Athrawes a gafodd ei golwg yn ôl mewn un llygad yn annog trafod rhoi organau

Elliw WilliamsFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elliw Williams wedi cael golwg yn ôl i'w llygad dde yn dilyn trawsblaniad cornbilen (cornea)

  • Cyhoeddwyd

Mae athrawes a gafodd ei golwg yn ôl mewn un llygad diolch i drawsblaniad yn annog pawb i drafod rhoi organau wedi iddo newid ei bywyd.

Ar ddiwedd Wythnos Rhoi Organau, mae Elliw Williams yn gofyn i bobl siarad gyda’u hanwyliaid am eu dymuniad petai nhw'n marw.

Mae'n annog pobl i ystyried rhoi llygaid gan mai dyna un o’r organau sy’n cael ei roi lleiaf.

Er bod y gyfraith wedi newid yng Nghymru a’r system bellach yn un 'optio allan', mae trafodaeth yn dal i ddigwydd gydag aelodau teulu cyn i unrhyw organ gael ei roi.

Mae'n bosib i bobl nodi eu dymuniad ar gofrestr.

Disgwyl dwy flynedd am lygad

Mewn cyfweliad gyda rhaglen Bore Sul ar BBC Radio Cymru, eglurodd Ms Williams, sydd o ardal Dinbych, iddi sylweddoli bod ganddi broblem gyda’i golwg pan oedd hi yn yr ysgol.

Roedd hi'n cael trafferth gweld y bwrdd gwyn ac yn cael cur pen yn gyson.

Cafodd ddiagnosis o keratoconus, sy’n golygu bod ei llygaid mewn siâp pêl rygbi, yn hytrach na phêl-droed.

Fe ddirywiodd ei golwg pan oedd hi’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor gan ei bod hi’n gwisgo lensys ac weithiau yn cysgu ynddyn nhw.

Fe gafodd sgriffiadau a plistrynnau (blisters) ar y llygaid wnaeth arwain at golli ei golwg yn llwyr mewn un llygad.

Elliw yn blentynFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Elliw yn blentyn - cyn iddi ddechrau sylweddoli bod yna broblem gyda'i golwg

"O fewn dwy flynedd ar ôl gadael coleg gesh i dipyn o greithiau ar y llygad dde a’r unig opsiwn fyddai cael triniaeth trawsblaniad cornbilen [cornea]," meddai.

"Do’n i ddim yn gallu gwisgo lensys yn y llygad dde ddim mwyach felly nes i ddewis mynd ar y rhestr trawsblaniad cornbilen.

“Ro’n i ar y rhestr aros am ddwy flynedd.”

Fe gafodd y driniaeth yn Abergele ym mis Chwefror 2013, ac roedd yn rhaid iddi gadw gofal o’r llygad gan fod cyrff 5% o bobl yn gwrthod yr organ newydd.

'Dall am dair blynedd'

Bellach yn 41 oed, mae’n dweud bod derbyn yr organ wedi newid ei bywyd.

“Dwi’n berson gweledol iawn. Mae fy ngwaith i yn ymwneud â bod yn weledol - dwi’n athrawes celf a dwi’n dysgu technoleg erbyn hyn," meddai.

Elliw gyda Llio a Rhys yn 2016Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Elliw gyda dau o'i phlant - yr efeilliaid Llio a Rhys - yn 2016

“Dwi jest yn hynod o ddiolchgar. Fues i am dair blynedd lle o’n i’n ddall mewn un llygad a mynd i’r gwaith jest ddim yn gweld efo un llygad, dreifio a gwneud tasgau bob dydd a jest yn gallu gweld efo’r llygad chwith - efo’r lensys i mewn.

"Ond heb y lensys i mewn roedd fy ngolwg yn ofnadwy.

“Dwi’n teimlo bod o wedi cryfhau fy mywyd i, a hefyd dwi ddim yn gorfod dibynnu ar wisgo lensys mwyach yn y llygad dde.

"Dwi’n gallu mynd rŵan ac yn gallu dreifio heb ddim lens yn y llygad. Mae’r golwg wedi cryfhau gymaint i mi.”

Elliw WilliamsFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl, medd Elliw, yn llai parod i roi eu llygaid ar gyfer trawblaniad nag organau eraill ac mae hi'n ddiolchgar iawn i'r sawl sydd wedi gwneud gymaint o wahaniaeth i'w bywyd

Dywedodd Ms Williams: "Faswn i’n annog unrhyw un i gofrestru ac i roi organau ac yn fwy pwysig sicrhau bod y teulu yn ymwybodol o’r penderfyniad yma.

"Mae’n bwysig bod pobl yn siarad efo teuluoedd pobl sydd wedi rhoi organau a siarad efo pobl sydd wedi derbyn organau.

"Dwi’n ddiolchgar iawn i’r person [wnaeth roi’r organ] am fod yn ddigon dewr i roi ei enw ymlaen i roi ei llygaid - mae hwn yn un o’r organau falle mwya’ prin mae pobl yn fodlon cofrestru i roi."

Pynciau cysylltiedig