Ffilm newydd yn dilyn hynt a helynt Marcwis o Fôn

Logo'r ffilm newydd 'Madfabulous'
Disgrifiad o’r llun,

Mae ffilm newydd 'Madfabulous' yn canolbwyntio ar fywyd Henry Cyril Paget, pumed Marcwis Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd

Mae ffilm newydd sy'n canolbwyntio ar un o Farcwisiaid mwyaf unigryw Ynys Môn yn cael ei ffilmio yng ngogledd Cymru ar hyn o bryd.

29 oed oedd Henry Cyril Paget, pumed Marcwis yr ynys, pan fu farw yn 1905.

Adeg ei farwolaeth, roedd yn fethdalwr ac fe adawodd ddyledion enfawr sy'n cyfateb i thua £45 miliwn heddiw.

Mae stori'r pumed Marcwis yn cael ei hadlewyrchu mewn ffilm newydd sbon o'r enw ‘Madfabulous’.

Yr actor sydd fwyaf adnabyddus am actio yn y gyfres ‘It’s A Sin’, Callum Scott Howells o Dreorci, sy'n chwarae prif ran y Marcwis.

Mae cyfarwyddwr ac awdur y sgript yn dod o Ynys Môn.

Mae actorion adnabyddus eraill yn rhan o'r cynhyrchiad, gan gynnwys Rupert Everrett a Julian Lewis Jones.

Ffynhonnell y llun, The Other Richard
Disgrifiad o’r llun,

Yr actor Callum Scott Howells, sydd fwyaf adnabyddus am actio yn y gyfres 'It's A Sin', sy'n chwarae rhan y Marcwis

Roedd Henry Cyril Paget yn hoff iawn o berfformio, ac yn aml yn gwahodd y cyhoedd i’w wylio’n perfformio mewn theatr a adeiladodd ar ei stad ym Mhlas Newydd ger Llanfairpwllgwyngyll yn 1901.

Roedd yn hoff iawn o ddawnsio ac yn gwisgo dillad lliwgar llawn gemwaith drud wrth iddo berfformio ar y llwyfan.

Roedd pobl yn aml yn cyfeirio ato fel 'The Dancing Marquess’ .

Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd Callum Scott Howells, sy'n chwarae'r brif ran yn y ffilm: "Wrth adrodd ei stori bob dydd rwy'n dysgu cymaint amdano fel person drwy'r sgript.

"Rwy'n teimlo mor freintiedig i fod yn adrodd stori Henry, ac yn lwcus iawn, iawn o fod yn cael adrodd ei stori yma yng Nghymru."

Ychwanegodd : "Mae'r ffilm yma mor gyffrous... mae Henry yn gymeriad anhygoel, ond mae Henry hefyd yn complex a full of multiple layers."

Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai golygfeydd yn cael eu ffilmio yng Nglynllifon ger Caernarfon

Mae ffilm 'Madfabulous' yn cael ei chyfarwyddo gan yr actor a'r sgriptiwr Celyn Jones ac yn cael ei ffilmio ym Mhlas Newydd ym Môn ynghyd â lleoliadau eraill ger Pwllheli a Chaernarfon.

Un lleoliad ffilmio ydi'r plasty ar stad Glynllifon ger Caernarfon, sydd wedi’i addurno i adlewyrchu'r arddull odidog oedd Henry Paget yn hoff ohoni.

Disgrifiad o’r llun,

Mae 'Madfabulous' yn cael ei ffilmio yng ngogledd Cymru

Mae hanes lliwgar etifedd y pumed Marcwis wedi ei gadw'n dawel am dros ganrif wedi iddo wario holl gyfoeth y teulu ar gynnal dramâu drud a gwisgo mewn gwisgoedd crand wedi eu gorchuddio mewn diemyntau.

Ond roedd wrth ei fodd yn diddanu'r gymuned leol gyda'i ryfeddodau ac yn adnabyddus am ei gariad tuag at fyd y theatr.

Dywedodd Callum Scott Howells ei fod yn rhannu ei angerdd am fyd y theatr: “Rwy’n meddwl mai dyna un o’r rhesymau pam y daeth Celyn ata' i chwarae rhan Henry.

"Roedd yn gwybod fy mod wedi gwneud llawer o bethau ar y llwyfan ac roeddwn yn y sioe 'Cabaret' yn y West End ac rwyf wrth fy modd â'r theatr.

Ffynhonnell y llun, The Wellcome Collection
Disgrifiad o’r llun,

Y pumed Marcwis, Henry Paget yn gwisgo un o'i wisgoedd mawreddog

Mae'r ffilm yn seiliedig ar sgript gan Lisa Baker o Ynys Môn.

Cafodd y cyfarwyddwr Celyn Jones ei fagu ar yr ynys hefyd ond dywedodd mai'r cyfan yr oedd yn ei wybod am y pumed Marcwis oedd ei gariad at gael tynnu ei lun mewn gwisgoedd mawreddog.

Dywedodd: "Cafodd lluniau ohono eu rhannu ar draws y byd ac roeddwn i'n edrych arnyn nhw a meddwl, ai dyma'r 1890au? Ai rhyw seren roc glam ydy o?"

Ffynhonnell y llun, Joseph Sinclair
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Tom Rhys-Harries ei fod yn "hwyl" cael ffilmio gyda "lot o dalent Cymreig"

Mae'r actor Tom Rhys-Harries o Gaerdydd yn rhan o'r cast ac yn dweud bod talent 'Cymreig' o flaen a thu ôl i'r camera.

Mae o'n chwarae rhan Nick yn y ffilm, sy'n gynhyrchydd theatr.

Dywedodd: "Fi'n rili mwynhau cael chwarae cymeriadau sydd efallai efo ulterior motives... fi'n rili mwyhau saethu nôl yng Nghymru a gallu bod yn rhan o gynyrchiadau fan hyn sydd yn beth pleserus.

"Fi'n meddwl fod e'n hynod o bwysig i ni fel y Cymry sydd yn genedl hynod o greadigol ein bod ni'n hybu creative industries fan hyn - mae 'na gymaint o dalent yng Nghymru."

Dywedodd fod hi'n bwysig iddo "gallu dod nôl i gynrychioli a hysbysebu Cymru mewn golau da".

Ychwanegodd: "Mae hynny'n beth hynod o bwysig i fi... bod ni'n gallu dangos ein hunain i'r byd. Mae 'na farchnad fawr allan yno, lle ddylai ni gymryd mantais o hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai golygfeydd y ffilm 'Madfabulous' yn cael ei ffilmio ar stad Glynllifon ger Caernarfon

Mae ffilm ‘Madfabulous’ yn cael ei chynhyrchu gan y cwmni Mad As Birds ac yn cael ei chefnogi gan Ffilm Cymru gydag arian y Loteri Genedlaethol a gan Lywodraeth Cymru trwy Cymru Greadigol.

Tra bod y ffilm wedi’i hysbrydoli gan fywyd y pumed Marcwis, mae'n cael ei disgrifio fel ffilm sy'n “ail-ddychmygu” ei holl gampau a'i ryfeddodau.

Mae’r cynhyrchwyr yn gobeithio gwerthu’r ffilm i gwmni arall er mwyn ei rhyddhau yn y dyfodol.

Pynciau cysylltiedig