O Lŷn i'r ffin - beth yw'r pynciau llosg mewn etholaeth enfawr?

Aberdaron
Disgrifiad o’r llun,

Mae tref arfordirol Aberdaron ym mhen gorllewinol yr etholaeth enfawr

  • Cyhoeddwyd

Bydd map etholiadol y Senedd ymhen blwyddyn yn edrych yn wahanol iawn, gydag 16 etholaeth newydd yn disodli'r 40 presennol, a chwe aelod yn cynrychioli pob etholaeth.

Un o'r etholaethau newydd yw Gwynedd Maldwyn - etholaeth enfawr sy'n ymestyn o Ynys Enlli yn y gorllewin i'r ffin â Lloegr yn y dwyrain.

Gyda blwyddyn union i fynd tan etholiad y Senedd 2026, es i ar daith ar draws yr etholaeth i weld beth yw'r materion pwysig i etholwyr.

Fe fues i'n dechrau yn ardal arfordirol Aberdaron ym Mhenrhyn Llŷn, gan deithio hyd at bentref diwydiannol Rhosllannerchrugog ger Wrecsam.

Yn Aberdaron mae'r amgylchedd a'r economi yn cael sylw pobl yr ardal.

Dywed Geraint Jones, sy'n berchen ar faes carafanau, bod angen help i gyrraedd y targed o sero net.

"Yr her fwya' sy' gennym ni ar y funud ydy llefydd i chargio y ceir [trydan] yma. Mae'n anferth o broblem," meddai.

"Unwaith 'da chi 'di pasio Pwllheli hyd at yma, does dim i gael.

"Ma' gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ddau dwi'n meddwl. Ond unwaith ma' car ar rheiny, dyna ni - does dim posib i neb arall iwsho fo."

Geraint Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Geraint Jones yn galw am fwy o gymorth i helpu cwmnïau gyrraedd targedau sero net

Mae Mr Jones yn teimlo fod targedau wedi eu gosod o ran yr amgylchedd ac ynni gwyrdd, ond bod dim digon o help ar gael i'w cyrraedd.

"'Da ni wedi cael ei pwsho i drio mynd yn net zero hefo'r busnes. 'Da ni wedi mynd efo faniau a cheir 'lectrig a phob dim fel'na.

"Ond does yna ddim byd i'n helpu ni allan."

Dywed Cyngor Gwynedd eu bod yn effro i'r dyhead am bwyntiau gwefru ym Mhen Llŷn, ond bod "gallu'r cyngor i gynnig pwyntiau gwefru yn ddibynnol i raddau helaeth ar sicrhau grantiau allanol i ddatblygu'r rhwydwaith ymhellach".

Carafanau
Disgrifiad o’r llun,

Mae Geraint Jones yn rhedeg maes carafanau yn Aberdaron

Mae gwerthwyr ceir yn dweud bod angen cefnogaeth i gyrraedd targedau gwyrdd.

Mae Gari Wyn yn berchen ar fusnes gwerthu ceir ar gyrion Caernarfon ac yng Nghorwen.

"Ma' rhaid rhoi'r help i'r cwmnïau sy'n eu cyflenwi nhw [ceir trydan]," meddai.

"Ma' rhaid i'r grantiau ddod o'r llywodraeth neu fyddan nhw ddim yn eu g'neud nhw.

"Mae mor syml â hynny - neu fydd pobl yn gweld fod rhaid iddyn nhw sticio at geir petrol a disel."

Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates fod Llywodraeth Cymru "wedi dyfarnu cyllid grant o £6m ar gyfer 2025/26 i awdurdodau lleol weithio gyda gweithredwyr pwyntiau gwefru i gynyddu'r ddarpariaeth".

Gari Wyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen grantiau er mwyn annog pobl i droi at geir trydan, yn ôl Gari Wyn

Ar ôl clywed y farn ar yr ochr orllewinol, roedd hi'n amser i fi gychwyn ar siwrne 100 milltir ar draws yr etholaeth newydd hyd at ardal Rosllannerchrugog ger Wrecsam.

