'Nes i oroesi 38 diwrnod yn y môr ar ôl llongddrylliad'

Y criw pan gawson nhw eu hachub ar ôl 38 diwrnFfynhonnell y llun, Robin Williams
Disgrifiad o’r llun,

Robin (dde) a gweddill y criw pan gawson nhw eu hachub ar ôl 38 diwrnod mewn bad achub plastig yng nghanol y môr

  • Cyhoeddwyd

Yn 1972, roedd Robin Williams yn 22 oed, ac wedi cymryd blwyddyn allan ar ôl y brifysgol i ddilyn ei freuddwyd o deithio’r byd.

Ond fe drodd y freuddwyd yn hunllef pan suddodd y llong roedd yn teithio arni yn y Cefnfor Tawel a bu’n rhaid iddo frwydro i fyw er mwyn cael dychwelyd adref, a hynny am bron i chwech wythnos.

Dim dŵr, dim bwyd; chwe pherson mewn bad achub llai na maint gwely dwbl yng nghanol y môr... a dim sôn am neb i'w hachub.

Dyma ei stori anhygoel.

Teithio'r byd

Y mis Medi ar ôl iddo raddio o'r coleg, roedd Robin Williams, sydd â'i deulu o ardal Llangollen, wedi neidio ar awyren i'r Unol Daleithiau am antur, gyda bras syniad o'i gynllun: crwydro tua'r de, drwy Ganol America, cyrraedd Seland Newydd a gweithio'i ffordd nôl adref.

Disgrifiad o’r llun,

Robin Williams yn sgwrsio â BBC Cymru Fyw am ei brofiad

"Erbyn Ebrill, o’n i wedi teithio lawr ac wedi cyrraedd Panama," eglurodd wrth BBC Cymru Fyw. "Ro’n i’n hollol hyderus mod i rhywsut – heb wybod o gwbl sut – am gael ‘lifft’ draw i Seland Newydd, ac o fewn ychydig wythnosau, 'nes i gwrdd â’r teulu Robertson. Gawson ni sgwrs am eu cynlluniau, ac o fewn awr, o’n i’n rhan o’r criw."

Y teulu oedd Dougal a Lyn Robertson a’u meibion Douglas, Sandy a Neil – ffermwyr o Swydd Stafford oedd wedi bod yn hwylio o amgylch y byd ar eu llong, Lucette, ers dechrau 1971.

"Roedden nhw’n cynnig beth o’n i eisiau, sef ffordd o gyrraedd Seland Newydd. Doedd gen i ddim profiad hwylio, ac roedden nhw’n derbyn hynny. Roedden nhw wedi hwylio draw o Aberfal (Falmouth) dros flwyddyn yn ôl, felly roedden nhw’n amlwg wedi llwyddo i groesi’r Iwerydd..."

Trychineb ar fwrdd y Lucette

Erbyn 15 Mehefin, roedd Robin wedi bod yn teithio ar y llong ac yn gweithio fel rhan o’r criw ers rhyw ddeufis, pan fwrodd forfilod orca’r Lucette ac achosi iddo ddechrau suddo.

"Ddigwyddodd o tua 10am, peth da iddo ddigwydd yng ngolau dydd," cofiodd. "O’n i wedi bod ar yr early watch, ac o’n i wedi mynd i ngwely. Dwi’n cofio rhywun yn gweiddi arna i o’r dec, ac roedd yna ddŵr ar y llawr, a dyna ddeffrodd fi.

"Roedd pawb yn rhuthro’n wyllt, yn ceisio casglu popeth oedden ni ei angen – eitemau defnyddiol, bwyd. Yna trefnu ein hunain yn y dingi, ac yn llythrennol o fewn dau funud, roedden ni’n eistedd ynddo yn edrych ar y llong yn suddo o dan wyneb y Cefnfor Tawel. Roedd hi mor gyflym â hynny."

