Prif Weinidog Keir Starmer yn ymddiheuro i AS Plaid Cymru

Liz Saville Roberts Ffynhonnell y llun, Tŷ'r Cyffredin
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Liz Saville Roberts wedi gofyn "a oes unrhyw gred sydd ganddo sy'n goroesi wythnos yn Downing Street?"

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Prif Weinidog Keir Starmer wedi ymddiheuro i arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan am fod yn "rhy anghwrtais" wrthi yn Nhŷ'r Cyffredin.

Yn sesiwn Cwestiynau i'r Prif Weinidog ddydd Mercher diwethaf, dywedodd Syr Keir Starmer wrth Liz Saville Roberts ei bod hi'n "siarad sothach (rubbish)".

Daeth hyn mewn ymateb i gyhuddiad gan Ms Saville Roberts fod y prif weinidog wedi newid ei egwyddorion i ddilyn grwpiau ffocws.

Ond ddydd Mawrth, wrth annerch Ms Saville Roberts unwaith eto yn Nhŷ'r Cyffredin, dywedodd Syr Keir Starmer "rwy'n credu fy mod i wedi bod yn rhy anghwrtais yr wythnos diwethaf ac rwy'n ymddiheuro".

Dywedodd Ms Saville Roberts yn ddiweddarach, "rwy'n croesawu ymddiheuriad y prif weinidog - mae'r siambr yn lle gwell o gael pobl i gyfaddef eu camgymeriadau".

Ddydd Mercher diwethaf fe wnaeth Liz Saville Roberts ganolbwyntio ar araith y prif weinidog ar gyfyngu ar fewnfudo, gan feirniadu ei rybudd bod y DU mewn perygl o ddod yn "ynys o ddieithriaid" heb newidiadau i'r system fewnfudo.

Yng Nghwestiynau i'r Prif Weinidog, gofynnodd Liz Saville Roberts iddo a oedd "unrhyw gred sydd ganddo sy'n goroesi wythnos yn Downing Street?"

"Oes, y gred ei bod hi'n siarad sothach (rubbish)," atebodd Syr Keir.

Dywedodd Starmer fod angen system fewnfudo ar y DU "yn seiliedig ar egwyddorion rheolaeth, dethol a thegwch".

'Rwy'n parchu'r aelod anrhydeddus'

Ond ddydd Mawrth, wrth ymateb i gwestiwn arall gan Liz Saville Roberts yn Nhŷ'r Cyffredin ynghylch y berthynas â'r Undeb Ewropeaidd, dechreuodd y prif weinidog ei ateb gydag ymddiheuriad i'r aelod o Blaid Cymru.

"Rwy'n credu fy mod i wedi bod yn rhy anghwrtais yr wythnos diwethaf ac rwy'n ymddiheuro. Rwy'n parchu'r aelod anrhydeddus."

Roedd y prif weinidog wedi cael ei feirniadu o fewn ei blaid ei hun am y sylwadau, gyda'r Arglwydd Harriet Harman yn dweud wrth bodlediad Electoral Dysfunction y dylai fod wedi "egluro'n iawn, dyma beth rydyn ni'n ei olygu...yn hytrach na'i tharo i lawr yn unig".