Oes rhaid gadael Cymru i ddilyn breuddwyd o yrfa rygbi?

  • Cyhoeddwyd
Louis Rees-ZammitFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Louis Rees-Zammit, sy'n chwarae i Gaerloyw, ymhlith y chwaraewyr sydd wedi datblygu ei yrfa dros y ffin

Mae 'na rybudd bod chwaraewyr rygbi ifanc yng Nghymru'n teimlo "pwysau diangen" i adael eu cartref er mwyn ceisio dilyn eu breuddwyd o yrfa yn y gamp.

Fe wnaeth Undeb Rygbi Cymru (URC) gydnabod fod rhai chwaraewyr yn cael eu colli o'r system yng Nghymru, wrth iddyn nhw ddewis colegau addysg bellach yn Lloegr.

Dywedodd un chwaraewr a symudodd i goleg yn Sir Gaerloyw ei fod wedi cael "sioc" o sylweddoli fod "90% o'r tîm" rygbi yn gyd-Gymry.

Daw hynny wrth i arolwg gan BBC Wales Investigates awgrymu bod tua hanner ysgolion Cymru'n ei chael hi'n anodd trefnu sesiynau ymarfer a gemau cyson i'w timau rygbi.

'No-brainer'

Gyda'r Cwpan Byd diweddar wedi tanio brwdfrydedd llawer o bobl mewn rygbi unwaith eto, mae URC yn dweud bod y niferoedd sy'n chwarae ar lefel ieuenctid mor iach ag erioed.

Ond wrth iddyn nhw fynd yn hŷn, mae nifer o'r rhai mwyaf talentog yn cael eu denu gan golegau yn Lloegr sy'n arbenigo mewn rygbi, ac yn cynnig cysylltiadau a llwybrau tuag at glybiau proffesiynol.

Mae'n llwybr sydd wedi cael ei ddilyn gan Louis Rees-Zammit a Dafydd Jenkins ymhlith eraill - dau chwaraewr oedd yng ngharfan Cymru yng Nghwpan y Byd.

Maen nhw wedi parhau i chwarae rygbi rhyngwladol dros Gymru, ond dydyn nhw erioed wedi chwarae dros un o ranbarthau Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Evan Minto a Steff Jac Jones yn esiamplau o'r Cymry sydd wedi mynd i Loegr yn y gobaith o ddatblygu eu gyrfa

Chwaraewr arall sy'n dilyn y trywydd hwnnw yw Steff Jac Jones, sy'n parhau i chwarae i academi'r Scarlets yn y cyfamser.

"O'dd e jyst yn no-brainer i fi yn y diwedd i ddod lan fan hyn ar ôl bod lan ar yr assessment days, a deall sut mae'r hyfforddwyr yn rhedeg hi," meddai am ei benderfyniad i fynd i Goleg Hartpury yn Sir Gaerloyw.

Roedd yn synnu hefyd i weld cymaint o Gymry ifanc eraill oedd wedi gwneud penderfyniad tebyg i'w un ef.

"Fi'n cofio tîm cyntaf blwyddyn ddiwethaf, o'dd tua 90% o'r tîm yn Gymry," meddai.

"Ma' fe'n sioc ond wedyn mae'n neis i gael bois Caerdydd, bois o gwmpas Cymru i gyd yn dod 'ma."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gruff Rees ei fod yn gweld mwy o chwaraewyr ifanc yn gadael Cymru

Er bod "cyfleoedd addysg da" yng Nghymru, meddai Gruff Rees, rheolwr academi Rygbi Caerdydd, mae'r llif o chwaraewyr sy'n gadael yn y blynyddoedd diwethaf wedi cynyddu.

"Mae loads o nhw'n 'neud e nawr, mae lot o rifau'n mynd 'na [i Loegr]," meddai.

"Dyletswydd fi yw just i 'neud yn siŵr, gobeithio, bod system talent ID ni yn un iawn, a fi'n datblygu perthynas dda 'da'r rhieni a gyda'r plant, yn enwedig gyda'r gorau.

"Mae'n rhaid i ni fod yn sicr o bwy yw'r gorau, a sut allen nhw gadw'r gorau o gwmpas y rhanbarth."

Negeseuon 'cymysg' a phenderfyniadau 'andwyol'

Mae Trystan Edwards, pennaeth Ysgol Garth Olwg yn Rhondda Cynon Taf, wedi gweld sawl chwaraewr o'r ysgol yn symud i golegau dros y ffin yn ddiweddar, yn hytrach na pharhau gyda'u haddysg ôl-16 yn eu hysgolion lleol.

"Mae'r negeseuon yn rhai cymysg iawn i ddisgyblion 16 mlwydd oed am eu cam nesaf nhw, a rygbi sy'n cael ei drafod, nid addysg," meddai.

"Felly mae'r penderfyniadau yna i ddisgybl 16 oed yn anodd iawn, ac yn sicr yn andwyol o ran addysg, o ran symud i ffwrdd o grwpiau ffrindiau, a'r pwysau yna mor gynnar mai dyna'r unig drywydd o ran llwyddo mewn rygbi."

