Dyn ar ddialysis yn annog teuluoedd i gael sgwrs am roi organau

Wyn triniaethFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Wyn Thomas yn ystod un o'r triniaethau dialysis yn Ysbyty Bronglais

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Parchedig Wyn Thomas yn gorfod treulio tridiau'r wythnos mewn ysbyty am nad yw ei arennau yn gweithio mwyach.

Ers dechrau Awst, mae'n gwbl ddibynnol ar driniaeth dialysis yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth - a hynny nes ei fod yn cael trawsblaniad aren.

Ar ddechrau wythnos codi ymwybyddiaeth am roi organau, mae'n dweud ei bod yn hollbwysig i deuluoedd siarad â'i gilydd am eu dymuniadau.

Ers 2015 yng Nghymru os nad yw person yn optio allan o'r cynllun rhoi organau, bydd organau'r person hwnnw yn cael eu rhoi i berson arall wedi marwolaeth.

Ond mewn rhai achosion mae teuluoedd yn gwrthwynebu rhoi organau anwyliaid ac mae'n anodd i lawfeddyg fynd yn groes i'w penderfyniad mewn amgylchiadau anodd.

"Dyna'r union reswm pam bod yn rhaid i deuluoedd siarad," medd Mr Thomas, o Dre-fach yn Sir Gaerfyrddin, "ac yn sicr rydw i a'r gŵr wedi trafod hynny droeon."

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn annog pobl i roi gwybod i'w teuluoedd am eu dymuniadau.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Parchedig Wyn Thomas yn un o gydlynwyr elusen Tir Dewi ac ar y Sul mae'n bregethwr gydag enwad yr Undodiaid

"Rydw i mor falch o gael triniaeth dialysis ac hebddi fe fydden i'n marw," meddai Wyn Thomas wrth siarad â Cymru Fyw.

"Fe es i'n sâl yn gyntaf 10 mlynedd yn ôl. Chwe wythnos o ddialysis oedd angen bryd hynny ac yna cyffuriau meddygol.

"Ro'n i'n gwybod y byddai'r arennau yn methu rhywdro ac fe ddigwyddodd hynny fis Mehefin eleni.

"Doedd dim dewis arall wedyn ond teithio i Aberystwyth ddydd Llun, Mercher a Gwener ac mae'n rhaid treulio oriau yn yr ysbyty - gadael cartref tua 10:00 a nôl tua 18:15. Ar ôl mynd adref does gen i ddim nerth o gwbl."

Ar hyn o bryd mae'n cael profion er mwyn bod ar y rhestr i dderbyn aren addas - y cam nesaf yw cwrdd ddechrau Rhagfyr â'r llawfeddyg fydd yn gwneud y trawsblaniad.

'Cymysgedd od iawn o deimladau'

"Fy nghri fawr i yw i bobl siarad â'u teuluoedd," meddai.

"Chi'n gobeithio fydd e'm yn digwydd i neb ond pan ma' 'dach chi rywun yn wirioneddol wael a maen nhw'n gofyn i chi 'odych chi'n hapus i ni fynd â'r organau' mae mor neis pan mae'r sgwrs honno wedi'i chael yn barod," meddai Wyn Thomas.

"Fi a'r gŵr wedi siarad am y peth a ma' fe wedi gweud os oes rhywbeth o iws i rywun 'cewch â nhw' a fi wedi gweud yr un peth wrtho fe gan obeithio bod gen i rywbeth o werth!

"Mae'n neis fod pobl yn gwybod bod rhywun eisiau rhoi organau - a gwybod wedyn bod marwolaeth e neu hi wedi helpu rhywun arall."

Disgrifiad o’r llun,

Wyn Thomas: 'Llawenydd i fi ond galar i eraill pan ga'i aren newydd'

Erbyn Nadolig mae Wyn Thomas yn gobeithio y bydd e ar y rhestr i gael trawsblaniad.

"Fi'n mynd yn emosiynol iawn wrth feddwl am yr alwad," meddai.

"Fi'n ymwybodol y bydd e'n newid fy mywyd i ond fe fydd 'na deulu yn rhywle wedi gorfod 'neud y penderfyniad o roi organau.

"Mae hwnna'n gymysgedd od iawn o deimladau - mae'n llawenydd ac yn obaith i fi ond mae'n dod ar draul galar ofnadwy yn rhywle arall."

Mae dros 4,000 o bobl yn y DU yn derbyn organau a meinweoedd bob blwyddyn.

Yng Nghymru roedd yna 207 o drawsblaniadau yn 2023/4 - y mwyafrif llethol yn arennau.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno cydsyniad tybiedig, sy'n golygu bod person 18 oed neu hŷn yn cael ei ystyried heb wrthwynebiad i roi organau oni bai eu bod yn optio allan.

"Rydym yn annog teuluoedd i siarad â'i gilydd am beth maent am ei wneud os byddant mewn sefyllfa lle gallent ddod yn rhoddwr organau, a hoffem atgoffa pobl eu bod yn dal yn gallu cofrestru eu penderfyniad ar y Gofrestr Rhoddwyr Organau os ydynt yn dymuno."

Pynciau cysylltiedig