'Dim tŷ bach am dri mis' mewn tai rhent 'gwarthus' i blant

Dywedodd Emily bod tamprwydd yn y tŷ wedi effeithio ar ei hiechyd
- Cyhoeddwyd
Dyw plant a phobl ifanc ddim yn teimlo'n ddiogel mewn tai rhent sy'n frwnt, yn beryglus ac yn anaddas.
Dyna mae arolwg gan Gomisiynydd Plant Cymru yn ei ddweud.
Mae'r comisiynydd wedi bod yn holi plant am eu profiadau nhw o ddigartrefedd ac o fyw rhywle dros dro.
Mae hi'n galw am newid y drefn i sicrhau bod gan bob plentyn hawl i gartref diogel ac addas.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i gynyddu'r stoc dai a bod rheolau ansawdd tai yn gosod safonau ar gyfer tai cymdeithasol.
'Gorfod mynd i McDonald's am dŷ bach'
Bu'n rhaid i Emily, nid ei henw iawn, symud i dŷ cymdeithasol oherwydd trais domestig. Roedd y tŷ cyntaf gafodd hi a'i mam yn gwbl anaddas, meddai.
"Roedd y tŷ gafon ni yn warthus. Bob tro o'n i'n defnyddio'r gawod bydde fe'n gorlifo a bydde dŵr yn rhedeg dros lawr y stafell 'molchi a mas i'r coridor a'r gegin.
"Buon ni am dri mis heb dŷ bach oedd yn gweithio felly oedd rhaid i ni yrru i McDonald's i ddefnyddio'r tŷ bach yno.
"Pan symudon ni mewn doedd y drws ffrynt ddim yn cloi. O'n i newydd ddianc rhag trais domestig felly do'n ni ddim yn teimlo'n saff yn y tŷ."

Cafodd Emily a'i mam eu symud i gartref ble roedd offer yn ymwneud â chyffuriau o amgylch yr eiddo
Maen nhw bellach wedi symud, ond dyw'r cartre' presennol fawr gwell, meddai, ac mae'r tamprwydd yn cael effaith ar ei hiechyd.
"Ers byw yn y tŷ hwn dwi 'di bod i'r ysbyty sawl gwaith oherwydd problemau gyda fy ysgyfaint, dwi 'di bod yn peswch ers wyth mis a dwi'n cael poenau yn fy mrest.
"Mae byw mewn tŷ llawn llwydni yn bendant wedi effeithio ar fy iechyd".
- Cyhoeddwyd7 Mai 2024
- Cyhoeddwyd12 Mai 2022
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2022
Yn ôl Comisiynydd Plant Cymru dyma'r tro cyntaf i blant rannu eu profiadau nhw o ddigartrefedd a'r system dai ar gyfer adroddiad.
Roedd 27% o'r holl aelwydydd gafodd eu rhoi mewn llety dros dro rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2024 yn deuluoedd gyda phlant.
Roedd to'n gollwng dŵr, nam trydanol a diffyg gwres ymhlith y problemau bu'r plant yn sôn amdanyn nhw.

Mae merch Victoria Evans wedi gweld symud i ardal wahanol yn anodd
Soniodd eraill am broblem cael eich ynysu wrth symud i ardal wahanol.
Bu'n rhaid i Victoria Evans a'i phlant symud o Gastell-nedd i Fargam er mwyn cael cartref, ond mae ei merch naw oed wedi aros yn yr ysgol yng Nghastell-nedd er mwyn bod gyda'i ffrindiau.
"Roedd hi'n cerdded i'r ysgol o'r blaen, nawr ni'n gorfod teithio 40 munud. Ni'n gorfod gadael yn gynharach, teithio yn y traffic, mae hi wedi blino, mae hi'n ffeindio fe'n anodd."
Mae hi wedi gorfod rhoi'r gorau i weithgareddau tu fas yr ysgol gan gynnwys chwarae pêl-droed.
"Mae hwnna wedi bod yn anodd achos oedd hi'n really dda, oedd y coach yn gweud dylech chi fynd ymlaen gyda hwn ond does dim clwb lawr fan hyn yn cymeryd plant ymlaen ar y funud, mae hi wedi colli mas gyda hwnna."
Mae cymdeithas dai Tai Tarian yn dweud eu bod nhw'n ymwybodol o'r galw am dai cymdeithasol ar draws Cymru ac o'r effaith mae hyn yn ei gael ar deuluoedd a phlant yn benodol.
'Dyletswydd i ystyried hawliau plant'
Dywedodd y Comisiynydd Plant, Rocio Cifuentes: "Mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd i ystyried hawliau plant ym mhob dim mae hi'n ei wneud ond yn anffodus dyw'r dyletswydd hwnnw ddim i'w weld yn treiddio i'r hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad.
"Mae angen iddi adolygu ei chanllawiau ar dai a digartrefedd i sicrhau hawliau plant fel rhan o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau'r plentyn. Mae'n allweddol fod barn a phrofiadau plant yn ganolog wrth ddatblygu hyn."
Mae'r comisiynydd hefyd am weld cynghorau yn ystyried hawliau plant wrth wneud penderfyniadau ynglyn â rhoi teuluoedd mewn cartrefi dros dro.

Dywed Sioned Hughes fod prinder tai yn broblem fawr
Yn ôl Sioned Hughes sy'n ymgynghorydd yn y maes, mae prinder tai yn broblem fawr.
"Pan mae'n dod i lety dros dro mae 'na elfen o gadw golwg ar safonau ond y gwirionedd ydi, os ydi awdurdodau lleol yn edrych i roi teulu neu unigolion fyddai fel arall allan ar y strydoedd [mewn llety] yna yn anffodus mae'r cyflenwad yn brin iawn felly mae'r safonau yn medru bod yn is na'r hyn fyddech chi eisiau ac yn anaddas iawn."
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Lywodraeth Leol Cymru mai tai a digartrefedd yw rhai o'r heriau mwyaf sy'n wynebu llywodraeth leol a bod cynghorau'n gweithio'n galed dros ben i gefnogi teuluoedd ar adeg pan mae yna bwysau ariannol sylweddol a chynnydd yn y galw am gymorth.
"Mae gan bawb ohonom ddyletswydd i weithredu, ac mae cynghorau wedi ymrwymo i fod yn rhan o'r datrysiad", meddai.
94,000 ar restrau aros
Mae Heddyr Gregory o elusen Shelter Cymru yn cytuno bod yr her yn un sylweddol.
"Mae'n mynd i gymryd degawdau o ran adeiladu tai cymdeithasol dim ond i ddiwallu anghenion y rhai sydd ar restr aros ar hyn o bryd, 94,000 ohonyn nhw ac ry'n ni'n gwybod fod bron i 3,000 o blant yn byw mewn llety dros dro sy'n gwbl anaddas i'w hanghenion nhw.
"Ry'n ni'n methu cenhedlaeth gyfan o blant a phobl ifanc lle nad oes ganddyn nhw'r sefydlogrwydd yna i ffynnu."
'Y cyfan dwi eisiau yw cartre' go iawn'
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod byw'n gysurus mewn cartref o ansawdd da yn cynnig manteision i iechyd i oedolion a phlant, a dyna pam eu bod nhw wedi ymrwymo i gynyddu'r stoc dai.
Maen nhw'n ychwanegu fod rheolau ansawdd tai yn gosod safonau ar gyfer tai cymdeithasol y bydd yn rhaid cwrdd â nhw dros y 10 mlynedd nesaf.
Maen nhw'n ymgynghori ar osod safonau ar landlordiaid preifat hefyd er mwyn taclo problemau fel tamprwydd a llwydni.
Mae Emily yn gwneud yn dda yn yr ysgol ac yn gobeithio mynd i Brifysgol Rhydychen maes o law, ond dyw ei hamgylchiadau ddim yn help, meddai.
"Dwi'n teimlo fy mod i'n cael fy esgeuluso ac mae'r pethau yma yn effeithio ar fy iechyd corfforol a meddyliol. Y cyfan dwi eisiau yw cartre' sy'n teimlo fel rhywle sefydlog, sy'n teimlo fel cartre' go iawn."