Disgrifiad o’r llun,

Mae disgyblion yn wynebu penderfyniadau anodd wrth benderfynu ar eu cam nesaf, medd Trystan Edwards

Er ei fod yn deall rhesymau rhai dros symud, mae'n teimlo bod angen esbonio'r manteision o aros yng Nghymru yn well.

"Dwi'n teimlo bod y neges yna angen bod yn fwy cytbwys yn y dyfodol, er lles y disgyblion, achos disgyblion ifanc ydyn nhw wedi'r cyfan," meddai.

"Maen nhw'n cwrso'r freuddwyd yma, ac ry'n ni'n gwybod mai nifer fach o ddisgyblion yn y pendraw sy'n ei gwneud hi ar lefel proffesiynol.

"Felly dylen ni fod yn hybu cyfranogiad ar bob lefel yn hytrach na chreu rhyw lefel elît sydd ddim angen cael ei greu ar yr oedran hyn."

Disgrifiad o’r llun,

Mae faint o rygbi sy'n cael ei chwarae yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn yn Ysgol Gyfun Gwent Is Coed

Mewn arolwg gan raglen BBC Wales Investigates o 143 ysgol uwchradd yng Nghymru, fe ddywedodd bron pob un fod ganddyn nhw dimau bechgyn, gyda mwyafrif hefyd yn rhedeg timau merched bellach hefyd.

Ond mae pryder ymhlith rhai bod nifer o chwaraewyr yn cael eu colli i'r gêm wrth iddyn nhw fynd yn hŷn, oherwydd diffyg cyfleoedd i chwarae.

Erbyn Blwyddyn 10, ychydig dros hanner y timau oedd yn ymarfer unwaith yr wythnos, a dim ond 40% oedd yn chwarae o leiaf wyth gêm mewn blwyddyn.

Ac roedd canran debyg o ysgolion hefyd wedi rhoi'r gorau i redeg timau chweched dosbarth yn yr 20 mlynedd ddiwethaf, gyda diffyg diddordeb a phroblemau staffio ymhlith y rhesymau a roddwyd.

'Anodd cynnal sesiynau cyson'

Ysgol Gyfun Gwent Is Coed yng Nghasnewydd yw un o'r rheiny sy'n ceisio rhedeg timau bechgyn hyd at Flwyddyn 11, ond gan mai ond 500 o ddisgyblion sydd ganddyn nhw, mae'n her i'w cynnal.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r niferoedd sy'n cymryd rhan yn gostwng wrth i'r disgyblion fynd yn hŷn, medd Geraint Davies

"Mae 'di bod yn anodd i gynnal sesiynau cyson bob wythnos," meddai Geraint Davies, yr athro Addysg Gorfforol.

"Gyda Blwyddyn 9 ni wedi trio cynnal tair, bedair gêm tymor hyn, ond ni wedi gorfod canslo bob un achos does dim digon o fechgyn wedi troi lan.

"Ar y llaw arall gyda Blwyddyn 8 ni 'di cael pedair gêm yn barod, lot o rifau 'da ni, felly mae'n amrywio o flwyddyn i flwyddyn."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Levi a Deiniol yn awyddus i gael chwarae rygbi'n fwy aml

Mae Levi a Deiniol o Flwyddyn 8 yn "caru" chwarae rygbi, ac yn cytuno yr hoffen nhw gael gemau'n fwy cyson.

"Mae'n dda y nifer ni'n cael, ond os o'n i'n gallu bydden i'n hoffi cael mwy, bendant," meddai Levi.

Ychwanegodd Deiniol: "Mae pawb yn mwynhau e gymaint, bydden i'n chwarae e bob tro ar ôl ysgol os ni'n gallu."

'Ni wedi newid pethau'

Yn ôl Geraint John, cyfarwyddwr cymunedol Undeb Rygbi Cymru, mae'r gêm ar lefel ieuenctid yn parhau i fod yn iach.

"Reit nawr, ynglŷn â'r gêm ysgol, mae mwy o ysgolion yn chwarae'r gêm ar y prif lefel," meddai.

"Mae 86 o ysgolion yn chwarae 'da ni tymor hyn - 10 mlynedd yn ôl dim ond 66 oedd yn chwarae.

"'Na beth oedd ysgolion Cymru yn dweud wrthon ni. Felly mae'r gêm wedi tyfu."

Disgrifiad o’r llun,

"Tipyn bach o chwaraewyr" sy'n cael eu colli i golegau dros y ffin, medd Geraint John

Mae'n cydnabod fodd bynnag eu bod nhw'n "colli tipyn bach o chwaraewyr", a bod rhaid iddyn nhw wneud "yn well 'na beth ni'n 'neud" i'w cadw.

"Ni wedi newid pethau," meddai. "Ni wedi gwneud cynnydd newydd yn y gêm ysgolion.

"Ni wedi newid beth sy'n digwydd nawr o dan 16. Ni wedi newid yr oedran yn y gêm glwb ynglŷn ag 16 i 19.

"Mae rhaid i ni gadw edrych ar beth sy'n digwydd, i wneud yn siŵr bod mwy o chwaraewyr yn dod mewn am y dyfodol."

Gwyliwch BBC Wales Investigates ar BBC One Wales am 20:00 nos Fercher neu ar iPlayer.

Pynciau cysylltiedig