Chwarter ASau Llafur ddim am sefyll yn etholiad 2026

Mae Julie Morgan wedi bod yn aelod dros Ogledd Caerdydd ers 2011
- Cyhoeddwyd
Mae'r Aelod o'r Senedd Julie Morgan wedi cyhoeddi na fydd yn ceisio cael ei hethol yn 2026.
Dywedodd y bu'n "anrhydedd" i fod yn aelod dros Ogledd Caerdydd ers 2011.
Mae'r cyhoeddiad diweddaraf yn golygu y bydd o leiaf chwarter yr ASau Llafur presennol yn rhoi'r gorau iddi y flwyddyn nesaf.
Y gweddill sydd eisoes wedi cyhoeddi na fyddan nhw'n dychwelyd i Fae Caerdydd yw'r cyn-brif weinidogion Mark Drakeford a Vaughan Gething, gweinidog yr economi Rebecca Evans, y dirprwy weinidog Dawn Bowden, y cyn-ddirprwy weinidog Lee Waters, y cyn-Gwnsler Cyffredinol Mick Antoniw ac AS canolbarth a gorllewin Cymru Joyce Watson.
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd24 Ionawr
- Cyhoeddwyd17 Ionawr
Ym 1997 etholwyd Julie Morgan yn AS dros Ogledd Caerdydd - y fenyw gyntaf i gynrychioli Caerdydd yn San Steffan ac un o'r 13 o fenywod yn unig sydd erioed wedi bod yn ASau Cymreig.
Roedd yn AS am 13 mlynedd nes iddi golli'r sedd o 194 pleidlais yn 2010.
Cafodd ei geni yng Nghaerdydd a'i haddysgu yn Ysgol Gynradd Dinas Powys, Ysgol Howell's yng Nghaerdydd, Coleg y Brenin Llundain, Prifysgol Manceinion a Phrifysgol Caerdydd.
Mae'n gyn-gyfarwyddwr cynorthwyol i Barnardo's yng Nghymru.
Roedd hefyd yn gynghorydd ar Gyngor De Morgannwg o 1985 i 1997.