rygbi Aberystwyth yn dathlu wrth i dri o’u chwaraewyr ddod â’r clwb i sylw cenedlaethol a thu hwnt.

Mae Deian Gwynne, sy’n hyfforddi gyda thîm dan-20 Cymru ar hyn o bryd, newydd gael gwybod ei fod yn cael hyfforddi gyda thîm cyntaf Caerloyw.

Ond er y llawenydd, roedd y profiad yn anodd wrth i’r cytundeb gael ei gyhoeddi ar ddiwrnod angladd ei dad, Dewi Gwynne, un o hoelion wyth Clwb Rygbi Aberystwyth.

“Yn ffodus roedd Dad yn gwybod am y cytundeb cynt ac mae e wastad wedi bod mor prowd o be’ fi wedi 'neud ar y cae rygbi,” medd Deian Gwynne, 18, wrth siarad â Cymru Fyw.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

'Byddai Dad (Dewi Gwynne) yn browd iawn ohonai,' meddai Deian Gwynne

“Yn gynharach eleni ges i gap yn chwarae i dȋm dan-18 Cymru ac fe fues i’n chwarae dros Gymru yn y Chwe Gwlad.

“Ges i'r cap cyntaf yn erbyn Yr Alban - enillon ni. Yna mas i Iwerddon ac ennill fanna eto yn erbyn tȋm cryf.

“Mae wedi bod y anodd yn y misoedd diwethaf ond o’n i’n falch bod Dad yn gwylio fi yn cael y cap cyntaf yn erbyn Yr Alban ym mis Mawrth. O’dd e wedi dod mas i Iwerddon hefyd, chwarae teg, er nad oedd ei iechyd yn dda. Odd e’n prowd iawn.

"Roedd e hefyd yn falch iawn o'i frawd Eifion Gwynne oedd yn chwaraewr rygbi ardderchog."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Dewi Gwynne yn adeiladwr ac yn gyd-berchennog ar fwytai y Cross Foxes ger Dolgellau a’r Hafod ym Mhontarfynach

Mae Deian yn un o’r rhai ieuengaf i gael ei ddewis i hyfforddi gyda thȋm Cymru o dan 20.

Fe fydd y bencampwriaeth y cael ei chynnal yn Ne Affrica rhwng 29 Mehefin a 19 Gorffennaf ac mae Cymru yn yr un grŵp â Ffrainc, Seland Newydd a Sbaen.

“Fi’n edrych ymlaen. Mae’n galed ond yn dda a ni’n dysgu lot. Mae’r hyfforddi yn digwydd yn y Vale ym Mhont-y-clun a fi’n aros mewn gwesty gan bo' fi’n byw mor bell.

“Dwi wastad wedi chwarae rygbi ac ro’dd Dad yn hyfforddi.

"Fues i’n chwarae yn ysgol Penllwyn yng Nghapel Bangor, gyda thimau Aberystwyth, yna gyda’r Scarlets West ac yna es i Hartpury yn y chweched – ac ydy mae’n tîm ni yno wedi cael cryn lwyddiant – fyddai wastad yn ddiolchgar i glwb Aberystwyth.”

Dewi Gwynne yn 'arwr'

Mae colli Dewi Gwynne, a oedd hefyd yn adeiladwr ac yn gyd-berchennog ar fwytai y Cross Foxes ger Dolgellau a’r Hafod ym Mhontarfynach, yn ergyd fawr i Glwb Rygbi Aberystwyth.

“Roedd e’n arwr, absolute hero i ni fan hyn yn Aberystwyth. O’dd e’n gyn-chwaraewr, yn gyn-gapten ddwywaith ac yn un o hoelion wyth y clwb,” medd Nerys Hywel, cadeirydd y clwb.

“O'dd e wastad yma yn cefnogi – dim ots os oedd Deian yn chwarae neu beidio. O'dd e 'ma yn cefnogi'r ieuenctid, y tîm hŷn - pawb.

“O'dd e wastad yn siarad â phawb ac yn canmol y bois - bob un ohonynt.

"Mae’n golled enfawr i ni gyd – yn enwedig i’r teulu ond ni gyd y tu ôl iddyn nhw fel clwb ac maen nhw’n gwybod hynny.”

Ffynhonnell y llun, Clwb Rygbi Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Deian Gwynne a Steffan Jac Jones - y ddau wedi dod â bri i Glwb Rygbi Aberystwyth

Y ddau chwaraewr arall sydd wedi dod â chlod i’r clwb yw Joshua Hathaway sy’n chwarae i dîm cyntaf Caerloyw ac sydd wedi chwarae i dîm dan-20 Cymru a Lloegr a Steffan Jac Jones sydd hefyd wedi ennill cap ac yn hyfforddi gyda’r tîm dan-20 a’r Scarlets.

Mae cael cymaint o chwaraewyr yn nhimau Cymru – a Lloegr – yn bluen fawr yn het y clwb ond gydag Aberystwyth yn bell o’r clybiau eraill dyw hi ddim yn hawdd sicrhau bod y bechgyn yn cael eu gweld gan y dewiswyr.

'Ddim mo'yn cael ein anghofio'

“Yr unig broblem sy ‘da ni fan hyn yw’n lleoliad ni. Y tueddiad yw maen nhw’n anghofio amdanon ni. Does dim lot yn lico teithio i Aber,” medd Nerys Hywel, y cadeirydd benywaidd cyntaf ar glwb rygbi yng Nghymru.

“Mae wastad ryw hurdle 'da ti pwy sy’n fodlon teithio ond dan ni’n arwain y ffordd achos ni’n fodlon trafaelu am gêm – fi ishe’r gorau i’r plant a bod pobl yn gweld nhw. Mae’n bwysig cadw clybiau fel hyn i fynd."

Disgrifiad o’r llun,

Deian Gwynne a chadeirydd y clwb, Nerys Hywel

“Mae gyda ni ryw 200 o chwaraewyr yn y criw ieuenctid. Does dim lot o glybiau yng Nghymru gyda bob oedran – o dan-saith trwyddo i o dan-16 yn yr adran iau. Ni’n 'neud yn arbennig o dda.

“Ma fe’n bwysig, maen nhw’n cael eu hyfforddi unwaith yr wythnos, maen nhw’n cael gemau, maen nhw’n cael amser gyda’i gilydd. Maen nhw’n cael yr hyfforddiant gorau, fi’n credu, yng Nghymru.

“Mae’r rhan fwyaf sy’n hyfforddi wedi bod yn chwaraewyr y dre eu hunain. Maen nhw’n rhoi nôl i’r clwb ac mae hwnna’n werthfawr.”

Ym mis Hydref mae Deian Gwynne yn gobeithio mynd i’r brifysgol yng Nghaerloyw ond fydd e fyth yn anghofio ei wreiddiau yn Aberystwyth ac mae’r cadeirydd a’r clwb yn falch o hynny.

“Mae’n fraint i ni fel clwb i gael cynrychiolwyr fel Deian. Mae Deian wedi 'neud yn anhygoel o dda," medd Nerys Hywel.

“Mae Deian wedi bod yn rhan bwysig o’r tȋm. Mae fe wedi bod yn ddylanwad da ar lot o’r bois. Mae’r bois ieuengach yn edrych lan iddo fe.

“Dyw e byth yn anghofio Clwb Rygbi Aberystwyth lle dechreuodd e, sy’n bwysig i ni, achos pobl fel'na sy’n mynd i chwifio'r fflag i ni.”

Pynciau cysylltiedig