Roedd y criw wedi llwyddo i lansio dau fad achub, oedd wedi eu clymu at ei gilydd; rafft gwynt o rwber, a dingi plastig a gafodd ei fedyddio yn ‘Ednamair’ gan y criw. Doedd yr un o’r ddau gwch yn hirach na naw throedfedd, felly roedd lle yn brin.

Ffynhonnell y llun, Douglas Robertson
Disgrifiad o’r llun,

Darlun o'r ddau fad achub - cartref y criw ar ôl y llongddrylliad, tan i'r rafft rwber, yn ei dro, suddo a bu'n rhaid i bawb fynd ar yr Ednamair - o'r llyfr Survive the Savage Sea gan Dougal Robertson

Wrth adael Ynysoedd y Galapágos ddeuddydd ynghynt, roedd Robin wedi ysgrifennu adref yn egluro na fyddai neb yn clywed ganddo am chwech wythnos. Doedd neb felly am sylweddoli eu bod mewn perygl.

Roedd angen cynllun ar frys.

Amcangyfrifodd gapten y llong, Dougal Robertson, o adael i’r cerrynt eu llywio, y byddai hi’n cymryd 72 diwrnod iddyn nhw gyrraedd America.

Wrth gwrs, y gobaith oedd y byddai llong yn dod o hyd iddyn nhw cyn hynny a’u hachub, ond o leiaf rŵan, roedd ganddyn nhw gynllun i ganolbwyntio arno.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"Dwi’n meddwl ei bod hi’n deg i ddweud, yn ffodus, bod yr un ohonon ni wedi panicio yn y dyddiau cynta 'na," cofiai Robin. "Wrth gwrs, roedd pawb yn poeni, ond roedden ni’n trio addasu i’r sefyllfa newydd. Ac roedd y syniad o drio cael ein hunain allan o’r sefyllfa yn amlwg yn ein meddyliau ni.

"Dwi ddim yn person mwyaf ymarferol, yn enwedig mewn sefyllfa fel hon. Ond o’n i mor werthfawrogol mai Dougal oedd y person delfrydol i’n harwain ni allan o hyn. Roedd rhaid i mi gael hyder ynddo fo.

"Do’n i byth ofn, sy'n rhyfedd. Rhywsut roedd o yn fy mhen i y bydden ni’n byw. Ac roedd hynny’n bwysig i mi, ond roedd angen dangos hynny i’r lleill hefyd.

"Wrth gwrs, cawson ni i gyd ein cyfnodau o fod yn isel, ond roedd rhaid bod yn bositif, ein bod ni i gyd am ddod drwy hyn. Ac o’n i jyst yn gwybod y bydden ni...

"Fuon ni’n lwcus; chawson ni ddim amodau echrydus o stormus. Cawson ni adegau brawychus, pan oedd y glaw yn drwm a’r tonnau yn chwipio, ond dim byd rhy dymhestlog."

Dim bwyd, dim diod

Wrth gwrs, dydi hynny ddim i'w ddweud ei bod hi'n fêl i gyd ar y criw. Gorffennodd eu dognau bwyd o fara sych, bisgedi, nionod a ffrwythau ar ôl ychydig ddyddiau, felly roedd rhaid defnyddio beth oedd o’u cwmpas.

Llwyddodd y criw i ddal crwban y môr ar y pedwerydd diwrnod, ac roedden nhw ddigon llwglyd i fwyta’r ‘cawl’ a gafodd ei wneud o’r cig a’r gwaed, a bwyta’r wyau oedd tu mewn iddo. Daeth crwban yn rhan hanfodol o ddeiet y criw wedi hynny.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Yn bwysicach na bwyd, wrth gwrs, oedd dŵr yfed. Rhan o’r cynllun oedd i anelu i gyrraedd ardal y Doldrums, sydd yn adnabyddus am fod yn lle glawog.

"Beth oedd yn hollbwysig oedd dŵr yfed. Dwi’n cofio yn ein pecyn argyfwng, roedd ganddon ni chwe chan o ddŵr yfed gyda’r label ‘Bottled in Merthyr Tydfil 1954’. O'dd hynny wastad yn gwneud i mi chwerthin.

