Gollwng cynllun deintyddol dadleuol ond mwy o aros i rai

Grace OwenFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

"Mae pawb yn haeddu gofal deintyddol da," medd Grace Owen o Golan ger Porthmadog

  • Cyhoeddwyd

Wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi eu bod yn gollwng y cynllun deintyddol dadleuol oedd yn golygu gweld deintyddion gwahanol, dywed un deintydd blaenllaw bod y gwasanaeth iechyd ar chwâl.

Ar lawr gwlad dywed nifer nad yw'n bosib gweld deintydd GIG bellach a'u bod wedi gorfod mynd yn breifat.

Mae Grace Owen, sy'n byw yng Ngolan ger Porthmadog, wedi mynd at ddeintyddion Gwasanaeth Iechyd ers yn blentyn "heb unrhyw broblem o gwbl", ond dywed fod y chwe blynedd ddiwethaf "wedi mynd yn rhemp".

"Roedd yr oedi yn ddifrifol ac ella eu bod nhw'n cael problemau staffio ac ati," meddai.

"Roedd 'na apwyntiadau yn cael eu gwneud a minnau yn barod i fynd i'r apwyntiad, ond ddyddiau'n unig cyn yr apwyntiad, roedd 'na alwad ffôn yn canslo a gwahanol esgus, fel diffyg deintydd ac ati.

"Wrth gwrs, byddai ail apwyntiad yn cael ei wneud, ond doedd hynny ddim am dri mis arall."

Roedd hynny'n golygu, meddai, bod apwyntiad i archwilio'r dannedd "oedd yn fod i ddigwydd pob chwe mis, bellach bob naw mis neu'n flynyddol".

Disgrifiad,

Beth yw barn pobl Caerfyrddin am y posibilrwydd o aros yn hirach i weld deintydd?

O dan y cynllun a gyhoeddwyd yn ystod yr haf gallai cleifion fod yn cael cynnig archwiliad mewn unrhyw ddeintyddfa yn ardal eu bwrdd iechyd.

Ond yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, a gwrthwynebiad gan ddeintyddion, mae'r Ysgrifennydd Iechyd wedi cadarnhau na fydd y newid hwnnw'n digwydd.

Er hynny, mae'n debygol y bydd newidiadau eraill i'r cytundeb deintyddol yng Nghymru yn arwain at gyfnodau hirach o aros rhwng apwyntiadau arferol.

'Roedd rhaid gwneud rhywbeth'

Ychwanegodd Grace Owen, sydd bellach wedi mynd at ddeintydd preifat, na allai hi oedi'n hir cyn gweld deintydd gan ei bod ar feddyginiaethau at osteoporosis.

"Mae'r arbenigwr wedi dweud yn glir bod angen i mi gael gweld hygienist pob chwe mis," meddai.

"Felly, o'n i wedi mynd i boeni am y peth erbyn hynny a doeddwn i ddim am i broblemau godi, achos y diffyg apwyntiadau cyson.

"Roedd y gŵr hefyd yn teimlo'r un fath ac felly'r ddau ohonom yn teimlo bod rhaid gwneud rhywbeth."

Eu penderfyniad felly oedd i fynd yn breifat: "Doedd 'r un o'r ddau ohonom yn gallu gweld datrysiad arall, er mwyn cael apwyntiadau amserol."

Ond fe ychwanegodd fod cleifion angen gael y dannedd "fyny i safon", cyn cael eich derbyn yn breifat ac fe gostiodd hynny "hyd at £2,000, dwi'n meddwl," meddai.

Jeremy MilesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n "amlwg", medd Jeremy Miles, fod y sicrwydd sy'n dod o weld yr un deintydd dros amser yn cael ei werthfawrogi

Wrth ollwng y cynllun dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles, bod y farn yn glir.

"Rydyn ni wedi gwrando ar bobl ac mae'n amlwg bod yr ymddiriedaeth a'r sicrwydd sy'n dod o weld yr un gweithiwr deintyddol proffesiynol dros amser yn cael ei werthfawrogi.

"Rydyn ni'n gwneud yn siŵr bod hyn yn cael ei gynnal yn y contract newydd."

Er hynny, o dan y cytundeb newydd fe allai'r cyfnod aros rhwng apwyntiadau arferol ymestyn i rhwng 18-24 mis - gyda'r cytundeb yn "rhoi rhyddid i ddeintyddion fonitro" pa mor aml y dylai rhywun gael ei weld ar sail "risg ac angen unigol".

Daw hyn dim ond ychydig flynyddoedd ar i Lywodraeth Cymru ddweud y byddai'r bwlch arferol rhwng apwyntiadau yn ymestyn o chwe mis i 12 mis.

Deintydd yn archwilio dannedd clafFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n debygol y bydd newidiadau eraill i'r cytundeb deintyddol yng Nghymru yn arwain at gyfnodau hirach o aros rhwng apwyntiadau arferol

Yn ôl Jeremy Miles, y cytundeb newydd yw'r newidiadau mwyaf arwyddocaol mewn 20 mlynedd yn y dull o dalu deintyddion.

Dywed Llywodraeth Cymru y bydd yn "disodli'r" drefn sy'n rhoi cymhelliad ariannol i ddeintyddion alw cleifion bob chwe mis, boed problemau ganddynt ai peidio.

Fe fydd hefyd yn cynyddu taliadau'r Gwasanaeth Iechyd i ddeintyddion o'r £135 arfaethedig i £150 yr awr.

