Y prif weinidog yn caniatáu adeiladu gorsaf newydd Caerdydd

Llun artist sy'n dangos gorsaf Parcffordd CaerdyddFfynhonnell y llun, Cardiff Parkway Developments
Disgrifiad o’r llun,

Bydd parc busnes a gorsaf gyda phedwar platfform yn cael eu hadeiladu yn Llaneirwg, dwyrain Caerdydd

  • Cyhoeddwyd

Mae Prif Weinidog Cymru wedi cymeradwyo cynlluniau i adeiladu gorsaf reilffordd newydd yn nwyrain Caerdydd.

Ers Hydref 2022 mae datblygwyr Parcffordd Caerdydd wedi bod yn aros am benderfyniad, ar ôl i'r cais cynllunio gwreiddiol gael ei alw i mewn i'w adolygu gan Lywodraeth Cymru.

Cadarnhaodd Eluned Morgan ei bod yn rhoi caniatâd cynllunio mewn llythyr at Cardiff Parkway Developments, sy'n goruchwylio'r prosiect yn ardal Llaneirwg.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r rhesymau dros y penderfyniad wedi'u nodi'n llawn mewn llythyr. Ni allwn wneud sylw pellach yn ystod y cyfnod herio statudol."

Beth yw'r datblygiad?

Bydd Parcffordd Caerdydd yn cynnwys gorsaf reilffordd gyda phedwar platfform a pharc busnes.

Roedd datblygwyr wedi gobeithio y byddai'r orsaf yn weithredol erbyn 2024, ond roedd y broses gynllunio wedi oedi'r amserlen.

Rhoddodd Cyngor Caerdydd ganiatâd i'r cynlluniau ym mis Ebrill 2022, ond roedd y diddordeb cenedlaethol ehangach wedi golygu bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu adolygu'r cais.

Ym mis Ionawr fe feirniadodd arweinydd cyngor Llafur Caerdydd, Huw Thomas, yr amser "anesboniadwy" a gymerodd Llywodraeth Cymru i wneud penderfyniad.

Mae gan Lywodraeth Cymru gyfran leiafrifol yn y fenter - Investec a'r teulu Roberts sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o'r gefnogaeth ariannol hyd hyn.

huw thomas
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Parcffordd Caerdydd yn arwain at dwf economaidd a chreu swyddi, medd Huw Thomas

Wrth ymateb i gyhoeddiad ddydd Iau dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd Huw Thomas: "Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo datblygiad Parcffordd Caerdydd, ac rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am ysgwyddo'r penderfyniadau a wnaed ar y prosiect hwn.

"Nid mater o orsaf reilffordd newydd yn unig yw'r datblygiad hwn; mae'n ymwneud â gwella dyfodol ein dinas.

"Bydd Parcffordd Caerdydd yn gwella ein seilwaith trafnidiaeth yn sylweddol, gan arwain at dwf economaidd a chreu swyddi ledled Caerdydd a'r rhanbarth ehangach.

"Gydag amseroedd teithio rhwng Caerdydd a Chasnewydd wedi lleihau i ddim ond saith munud, gallai mwy nag 800,000 o deithwyr y flwyddyn elwa unwaith y bydd y cynllun yn weithredol.

"Bydd y prosiect hwn yn helpu i fynd i'r afael â thagfeydd traffig o ddwyrain Caerdydd gan ddarparu opsiwn trafnidiaeth gyhoeddus.

"Yn ogystal, bydd opsiynau trafnidiaeth gynaliadwy fel llwybrau beicio a llwybrau cerdded yn hybu ffordd o fyw wyrddach ac iachach."