Miloedd yn cofio Eifion Gwynne

  • Cyhoeddwyd
diwrnod eifion gwynne

Daeth oddeutu pedair mil o bobl i glwb rygbi Aberystwyth ddydd Sul ar gyfer diwrnod arbennig i gofio y diweddar Eifion Gwynne.

Yn ystod prynhawn bu nifer o arwyr y byd rygbi yn chwarae mewn gêm i gofio amdano.

Ffynhonnell y llun, Richard Morris
Disgrifiad o’r llun,

Sgôr y gêm oedd Arwyr Cymru 55 - 45 Tîm Eifion Gwynne

Roedd tîm Eifion Gwynne XV yn chwarae yn erbyn Arwyr Cymru XV. Doedd y sgôr ddim yn bwysig ond yr Arwyr a enillodd o ddeg pwynt gan sicrhau 55 pwynt.

Gyda'r nos bu Meic Stevens yn canu a chafodd ocsiwn ei chynnal. Ymhlith y pethau ar werth roedd crysau wedi eu harwyddo gan dimau'r Gleision, Y Dreigiau, Y Gweilch ac esgidiau Justin Tupiric.

Bu farw Eifion Gwynne, 41 oed, o Aberystwyth yn Sbaen ar 22 o Hydref wedi iddo gael ei daro gan gar. Roedd e wedi teithio i Malaga er mwyn mynd i angladd tad ffrind.

Roedd Eifion yn drydanwr poblogaidd yn Aberystwyth ac yn un o gyn-chwaraewyr timau Llanymddyfri ac Aberystwyth.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

'Mae pawb yn tŷ ni yn edrych mlaen yn fawr iawn at Ddiwrnod Dadi! Byse Eifion wrth ei fodd!'

Chwaraewyr o dimau Aberystwyth a Llanymddyfri fu'n chwarae yn nhîm Eifion Gwynne brynhawn Sul ac ymhlith arwyr y tîm arall roedd Lee Byrne, Gareth Cooper, John Davies a Dafydd Jones.

Disgrifiad,

Diwrnod arbennig yn Aberystwyth i gofio Eifion Gwynne

Mae Eifion yn gadael gwraig Nia a thri o blant Mabli, Modlen ac Idris. Roedd e hefyd yn frawd i naw o frodyr a chwiorydd ac yn fab i Anne a'r diweddar David.

"Mae pawb yn tŷ ni yn edrych mlaen yn fawr iawn at Ddiwrnod Dadi! Byse Eifion wrth ei fodd!", meddai Nia mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol cyn y digwyddiad.

Efallai nad yw'n syndod bod y canwr Meic Stevens yno gan fod Eifion a Nia yn hoff o'i ganeuon. Cafodd un o ganeuon Meic Stevens 'Y brawd houdini' ei chwarae ar ddiwedd angladd Eifion.

Bydd yr elw a wneir o'r diwrnod yn mynd at Gronfa Goffa Eifion Gwynne.

Does dim penderfyniad, hyd yn hyn, ond y bwrid yw gwario'r arian ar gofeb barhaol i Eifion ar y cae rygbi yn Aberystwyth.