Cyhoeddi enillwyr prif wobrau'r dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd

Lloyd Wolfe o Gaerdydd ydy enillydd Medal y Dysgwyr
- Cyhoeddwyd
Lloyd Wolfe o Gaerdydd sydd wedi ennill Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr.
Yn yr un seremoni, cyhoeddwyd mai Joe Morgan, hefyd o'r brifddinas, sydd wedi cipio Medal Bobi Jones - y brif wobr arall i ddysgwyr.
Nod y ddwy gystadleuaeth ydy gwobrwyo unigolion sydd wedi ymrwymo i ddysgu Cymraeg ac yn ymfalchïo yn eu Cymreictod.
Roedd y rownd derfynol, yn llawn tasgau amrywiol, yn cael ei chynnal ar y maes ddydd Mercher.
Y beirniad ar gyfer y ddwy wobr eleni oedd Miriam Elin Jones ac Elin Meek.

Joe Morgan o Gaerdydd sydd wedi ennill Medal Bobi Jones eleni
Mae Medal y Dysgwyr yn cael ei rhoi i berson ifanc rhwng Blwyddyn 10 a dan 19 oed, sy'n gallu dangos sut maen nhw'n defnyddio'r iaith o ddydd i ddydd yn yr ysgol, coleg, neu'r gwaith ac yn gymdeithasol.
O naw ymgeisydd, Lloyd Wolfe ddaeth i'r brig.
Mae'n astudio Lefel A mewn Cerddoriaeth, llenyddiaeth Saesneg, Drama a Chymraeg Ail Iaith yn Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd.
"Yn fy amser hamdden dwi'n mwynhau cyfansoddi cerddoriaeth a mynychu gigs Cymraeg fel Tafwyl a Maes B," meddai.
"Dwi'n teimlo bod yr iaith Gymraeg wedi cael effaith mor enfawr ar fy mywyd i gan fy mod i'n ei defnyddio hi mewn bob agwedd o fywyd.
"Dwi'n defnyddio Cymraeg hefo fy ffrindiau ar draws Cymru ac yn enwedig hefo fy ngwaith fel llysgennad dros y Coleg Cymraeg eleni - mae'n gyfle mawr gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg."
Alex McLean oedd yn ail, a Georgia Jones yn drydydd - y ddau o Sir y Fflint.
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
Mae Medal Bobi Jones yn cael ei rhoi i unigolyn 19-25 oed, sy'n dangos sut maen nhw'n defnyddio'r iaith o ddydd i ddydd drwy ateb cwestiynau am eu rhesymau dros ddysgu'r iaith, yr effaith mae dysgu'r Gymraeg wedi cael ar eu bywyd, a'u gobeithion ar gyfer y dyfodol.
Daw'r enillydd Joe Morgan o Gaerdydd, ac mae yn ei flwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Abertawe yn astudio newyddiaduriaeth gyda chyfryngau a chyfathrebu.
Dywedodd: "Yn ystod fy amser yn y brifysgol, dwi wedi ymuno â'r Gymdeithas Gymraeg i gael ymarfer mewn lle cymdeithasol a phrofi mwy o'r diwylliant.
"Dwi'n caru gwneud fideos ar-lein trwy gyfrwng y Gymraeg.
"Yn gyffredinol, mae fy nhaith i astudio'r iaith wedi fy ngalluogi i werthfawrogi ac i garu'r iaith a'i diwylliant, a dwi mor ddiolchgar am bob drws mae'r iaith wedi ei agor i fi."
Brawd Joe, Gwilym Morgan, oedd enillydd Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin yn 2023.
Susanna Power o Gaerdydd oedd yn ail yn y gystadleuaeth, a Deryn-Bach Allen-Dyer o Fro Morgannwg yn drydydd.