Cyhoeddi enillwyr prif wobrau celf Eisteddfod yr Urdd

Mae Lleucu Haf Thomas yn ddisgybl ym mlwyddyn 11 yn Ysgol Uwchradd Aberteifi
- Cyhoeddwyd
Lleucu Haf Thomas o Sir Benfro sydd wedi ennill Medal Gelf, Dylunio a Thechnoleg Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr 2025.
Yn yr un seremoni, cyhoeddwyd mai Chloe Swinburn o ranbarth Fflint a Wrecsam sydd wedi ennill Ysgoloriaeth Artist Ifanc yr ŵyl.
Mae'r Fedal yn cael ei rhoi i'r cystadleuydd sydd wedi cyflwyno'r gwaith mwyaf addawol o blith enillwyr cenedlaethol adran Blwyddyn 10 a dan 19 oed.
Mae'r ysgoloriaeth gwerth £2,000 yn cael ei chyflwyno am y casgliad o waith mwyaf addawol o waith celf, dylunio neu dechnoleg gan unigolyn rhwng Blwyddyn 10 a dan 25 oed.

Gwaith buddugol y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg
Mae Lleucu Haf Thomas, enillydd y Fedal Gelf eleni, yn 16 oed ac yn ddisgybl ym mlwyddyn 11 yn Ysgol Uwchradd Aberteifi.
Yn gystadleuydd cyson gyda'r Urdd yn yr adran Celf Dylunio Technoleg a Cherddoriaeth, mae hi wrth ei bodd gyda phynciau celfyddydol mynegiannol.
Mae ei darn buddugol wedi'i greu yn gyfan gwbwl o wair.
'Ymfalchïo bod yn ferch cefn gwlad'
Dywedodd Lleucu: "Rwy'n ymfalchïo fy mod yn ferch o gefn gwlad, a beth well na chreu celf allan o fyd natur.
"Rwy'n credu ei fod yn hanfodol bwysig i gadw'r traddodiadau hen yn fyw ac mor ddiolchgar i Aeres James o Sir Benfro am gyflwyno'r grefft o greu eitemau a phlethu llafur i mi nôl yn 2020.
"Rwy'n cael gymaint o bleser mewn creu celf, ac mae'n fraint cael ennill y fedal yma ac i rannu fy ngwaith gyda phawb."
Beirniaid y Fedal eleni oedd Siwan Thomas, Edwina Williams-Jones, Hannah Evans, Owain Sparnon, Laura Thomas, Betsan Haf Evans, Katie Louise Trick, Rhian Stone a Robyn Tomos.
Disgrifiwyd ei gwaith buddugol gan y beirniaid Betsan Evans fel "campwaith, manylder ac amynedd sy'n codi gwên".
Ychwanegodd Hannah Evans fod "y gwaith yn sefyll allan fel darn dychmygu a chywrain, oedd yn dangos lefel uchel o fanylder a chrefftwaith".

Mae Chloe yn fyfyrwraig hŷn sy'n astudio Celf a Dylunio yng Ngholeg Cambria
Mae Chloe Swinburn - enillydd yr ysgoloriaeth - yn 22 oed ac yn fyfyrwraig hŷn sy'n astudio Celf a Dylunio yng Ngholeg Cambria.
Ei huchelgais yw i barhau gyda'i hastudiaethau celf drwy fynd ymlaen i'r brifysgol i ddilyn gradd mewn darlunio, gyda'r gobaith o ddilyn gyrfa yn y byd celf.
Dywedodd: "Mae fy nhaith drwy addysg brif ffrwd wedi bod yn heriol oherwydd amgylchiadau personol cymhleth.
"O ganlyniad, bu'n rhaid i mi gymryd amser i ffwrdd o addysg, a dychwelais i Goleg Cambria yn 19 oed i ailsefyll fy TGAU.
"Mae fy mhenderfyniad i astudio celf a dylunio yn deillio o fy mherthynas bersonol â chelf, a'r gallu i fynegi'r hyn sy'n anodd ei gyfleu â geiriau; brwydr a wynebais wrth dyfu i fyny.
"Mae dilyn y rhaglen celf a dylunio sylfaen wedi caniatáu i mi wella fy ngallu i fynegi a darlunio straeon."

Darn o waith buddugol yr Ysgoloriaeth Artist Ifanc
Beirniaid Ysgoloriaeth yr Artist Ifanc eleni oedd Bethan Ash, Scott Keenan a Owain Sparnon.
Dywedodd y beirniaid am ei gwaith: "Man cychwyn prosiect Chloe oedd taith o amgylch gogledd Cymru, lle mae'n ymweld â gwahanol draethau, capeli ac orielau.
"Cafodd ei swyno'n arbennig gan y fynwent ar Ynys Llandysilio.
"Ymhlith y cerrig beddau, daeth o hyd i enwau trigolion lleol, rhai oedd wedi'u hanafu yn y rhyfel ac yn fwyaf nodedig, y llenor Cynan.
"Ysbrydolwyd Chloe gan ei gerdd Aberdaron i ddarlunio'r tirluniau sy'n cael eu disgrifio yn ei gerdd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl