Deintyddiaeth yng Nghymru 'ddim yn esiampl i Loegr'
- Cyhoeddwyd
Mae cynrychiolwyr deintyddion yn dweud bod y syniad fod deintyddiaeth Gymreig yn esiampl i Loegr yn "chwerthinllyd".
Yn ôl arweinyddion Llafur, mae Cymru wedi creu 400,000 o apwyntiadau dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Ond dywed Cymdeithas Ddeintyddol Prydain (BDA) nad yw hynny'n cymryd anghenion cleifion unigol i ystyriaeth.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio gyda'r gymdeithas i wella mynediad i ddeintyddion.
- Cyhoeddwyd20 Medi
- Cyhoeddwyd1 Ebrill
Mae Matty Parry o Hen Golwyn wedi bod yn cael poen dannedd ers pum mlynedd, ac mae'n dweud ei fod wedi cael ei basio o un deintydd i'r llall.
Mae'n dal i geisio cofrestru am driniaeth ond mae un deintydd wedi dweud wrtho y gallai orfod aros am ddwy flynedd a hanner arall.
"Mae'n draed moch. Mae'n ofnadwy sut na all pobl gael deintydd," meddai.
"Mae angen iddyn nhw greu mwy o gyrsiau, mae angen iddyn nhw eu hyrwyddo'n fwy, i hyfforddi pobl.
"Mae'r prisiau'n afreal. Rwy'n gwybod am bobl sydd wedi gwario miloedd o bunnoedd ar driniaeth, pam ddylai fod mor ddrud â hynny mewn gwirionedd?"
Fis diwethaf, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens wrth gynhadledd y Blaid Lafur: "Bydd Llywodraeth y DU yn cymryd ysbrydoliaeth o Gymru ar ddeintyddiaeth, lle mae diwygiadau eisoes wedi sicrhau bron i 400,000 o apwyntiadau yn y ddwy flynedd ddiwethaf."
Mae'r ffigyrau diweddaraf, sydd ar gael gan Lywodraethau Cymru a'r DU, yn dangos sut mae lefelau triniaeth ddeintyddol wedi gwella ers Covid.
Cwblhaodd Lloegr 85% o gyrsiau triniaeth oedd yn cael eu gwneud ar gyfartaledd cyn Covid, ond yng Nghymru roedd y ffigwr hwnnw'n llawer is - sef 58%.
- Cyhoeddwyd23 Medi
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2023
Mae Dr Russell Gidney yn rhedeg deintyddfa yng Nghas-gwent, ac mae'n aelod blaenllaw o Gymdeithas Ddeintyddol Prydain.
Mae'n dweud bod deintyddion yn rhoi'r gorau i'w cytundebau gyda'r gwasanaeth iechyd oherwydd y targedau sy'n cael eu gosod a'r cosbau ariannol os nad ydyn nhw'n trin digon o gleifion.
Dywed fod hyn yn golygu bod cyrraedd targedau wedi dod yn bwysicach na rhoi'r driniaeth sydd ei hangen ar bobl.
"Mae gwasanaeth deintyddol Cymru yn stryglo," dywedodd.
"Mae cleifion yn cael eu gweld, ond oherwydd bod deintyddfeydd yn cael eu gwthio tuag at gwrdd â niferoedd cleifion, er bod yr ystadegyn hwnnw'n edrych yn dda, mewn gwirionedd mae'r hyn ma' nhw'n gallu ei gyflawni i gleifion yn dioddef - felly mae'n cuddio'r problemau sy'n digwydd mewn gwirionedd."
Mae eraill, fel Dr Helen Howson o'r felin drafod iechyd, Comisiwn Bevan, yn dweud y gallai'r syniad o gydweithredu ym mhob maes iechyd fod yn fanteisiol.
"Bydd partneriaeth a chydweithio mewn gwirionedd yn rhan hanfodol o ddod o hyd i'r atebion sydd eu hangen arnom, a bydd cydweithio yn bwysig," meddai.
"Rwy'n meddwl nawr bod gennym ni amgylchedd llawer mwy ffafriol i arloesi a rhannu a dysgu gyda'n gilydd, ac ni all deialog gadarnhaol ac adeiladol gyda'r holl bartneriaid, boed yn Lloegr, Yr Alban, Gogledd Iwerddon neu'n partneriaid rhyngwladol, fod yn unrhywbeth ond yn beth da."
Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Nid yw mynediad i ddeintyddiaeth y GIG yn y man y rydym ni na'r cyhoedd am iddi fod, ond mae'r newidiadau rydym ni wedi'u cyflwyno ers 2022 wedi gwella mynediad i tua 500,000 o bobl.
"Rydym yn parhau i weithio gyda'r BDA i archwilio sut y gall diwygio'r contract deintyddol cenedlaethol annog practisau deintyddol i weithio gyda'i gilydd ar lefel leol i ymateb i anghenion deintyddol eu poblogaethau pryd a ble mae angen mynediad.
"Rydym hefyd wedi datblygu porth mynediad deintyddol Cymru gyfan a fydd yn helpu i atal cleifion rhag gorfod galw llu o bractisau deintyddol yn eu hardal i geisio dod o hyd i ddeintydd GIG."