Cwmnïau bysiau'n gwrthod casglu disgyblion o achos rhew
- Cyhoeddwyd
Mae cwmnïau bysiau'n dweud eu bod yn gwrthod casglu disgyblion o ffyrdd sydd heb eu graeanu oherwydd pryderon diogelwch.
Mae bws un cwmni yng ngorllewin Cymru, oedd heb ddisgyblion ar y pryd, eisoes wedi cael damwain oherwydd rhew du yr wythnos hon.
Yn ôl perchennog bysiau Cwm Tâf, nid yw rhai o'r ffyrdd y maen nhw'n teithio arnynt yn Sir Gaerfyrddin yn cael eu graeanu bellach, er eu bod yn arfer cael eu gwneud.
Dywedodd Cyngor Sir Gâr fod y "prif rwydwaith yn cael ei drin cyn amodau rhewllyd", a bod "llwybrau eilaidd ac ardaloedd problemus eraill yn cael eu trin yn weithredol ar sail adnoddau ac amodau ffyrdd lleol".
Fore Mercher, llithrodd un o fysiau Cwm Tâf oddi ar ffordd yng Nghwm Miles ger Login yn Sir Gaerfyrddin gan achosi difrod i gerbyd arall.
Roedd y bws ar y ffordd i gasglu disgyblion a'u cludo i'r ysgol, doedd dim disgyblion ar y bws ar y pryd.
Yn ôl perchennog y cwmni, Clive Edwards, doedd y ffordd ddim wedi'i graeanu yn ôl yr arfer.
"Roedd blaen y bws wedi mynd mewn i'r clawdd ac roedd cefn y bws wedi taro car felly mae difrod i'r bws ac i'r car", meddai.
Mae Mr Edwards yn amcangyfrif bod gwerth £4,000 o ddifrod rhwng y bws a'r car, a bod gyrrwr y bws wedi cael niwed wrth lithro ar yr iâ wrth adael y bws.
Ychwanegodd mai diogelwch yw'r peth pwysicaf.
"Y pwynt yw, mae'r ffyrdd yma wedi'u graeanu fel arfer, ond mwy na thebyg, oherwydd costau mae angen gwneud toriadau.
"Y canlyniad yw bod damwain wedi digwydd."
Ddydd Iau mae'r cwmni wedi osgoi'r ffordd, er bod Cyngor Sir Gâr wedi dweud wrtho y bydden nhw'n graeanu'r ffordd ers 08:00.
Yn ôl Mr Edwards mae graeanu'r amser hynny'n "ddibwynt" gan fod y bws yn casglu plant cyn 08:00.
Mae Mr Edwards yn annog Cyngor Sir Gâr i "ailedrych" ar le maen nhw'n graeanu ffyrdd.
"Mae diogelwch ein plant yn hollbwysig", meddai.
- Cyhoeddwyd17 awr yn ôl
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
Fe gododd rheolwr cwmni Jones Login, Endaf Jones, bryderon am y ffyrdd cyfagos yn Sir Gâr hefyd, yn ardaloedd Login, Efailwen, Llanglydwen, Hebron, Glandwr, Llanboidy a Llanfallteg.
Mae'n honni nad yw'r ffyrdd hynny yn cael eu graeanu dros nos fel blaenoriaeth bellach.
Dywedodd bod "israddio'r ffyrdd lleol i lwybrau graeanu eilaidd" wedi "effeithio ar ein gweithrediadau dros y boreau diwethaf".
"Bu'n rhaid methu rhannau o'r llwybrau a mannau codi ac anfonwyd cerbydau 4x4 ychwanegol i helpu i gasglu myfyrwyr.
"Mae nifer o'r bysiau hefyd yn cyrraedd ysgolion yn hwyrach na'r arfer a all hefyd effeithio ar addysg myfyrwyr."
Mae'n "bryder" bod diogelwch yn cael ei effeithio gan y newidiadau, meddai, gan ddweud ei fod wedi cyflwyno ei sylwadau i'r cyngor.
'Rwy'n bryderus iawn'
Dywedodd cynghorydd ward Llanboidy, Dorian Phillips fod damwain Cwm Tâf ddydd Mercher yn ganlyniad i doriadau i wariant cyhoeddus.
"Rwy'n bryderus iawn, trwy lwc 'oedd neb wedi cael dolur. Pan rydych chi'n cludo plant ysgol mae angen cadw nhw'n saff. Mae'n sefyllfa ofnadwy."
Er mai ei blaid ef, Plaid Cymru, sy'n rheoli Cyngor Sir Caerfyrddin, dywedodd ei fod yn cydnabod bod toriadau wedi bod i raeanu ffyrdd eilradd y sir.
"Ni wedi gorfod torri nôl gyda'r sefyllfa ariannol fel ma' hi. Os nad yw'r arian yn dod mewn, mai rhaid neud cuts.
"Yn anffodus maen nhw wedi neud cuts i'r ffyrdd, ond maen nhw'n ailedrych ar ôl beth ddigwyddodd ddoe."
Trin llwybrau eilaidd 'ar sail adnoddau'
Dywedodd Cyngor Sir Caerfyrddin eu bod wedi ad-drefnu'r prif lwybr graeanu "yn seiliedig ar risg ac i sicrhau tegwch gwasanaeth ar draws y sir".
Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith, bod y "prif lwybrau yn cwmpasu 21% o'r rhwydwaith ffyrdd".
"Mae ein Polisi Gwasanaeth dros y Gaeaf diwygiedig yn mabwysiadu dull seiliedig ar risg, gan flaenoriaethu priffyrdd strategol a chyfleusterau allweddol fel ysbytai, gorsafoedd tân, a llwybrau prysur eraill.
"Mae'r prif rwydwaith yn cael ei drin cyn amodau rhewllyd.
"Mae llwybrau eilaidd ac ardaloedd problemus eraill yn cael eu trin yn weithredol ar sail adnoddau ac amodau ffyrdd lleol.
"Rydym wedi ymgysylltu â'n darparwyr trafnidiaeth i sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r newidiadau i'n llwybrau, yn cynnal asesiadau dynamig o'r llwybr ac yn cyfathrebu a darparu lleoliadau casglu wrth gefn pe bai angen."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod "Awdurdodau Lleol yn gyfrifol am gynnal ffyrdd eilaidd yn eu hardaloedd.
"Rydym wedi rhoi mwy na £5bn o gyllid yn 2024-25 ar gyfer gwasanaethau allweddol, cynnydd o 3.3% o'r flwyddyn flaenorol."