Dyma gartref briciau coch a neuadd fawr Y Stiwt, sy'n paratoi i ddathlu canmlwyddiant.

Mae diwylliant a'r celfyddydau yn bwnc pwysig yma, mewn ardal sy'n croesawu'r Eisteddfod Genedlaethol eleni.

stiwt
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Stiwt yn paratoi i ddathlu ei chanmlwyddiant

Rwy'n cwrdd â Susan Hallard, sy' bron yn 80 oed. Mae hi ar ei ffordd i hen glwb y glowyr, lle mae'n helpu gyda sesiwn fingo i bensiynwyr lleol.

"Mae diwylliant wedi bod yn ganolog yn Rhos ers dwi yn ei gofio fo," meddai.

"Mae 'di bod yn bwysig trwy fy oes i, a dwi'n siŵr cyn i fi gael fy ngeni, a bydd o yma ar ôl i mi fynd."

Tra'n cydnabod bod arian yn brin a bod rhaid blaenoriaethu gwasanaethau, mae'n teimlo bod angen edrych ar y darlun cyflawn.

"Ma' popeth yn bwysig yn ei le," meddai.

"Dwi'n llywodraethwr ysgol ac yn gwybod pa mor gostus ydy pethau a'r toriadau 'da ni wedi gorfod 'neud, ond ma' lle i bopeth."

Susan Hallard
Disgrifiad o’r llun,

Mae Susan Hallard yn pwysleisio pwysigrwydd y celfyddydau i ardal Rhosllannerchrugog

Wrth edrych i'r dyfodol, mae plant a phobl ifanc yr ardal yn gobeithio parhau â'r traddodiad, ac mae lle ar y llwyfan i artistiaid y dyfodol fel Gwennan o Ysgol Bryn Tabor, Coedpoeth.

Mae hi'n aelod o Theatr yr Ifanc yn Rhosllannerchrugog, sy'n paratoi ar gyfer cynhyrchiad o The Addams Family.

"Dwi'n teimlo'n hapus a chyffrous wrth fynd ar lwyfan y Stiwt, a dwi methu stopio gwenu!

"Mae perfformio yn bwysig i fi. Hoffwn i fod yn actor pan dwi'n tyfu fyny."

Gwennan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwennan yn gobeithio am fwy o gyfleoedd ym myd actio

Y Stiwt yw cartref Côr Meibion Rhos, ac maen nhw hefyd yn edrych i'r dyfodol.

Mae pryder fod nifer yr aelodau yn lleihau ac mae ymdrech fawr i ddenu cantorion newydd.

Ond mae rhai aelodau, fel Ceredig Evans, yn poeni am effaith toriadau i wasanaethau cerdd mewn ysgolion.

"Os byddai ysgolion yn dysgu mwy o fiwsig a chanu yn ysgol, byddai popeth lot gwell," meddai.

"Mae angen mwy o fuddsoddi. Roedd miwsig yn ysgol mor bwysig pan o'n i yn tyfu fyny.

"Dywedodd rhywun 'something has to lose', ond ma' canu yn rhan o dyfu fyny."

Ceredig Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ceredig Evans yn poeni am effaith toriadau i wasanaethau cerdd mewn ysgolion

Mae yna wahaniaethau mawr rhwng ardal glan môr Aberdaron yn y gorllewin a hen bentref glofaol Rhos yn y dwyrain.

Ond o siarad â phobl yn y ddwy ardal, mae un peth yn gyffredin - mae pryder mawr am doriadau a diffyg buddsoddi.

Dyna fydd un o'r heriau mawr ar y stepen drws i wleidyddion, fydd yn ceisio ennill pleidleisiau etholwyr Gwynedd Maldwyn ymhen blwyddyn.

Pynciau cysylltiedig