Hutt: Gallai'r Gymraeg fod yn 'arf integreiddio pwerus iawn'
- Cyhoeddwyd
Mae angen "gwell dealltwriaeth o brofiad byw y 10,000 o siaradwyr Cymraeg o gymunedau lleiafrifoedd ethnig" medd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol.
Dywedodd Jane Hutt bod hynny yn un o nodau Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, er mwyn "llywio camau gweithredu ac ymyriadau i ddileu hiliaeth".
Y nod, meddai, yw "Cymru sy'n fwy cyfartal; Cymru o gymunedau cydlynus; a Chymru o ddiwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu".
Galwodd Plaid Cymru am "dargedau pendant" tra bod y Ceidwadwyr am weld "camau ymarferol i roi pŵer gwirioneddol i'r bobl yn ein cymunedau".
Plant Wcráin yn dangos y ffordd?
Dywedodd Ms Hutt y gallai'r iaith fod yn "arf integreiddio pwerus iawn".
Defnyddiodd yr enghraifft o sut mae plant Wcráin yn dysgu Cymraeg trwy ganolfannau trochi, a phrosiectau fel Dydd Miwsig Cymru ac adnoddau 'Croeso i Bawb' y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Tynnodd y gweinidog sylw hefyd at waith y Mudiad Meithrin, a lansiodd y cynllun AwDUra yn ddiweddar.
"Mae'r prosiect hwn yn grymuso ac yn galluogi pobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig i ysgrifennu llenyddiaeth plant yn y Gymraeg er mwyn mynd i'r afael â thangynrychioli cymunedau lleiafrifoedd ethnig mewn llenyddiaeth Gymraeg," meddai.
"Rydym hefyd yn gweithio gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Choleg Caerdydd a'r Fro i ddatblygu digwyddiad ymgysylltu er mwyn dysgu gan bobl ifanc o leiafrifoedd ethnig sy'n siarad Cymraeg.
"Byddwn yn gwrando ar eu lleisiau er mwyn llunio'r camau nesaf i ni gymryd er mwyn sicrhau bod anghenion siaradwyr Cymraeg ifanc o leiafrifoedd ethnig yn cael eu diwallu."
'Ysbrydoliaeth'
Ychwanegodd Jane Hutt: "Mae'r Urdd hefyd yn parhau i arloesi yn y maes hwn, ac edrychaf ymlaen at gyfarfod Nooh, eu swyddog datblygu chwaraeon, amrywiaeth a chynhwysiant newydd yn fuan, sy'n siarad Cymraeg yn hyderus ar ôl misoedd yn unig o'i dysgu.
"Mae o'n ysbrydoliaeth i ni i gyd."
Ers ymuno â'r Urdd mae Nooh Ibrahim yn derbyn gwersi Cymraeg dwys yn ddyddiol, ac mae ei sesiynau pêl-droed ac aml-chwaraeon wedi ennyn diddordeb mawr gan blant a phobl ifanc yn y brifddinas.
Ar ran Plaid Cymru, dywedodd Heledd Fychan AS ei bod yn croesawu amcanion Llywodraeth Cymru o ran cydlynu'r gwaith cyfiawnder cymdeithasol gyda'r gwaith o hybu'r Gymraeg.
"Mae'n bwysig cydnabod bod hybu'r Gymraeg yn fater o gyfiawnder cymdeithasol, ac felly mae yna berthynas gref rhwng gwahanol bortffolios," meddai.
"Fodd bynnag, mae yna angen i weld targedau pendant yn mynd law yn llaw gyda'r amcanion hyn, a'r gwir ydy, fel y dangoswyd diwedd flwyddyn ddiwethaf gyda chanlyniadau'r cyfrifiad, fod amcanion 'Cymraeg 2050' ymhellach i ffwrdd rŵan nag yr oeddent pan y'u gosodwyd.
"Am yr ail ddegawd yn olynol mae cyfran y siaradwyr Cymraeg wedi'i gostwng, gan gyrraedd y lefel isaf erioed o 17.8 y cant. Mae hyn yn cyfateb i bron i 24,000 yn llai o siaradwyr Cymraeg o'i gymharu â 10 mlynedd yn ôl, a cholled o 44,000, sy'n gyfatebol i boblogaeth Merthyr Tudful, ers 2001."
Dywedodd ei bod yn anodd gweld sut all y Gweinidog gyrraedd y nod heb "newid radical o ran y ffordd mae'r Gymraeg yn cael ei ddysgu ym mhob ysgol yng Nghymru".
"Dylai hyn gael ei ystyried hefyd yng nghyd-destun y ffaith mai dim ond tua 20% o'n plant ar hyn o bryd sy'n cael y cyfle i gael eu haddysgu'n llawn drwy gyfrwng y Gymraeg," meddai Ms Fychan.
Dywedodd y Ceidwadwr Mark Isherwood bod angen "camau ymarferol... i roi llais, dewis, rheolaeth a grym gwirioneddol i'r bobl yn ein cymunedau".
Galwodd am gymorth ar gyfer "prosiectau a ddatblygwyd gan bobl leol yng Nghymru lle gall pawb deimlo ymdeimlad o berchnogaeth dros iaith, diwylliant, perfformiad economaidd a lles cymdeithasol Cymru".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2022