Beth mae'r Senedd yn ei wneud?

- Cyhoeddwyd
Bydd yr etholiad nesaf i Senedd Cymru yn digwydd ar 7 Mai 2026.
Mae'n argoeli i fod yr etholiad mwyaf nodedig i Fae Caerdydd ers sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol - fel ag yr oedd - yn 1999.
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Ond beth mae'r Senedd yn ei wneud?
Dyma ganllaw byr.
Beth yw datganoli?
Mae datganoli yn cyfeirio at drosglwyddo pwerau o un lefel i un sydd yn agosach at yr etholwr.
Yn 1997 pleidleisiodd pobl Cymru o blaid symud rhai cyfrifoldebau o San Steffan i Fae Caerdydd drwy sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru a agorodd yn 1999.
I gychwyn roedd pwerau'r Cynulliad yn gymharol gyfyngedig.
Ond dros y blynyddoedd mae cyfrifoldebau pellach wedi dod gan gynnwys pwerau deddfu llawn mewn amryw o feysydd fel iechyd, addysg, trafnidiaeth, materion gwledig a'r amgylchedd.

Arweinwyr yr ymgyrch Ie yn dathlu canlyniad refferendwm 1997
Mae'r gallu i godi ac amrywio rhai trethi hefyd wedi cyrraedd Caerdydd, ac mae'r Cynulliad Cenedlaethol bellach wedi ei ailenwi'n Senedd Cymru.
Mae cyfrifoldebau dros feysydd eraill gan gynnwys amddiffyn, budd-daliadau, materion tramor ac isadeiledd y rheilffyrdd yn parhau yn San Steffan.
Beth yw'r gwahaniaeth rhwng Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru?
Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am nifer o wasanaethau cyhoeddus y wlad gan gynnwys iechyd, addysg a thrafnidiaeth.
Mae'n gwneud penderfyniadau hefyd am faterion gwledig, yr amgylchedd a chynghorau.
Mae'r llywodraeth yn cynnwys tîm o ysgrifenyddion cabinet a gweinidogion wedi eu harwain gan Brif Weinidog Cymru.
Mae pob ysgrifennydd cabinet yn gyfrifol am faes polisi gwahanol.
Fel arfer y blaid a enillodd y nifer fwyaf o seddi yn yr etholiad blaenorol sy'n ffurfio'r llywodraeth.
Hyd yma Llafur sydd wedi bod yn y sefyllfa yna bob tro.

Senedd Cymru sy'n gyfrifol am graffu ar waith Llywodraeth Cymru
Ond dydy Llafur erioed wedi llwyddo i ennill dros hanner y 60 sedd ym Mae Caerdydd.
Felly mae'r blaid wastad wedi gorfod dod i gytundeb gyda phlaid arall er mwyn gwireddu ei pholisïau ac – yn hollbwysig – sicrhau bod ei chyllideb yn cael ei phasio.
Ar adegau mae hyn wedi golygu bod aelod(au) o blaid arall wedi ymuno â'r llywodraeth i weithio gyda gweinidogion Llafur.
Mae Senedd Cymru'n cynnwys holl Aelodau'r Senedd (ASau).
Rôl y Senedd ydy craffu ar waith y llywodraeth, gan gynnwys deddfau newydd posib mae gweinidogion yn eu hawgrymu.
Y Llywydd sy'n arwain y Senedd ac sy'n gyfrifol am gadw trefn yn y siambr.
Cyn bod unrhyw ddeddf newydd yn cael ei phasio mae'n rhaid iddi gael ei chymeradwyo'n gyntaf gan fwyafrif o ASau.
Beth yw'r gwahaniaeth rhwng Aelod o'r Senedd ac Aelod Seneddol?
Mae Aelod o'r Senedd yn eistedd ym Mae Caerdydd yn craffu ar waith Llywodraeth Cymru.
Mae Aelod Seneddol yn eistedd yn Nhŷ'r Cyffredin yn San Steffan, Llundain yn craffu ar waith Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Mae gan Gymru 32 o Aelodau Seneddol.
Faint o arian mae Llywodraeth Cymru'n ei wario?
Mae cyllideb Llywodraeth Cymru'n werth tua £26bn ar gyfer 2025-26.
Daw'r rhan fwyaf o'r arian yna – tua £21bn – ar ffurf grant gan Lywodraeth y DU.
Mae'r gweddill yn dod drwy drethi mae Llywodraeth Cymru yn codi ei hun.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cael arian ychwanegol pan mae Llywodraeth y DU yn penderfynu gwario mwy o arian ar feysydd fel iechyd ac addysg yn Lloegr.
Sut mae pethau'n newid yn 2026?
Bydd nifer yr ASau ym Mae Caerdydd yn cynyddu adeg yr etholiad nesaf – o 60 i 96.
Bydd y drefn ar gyfer eu hethol nhw a nifer yr etholaethau'n newid hefyd.
Mae'r newidiadau wedi bod yn ddadleuol.
Yn ôl cefnogwyr y diwygiadau mae angen mwy o ASau i adlewyrchu'r pwerau ychwanegol sydd gan y Senedd nawr o'i gymharu â 1999.
Ond mae eraill yn credu bod y newidiadau'n wastraff arian ac y dylid ei wario ar wasanaethau cyhoeddus yn lle.