Placiau er cof am ymgyrchwyr streic y glowyr

  • Cyhoeddwyd
Pride
Disgrifiad o’r llun,

Mae Pride yn portreadu cyfuniad rhwng ymgyrchwyr hawliau pobl hoyw a gweithwyr y pyllau glo

Bydd placiau er cof am ddau o ymgyrchwyr streic y glowyr, wnaeth helpu ysbrydoli ffilm Pride, yn cael eu gosod yn Nyffryn Dulais ddydd Sadwrn.

Roedd Mark Ashton yn ffigwr blaenllaw yng ngrŵp Lesbiaid a Hoywon sy'n Cefnogi'r Glowyr yn ystod y streic yn 1984.

Yr enw arall ar y plac arall yw Hefina Headon - ysgrifennydd Grŵp Cefnogi'r Glowyr.

Fe fydd y ddau yn cael eu cofio gyda phlaciau ar Neuadd Les y Glowyr yn Onllwyn, Castell-nedd Port Talbot.

Bydd aelodau grŵp Lesbiaid a Hoywon sy'n Cefnogi'r Glowyr yn mynychu'r seremoni ddydd Sadwrn, sy'n dilyn gorymdaith Pride Abertawe.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd y placiau'n cael eu gosod yn Neuadd Les y Glowyr yn Onllwyn

Cafodd bywydau Mr Ashton a Ms Headon eu portreadu yn ffilm Pride yn 2014 - ffilm enillodd Bafta am y ffilm gyntaf orau gan ysgrifennwr, gyfarwyddwr neu gynhyrchydd o Brydain.

Fe wnaeth Mr Ashton helpu ffurfio'r grŵp, wnaeth godi arian i ddarparu bwyd a chefnogaeth i lowyr oedd yn streicio a'u teuluoedd.

Bu farw yn 1987 ag yntau ond yn 26 oed.

Disgrifiad,

Dywedodd Siân James bod Mark Ashton wedi "sbarduno pobl i gymryd rhan"

Dywedodd ei ffrind, a chyn-AS Dwyrain Abertawe, Siân James ei fod yn "gymeriad grêt" oedd yn "dod â phobl at ei gilydd".

"Does gen i ddim amheuaeth, pe bai wedi byw yn hirach fe fyddai wedi cyflawni pethau mawr," meddai.

"Fe gymrodd hi rywun dewr iawn fel Mark i ddweud 'mae'n rhaid i ni wneud rhywbeth'.

"Rydyn ni'n hoffi meddwl y dylai pob person hoyw edrych ar yr ardal yma fel lle yn eu hanes, a bod croeso iddyn nhw yma.

"Roedd ein cymuned ar flaen y gad mewn ffordd. Doedden ni ddim yn meddwl ein bod yn newid hanes. Oll roedden ni'n ei wneud oedd bod yn bobl teidi."

Disgrifiad o’r llun,

Imelda Staunton (dde) oedd yn portreadu Hefina Headon yn ffilm Pride

Neuadd Les y Glowyr yn Onllwyn oedd canolbwynt y gymuned yn ystod y streic, a dyma hefyd oedd pencadlys Grŵp Cefnogi'r Glowyr yn yr ardal.

Cafodd dros 4,000 o bobl eu bwydo yno, a £350,000 ei godi yn ystod y streic.

Bu farw Ms Headon, gafodd ei phortreadu gan Imelda Staunton yn y ffilm, yn 2013, cyn iddyn nhw ddechrau ffilmio.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Allison Williams bod ei mam "ddim yn gwneud y pethau yma i gael clod neu anrhydedd"

Dywedodd ei merch, Allison Williams ei bod yn falch iawn o gyfraniad ei mam.

"Mae'n emosiynol iawn. Doeddwn i erioed yn disgwyl hyn, oherwydd doedd hi ddim yn gwneud y pethau yma i gael clod neu anrhydedd," meddai.

"Roedd hi wedi ymgolli yn y streic. Ei nod mewn bywyd oedd helpu eraill ac fe wnaeth hi ein magu ni i feddwl fel yna hefyd."

Bydd y placiau'n cael eu dadorchuddio brynhawn Sadwrn.