"Wedi hynny, roedd dŵr glaw am fod yn hanfodol. Roedden ni’n gwybod lle oedden ni, ac roedd rhaid i ni ffeindio ardal glawog o bwysedd isel, ac fe lwyddon ni. Pan gyrhaeddon ni’r Doldrums, glawiodd hi ac fe gawson ni ddŵr yfed.

"Y broblem oedd, roedd rhaid casglu a storio’r dŵr yfed achos doedd dim modd gwybod pryd fyddai hi’n bwrw eto. Roedd hi wedyn yn gêm i beidio yfed gormod, ac fe roedd ‘na ambell i dro pan roedden ni lawr i’n diferion olaf o ddŵr... ond roedd cawod arall wastad yn dod mewn pryd.

"Yn fy meddwl i, ‘dan ni wedi goroesi un diwrnod, gallwn ni oroesi un arall’. Doedd dim lle i gwestiynu na gadael i ofn ddod i’r meddwl."

Ednamair

Trodd wythnos yn ddwy. Ar ddiwrnod 17 suddodd y dingi rwber, a bu’n rhaid i'r criw i gyd symud i’r Ednamair, a oedd ddim llawer mwy na maint gwely dwbl, felly roedd hi’n gyfyng iawn.

Wrth i’r amser basio, ceisiodd Robin gadw'i hun, ac eraill, yn bositif.

"Roedd hi’n anhygoel pa mor gyflym basiodd yr amser. Roedd wastad bethau i’w gwneud; delio efo problemau yn ymwneud â’r tywydd, y glaw, y dŵr, rhywun yn sâl...

"Ac wrth gwrs, 'naethon ni drio, gymaint ag y gallwn ni, i ymlacio. Chwarae gemau geiriau, cyfnewid straeon am ein bywydau. A hyd yn oed yn y nos – yn llythrennol y cyfnod duaf – roedd rhyw fath o gwsg dal yn bosib.

"Un fantais oedd gen i, dwi’n meddwl, oedd fy mod i’n berson positif iawn. 'Nes i sylweddoli, roedd hi fyny i mi i gadw’n ysbryd i fyny ac i ddangos hynny. Doedd ‘na ddim llawer o’n i’n gallu ei gynnig yn ymarferol, ond beth o’n i ddim am ei wneud oedd dangos fy mod i’n ddigalon.

Ffynhonnell y llun, Douglas Robertson
Disgrifiad o’r llun,

Robin (cefn, dde) gyda theulu'r Robertsons, yn ail-greu sut oedden nhw wedi ffitio yng nghwch yr Ednamair - o'r llyfr The Last Voyage of the Lucette gan Douglas Robertson

"Tuag at ddiwedd y cyfnod, cawson ni storm reit fawr; mellt, taranau, glaw mawr, y tonnau yn enfawr. Dyma pryd oedd y tywydd ar ei waethaf. Roedden ni’n neidio fyny a lawr, ac roedd y dingi yn fach a ninnau yng nghanol y Cefnfor Tawel.

"A’r unig beth oedden ni’n gallu ei wneud oedd gwagio’r dŵr o’r cwch drosodd a throsodd i’w gadw ar yr wyneb. Roedden ni’n ymladd am ein bywydau, tan i’r tywydd ddistewi o’r diwedd.

"Ond yr ochr arall i’r geiniog oedd ambell i noswaith, pan oedd y môr yn llonydd a’r haul yn machlud... roeddet ti’n lwcus i fod yn y sefyllfa brydferth honno, yng nghanol y Cefnfor Tawel. Neb yn agos am filoedd o filltiroedd, wrth i ti wylio’r haul ddiflannu ar y gorwel, a dyna ti yng nghanol y môr mawr a’r awyr mawr. Am olygfa.

