Balchder y llwybr o Streic y Glowyr at briodasau hoyw

Y Fan
  • Cyhoeddwyd

Bedwar degawd ers Streic y Glowyr mae criw bach o bobl o'r cymunedau glofaol yn dal i ddathlu meithrin cyfeillgarwch mae nhw'n mynnu newidiodd y DU am byth.

Nôl yn anterth y streic, mewn oes wahanol o ragfarn, trallod a heriau, fe dderbyniodd cymunedau Cwm Dulais, Cwm Nedd a phen ucha' Cwm Tawe gefnogaeth gan griw annisgwyl.

Fe roddodd ymgyrchwyr o Lundain, aelodau'r grwp LGSM, Lesbiaid a Hoywon yn cefnogi'r Glowyr, arian i'r cymunedau yma i brynu bwyd i'w cynnal.

Chafodd y gymwynas honno ddim mo'i hanghofio, gan arwain maes o law, medden nhw, at newid hawliau pobl hoyw.

Fe ddaeth yr ymweliad cyntaf gan rai aelodau o'r LGSM o Lundain, â chymoedd y De yn destun i'r ffilm boblogaidd 'Pride' a gafodd ei chynhyrchu'n 2014.

Disgrifiad o’r llun,

Aeth Sian James ymlaen i fod yn Aelod Seneddol am flynyddoedd

Mae un fenyw o'r cymoedd hynny, aeth ymlaen wedi'r streic i gael ei hethol yn Aelod Seneddol, yn dweud iddi hi deimlo braint a balchder ei bod hi'n gwasanaethu'n San Steffan pan gafodd deddfwriaeth i ganiatáu priodasau hoyw sêl bendith yn Nhŷ'r Cyffredin.

I nodi 40 mlynedd ers y streic, fe ddaeth aelodau'r grwpiau o Dde Cymru a Llundain at ei gilydd i dathlu a chydnabod yr hyn gafodd ei gyflawni.

Roedd Sian James yn aelod blaenllaw o grwp Cwm Dulais, a grëwyd gan famau a gwragedd lleol, er mwyn cynorthwyo teuluoedd i gael dau pen llinyn ynghyd adeg y streic. Aeth Ms James ymlaen i fod yn Aelod Seneddol dros Ddwyrain Abertawe.

Yn ystod ei degawd yn San Steffan o 2005 cafodd llu o newidiadau eu cyflwyno i ddeddfwriaeth i roi hawliau i bobl hoyw - yn eu plith priodasau hoyw.

"Fe wnaethon ni bethau yn ein rhan ni o dde Cymru arweiniodd at newid canfyddiadau pobl a'r farn gyhoeddus," meddai Sian James.

"Drwy undeb yr NUM ac undebau eraill fe wnaethoon ni newid polisi llywodraeth.

"O'dd pobl yn Brixton a Crystal Palace a llefydd tebyg wedi casglu arian ar ein rhan ni - nawr mae'n amser i ni wrando ar beth ma' nhw'n dweud ac ymgyrchu dros nhw."

Fe dalwyd y gymwynas yn ôl ychydig fisoedd wedyn, gyda glowyr yn ymuno yng ngorymdaith Pride yn Llundain ym 1985 - cam sylweddol tuag at newid agweddau o fewn gwleidyddiaeth.

Disgrifiad o’r llun,

"Fe agorodd hyn fy llygaid i fyd gwahanol," medd Jane Francis-Headon

Ond nid dim ond y gyfraith a gafodd ei newid. Mae aelodau'r grwpiau yn cydnabod hefyd i'w profiadau ganol yr wythdegau adael eu hôl a newid eu bywydau.

Roedd Jane Francis-Headon yn 16 oed adeg y streic a'i mam yn ysgrifenyddes grŵp Cwm Dulais.

"Fe agorodd hyn fy llygaid i fyd gwahanol," meddai.

"Does dim rhaid i fi fod yn dawel, dw i'n gallu siarad, dw i'n gallu sefyll i fyny a dweud beth dwi angen dweud wrth bobl ac mae pobl yn moyn clywed amdano fe ac mae hwnna werth r'wbeth.

"Dyna sut mae fe wedi newid fy mywyd, ac hefyd dw i wedi priodi i fenyw ac mae gwraig gyda fi ac mae hwnna yn r'wbeth arall i fod yn perthyn fy hunan i'r lgbt community hefyd."

Mae Jane yn ychwanegu hefyd bod rhyddhau'r ffilm Pride, gafodd ei henwebu ar gyfer gwobr Golden Globe, wedi golygu am y tro cyntaf fod pobl yn credu stori y bu'n ei hadrodd ar hyd y blynyddoedd.

Disgrifiad o’r llun,

Soniodd Mike Jackson am "foment mwya anhygoel fy mywyd"

Fe newidiodd y cyfarfod ym mhentre Onllwyn ger Blaendulais fywyd Mike Jackson aelod o'r grŵp LGSM hefyd.

"Pam wnaethon ni gerdded mewn i'r neuadd les, (oedd yn llawn), roedd na 27 ohonom. Roeddem ni'n amlwg iawn. Fe aeth y lle'n gwbl dawel am ychydig eiliadau.

"Yna dechreuodd rai guro dwylo, ac yna fe safodd pawb ar eu traed yn cymeradwyo, a dyna foment mwya anhygoel fy mywyd."

Solidariaeth annisgwyl. Seilio cyfeillgarwch rhwng dwy gymuned oedd yn profi heriau a gwrthwynebiad. Solidariaeth a chyfeillgarwch sy'n sefyll 40 mlynedd wedyn.