Mwclis o gasgliad Marcwis o Fôn yn gwerthu am £3.8m
- Cyhoeddwyd
Mae mwclis a oedd unwaith yn eiddo i deulu Marcwis o Fôn wedi gwerthu am £3.8m mewn ocsiwn yn Y Swistir.
Mae’r gemwaith yma yn dyddio 'nôl i’r 18fed ganrif, ac ar un adeg roedd yn cael ei adnabod fel ‘Mwclis Ynys Môn’.
Cafodd y mwclis ei gwisgo yn ystod coroni Brenin George VI yn 1937 ac yn ystod coroni Brenhines Elizabeth II yn 1953.
Roedd yn rhan o gasgliad teulu Marcwis o Fôn, ac yn cael ei gwisgo gan Marjorie Paget, Marcwis Ynys Môn yn ystod yr 1930au.
Roedd Ms Paget yn awdur ac yn ddylunydd, a'i gŵr, Charles Paget oedd chweched Marcwis Ynys Môn.
Er bod disgwyl i’r mwclis werthu am £1.4m-£1.9m, yn dilyn bidio cystadleuol, fe aeth am £3.8m yn yr ocsiwn yng Ngenefa.
Mae hanes y teulu Marcwis wedi ei gofnodi mewn ffilm yn ddiweddar - Madfabulous - sy’n canolbwyntio ar fywyd Henry Cyril Paget, pumed Marcwis Ynys Môn.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Medi
- Cyhoeddwyd4 Medi
- Cyhoeddwyd12 Medi 2017