"Roedd pawb o’r un feddylfryd – ‘dan ni am ddod drwy hyn, ac mae’n brawf i’r natur ddynol i allu goroesi pan fo pethau’n anodd. Roedd rhaid gwneud y gorau ohono fo."

Achubiaeth

Ar ddiwrnod 38, sef 23 Gorffennaf, gwelodd y criw gwch ar y gorwel, a thanio eu ffagl olaf i dynnu ei sylw. Yn ffodus, gwelodd y criw nhw, a hwylio draw i’w hachub. Llong bysgota o Siapan oedd y Toka Maru II, ac fe gafodd ei chriw sioc anferthol o weld y bobl oedd yn hwylio yng nghanol y môr mawr, mewn bad achub bach o blastig.

Roedd criw yr Ednamair wedi llwyddo i deithio 750 o filltiroedd, ond roedden nhw dal bron i 300 milltir i ffwrdd o unrhyw dir.

"Pan gawson ni ein hachub, yn ffodus, eto roedd hi’n olau dydd, tua 4pm," cofiai Robin. "Roedd hi’n her a hanner i ddringo’r rhwyd cargo tua 10 troedfedd i fyny i fwrdd y llong.

"Pan ‘nes i gyrraedd y top, dwi’n cofio trio sefyll a methu, achos doedd cyhyrau fy nghoesau heb gael eu defnyddio ers cyhyd. Gymerodd hi ryw ddau neu dri diwrnod i ddechrau cerdded.

"Yn amlwg roedden ni wedi colli pwysau, ond heblaw am ddiffyg ychydig o fitaminau, roedden ni’n iach."

Heddiw

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Genedlaethol Forwrol Cernyw
Disgrifiad o’r llun,

Yr Ednamair mewn arddangosfa arbennig yn Amgueddfa Genedlaethol Forwrol Cernyw - Llun gan Ian Cross

Mae’r Ednamair – y bad achub plastig a achubodd fywyd y chwech – bellach yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Forwrol Cernyw yn Aberfal, Cernyw; roedd y teulu wedi mynnu fod criw Toka Maru II yn ei achub o’r môr.

Dychwelodd Robin i Brydain, gan ailafael yn ei fywyd, yn sylweddoli fod ei freuddwyd o deithio’r byd am saib am ychydig. Ymgartrefodd ym Mryste a phriodi a magu teulu.

Dydi o erioed wedi dioddef sgil-effeithiau hir-dymor yn dilyn ei brofiad anhygoel, meddai, ac yn barod i hel atgofion am beth digwyddodd, gan gymryd cysur yn y peth hyd yn oed.

Ffynhonnell y llun, Robin Williams
Disgrifiad o’r llun,

Robin Williams - un o griw o chwech a oroesodd bron i chwech wythnos ar y môr ar ôl llongddrylliad yn 1972

"Dwi yn meddwl nôl amdano, yn enwedig pan mae gen i broblemau yn fy mywyd. Mae’n rhywbeth da i gyfeirio nôl ato; mae’n rhoi pethau yn eu cyd-destun.

"Mae’r holl heriau yn cael eu cymharu â’r heriau oedd gen i yn y Cefnfor Tawel. Os ti mewn lle gwael rŵan, meddylia nôl i 1972; 'Robin, on’dwyt ti’n lwcus i fod yma rŵan?'

"Dwi’n Gristion rŵan, ond do’n i ddim yn ei ystyried lawer bryd hynny. Ond dwi wedi edrych nôl a chwestiynu ‘Pam dwi dal yma?’. Efallai dros y blynyddoedd wrth i’r crefydd ddod mwy i mewn i 'mywyd, mae wedi dod fwy i mewn i’r stori. Roedd goroesi yn rhan enfawr o fy mywyd, a tybed pa ran chwaraeodd Duw yn hynny?

"Dwi’n mynd ddyddiau, wythnosau heb feddwl amdano, tan i mi gael fy atgoffa.

"A dwi’n gwenu amdano; rhyddhad, llawenydd, gorfoledd."

Pynciau Cysylltiedig