O dan y system newydd bydd yn rhaid i bobl sy'n talu am driniaeth ddeintyddol dalu 50% o'r gost - hyd at uchafswm o £384 - sy'n llai na'r 55% gafodd ei gynnig yn wreiddiol.

Er hynny bydd tua hanner poblogaeth Cymru, gan gynnwys plant dan 18, menywod beichiog, cleifion ysbyty a phobl sy'n derbyn budd-daliadau penodol yn parhau wedi eu heithrio.

Ymateb y gwrthbleidiau

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu'r tro pedol hwn gan y Blaid Lafur, ac yn dweud bod parhad yn y gofal yn "hanfodol".

"Ond bydd y cytundeb deintyddol newydd y GIG yn talu deintyddion i weld pobl yn seiliedig ar eu hanghenion yn lle eu gweld ddwywaith y flwyddyn yn rheolaidd a gall bylchau o hyd at ddwy flynedd fod rhwng archwiliadau," medd James Evans AS, Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Ateb dros dro yw hyn, ychwanegodd y Ceidwadwyr Cymreig, gyda'r potensial i "niweidio cleifion deintyddol yn y tymor hir".

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros iechyd a gofal cymdeithasol, Mabon ap Gwynfor AS:

"Mae'r sefyllfa sy'n wynebu deintyddiaeth y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn argyfyngus.

"Er bod y rhybuddion wedi bod yn amlwg ers peth amser, mae gweithredoedd Llywodraeth Lafur Cymru wedi arwain at ddeintyddion y gwasanaeth iechyd yn rhoi'r diwedd i'w cytundebau yn eu tyrfaoedd, gyda'r anialwch deintyddol ar draws Cymru yn lledaenu.

Mae mynediad at ddeintyddiaeth bellach yn foethusrwydd yn hytrach na hawl a roddir i bawb.

"Mae pryderon Plaid Cymru yn parhau. Rhaid i Lywodraeth Lafur Cymru fod yn glir ynghylch y goblygiadau posibl o ganlyniad i'r bwlch cynyddol rhwng apwyntiadau, blaenoriaethu lles a lles deintyddion o ganlyniad i lwyth gwaith, a gwella casglu data er mwyn sicrhau tryloywder.

"Os na fydd y llywodraeth yn cymryd camau brys i gefnogi deintyddion yn well fel eu bod yn dewis aros yn y gwasanaeth iechyd, cleifion bydd yn dioddef."

Ychwanegodd Jeremy Miles: "Mae cael ceg iach yn hanfodol i'n hansawdd bywyd.

"Mae'r diwygiadau hyn yn dangos ein hymrwymiad i wneud deintyddiaeth y GIG yn fwy hygyrch, tecach a chynaliadwy i gleifion a gweithwyr proffesiynol.

"A diolch i adborth y cyhoedd ac arbenigedd proffesiynol ledled Cymru rydyn ni'n gallu gwneud hyn."

Tra'n croesawu'r newidiadau sydd wedi digwydd yn sgil "un o'r ymatebion mwyaf i ymgynghoriad yn hanes datganoli", mae'r BDA bellach yn dweud eu bod ystyried y manylion â chrib fân.

Mae'r gymdeithas hefyd yn rhybuddio Llywodraeth Cymru rhag rhuthro i greu deddfwriaeth ar sail y newidiadau hyn heb roi cyfle digonol i'r Senedd eu trafod neu ddiwygio.

Dywedodd Russell Gidney, cadeirydd y BDA yng Nghymru: "Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod wedi gwrando ar y cyhoedd a'n proffesiwn ni, ond mae angen i ni weld y manylion."

Deintyddiaeth 'wedi dirywio yn ofnadwy'

Mae Siôn Griffiths o ardal Aberystwyth wedi bod yn y byd deintyddol ers bron i hanner canrif.

Mae'r system ddeintyddiaeth bresennol ar chwâl, meddai, wedi i drefn newydd ddod i rym ar gyfer deintyddion y Gwasanaeth Iechyd yn 2006.

"Mae'r gwasanaeth wedi dirywio yn ofnadwy," meddai.

"Yn arfer bod roeddech chi'n rhoi triniaeth i glaf ac fe fyddai'r claf, os nad oedd eithriad, yn talu 80% o'r pris a'r Gwasanaeth Iechyd yn talu am y gweddill.

"Roedd y drefn newydd yn golygu bod deintyddion yn cael yr un pris am driniaeth fach neu driniaeth fawr - yr un oedd y pris am filling, er enghraifft, â thynnu sawl dant a root canals.

"O dan drefn felly mae wedi bod yn anodd i ddeintyddion gario 'mlaen gyda'r Gwasanaeth Iechyd, ac mae wedi bod yn amhosib i weithio yn y Gwasanaeth Iechyd.

"Os oes person yn dod mewn nawr ac mae angen tipyn o driniaeth arnyn nhw a bod hynna yn digwydd sawl gwaith y dydd chi methu cynnal y lle.

"O ganlyniad mae nifer o ddeintyddion wedi mynd i Awstralia neu Seland Newydd neu wedi mynd i weithio'n breifat.

"Os am gael deintyddion yn gweithio ar y Gwasanaeth Iechyd rhaid i chi fynd nôl i'r system wreiddiol lle o'dd pobl yn talu am beth o'dd deintyddion yn ei 'neud.

"Mae'n rhaid cael incentives a limitations - a dim cytundebau o gwbl gyda'r co-operates Americanaidd sy'n dod yn fwy poblogaidd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.