Dros 80 o ysgolion ar gau a rhybudd fod rhagor o rew i ddod
- Cyhoeddwyd
Roedd dwsinau o ysgolion ar gau wrth i ragor o eira a rhew achosi trafferthion mewn rhannau o Gymru ddydd Iau.
Am 10:00 roedd 45 o ysgolion ar gau yn Sir Conwy, dolen allanol, 21 yn Sir Ddinbych, dolen allanol, 10 yng Ngwynedd, dolen allanol ac 14 yn Sir y Fflint, dolen allanol oherwydd yr amodau rhewllyd.
Mae rhai canolfannau yn Sir Gâr, dolen allanol a Phowys, dolen allanol hefyd wedi eu heffeithio.
Nos Fercher oedd y noson oeraf yng Nghymru hyd yma y gaeaf hwn.
Mae'r Swyddfa Dywydd bellach wedi cyhoeddi rhybudd melyn newydd am rew ar gyfer rhan helaeth y wlad a ddaeth i rym am 16:00 brynhawn Iau.
Cafodd tymheredd o -8C ei gofnodi ger Llanwrtyd ym Mhowys dros nos, tra bod y tymheredd wedi gostwng i -7C ger Capel Curig yn Eryri.
Roedd hi'n -6C yn Y Bala, Aberhonddu, Penarlâg a Phontnewydd-ar-Wy hefyd.
Roedd y Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am eira a rhew yng ngogledd, gorllewin a chanolbarth Cymru hyd at 11:00 fore Iau.
Roedd ail rybudd melyn am rew yn unig dros rannau o dde Cymru yn weithredol tan 10:30 hefyd.
Ond nid yng Nghymru yn unig y mae'r tywydd garw wedi cael effaith, fel gwelodd Linda Brown a oedd wedi gobeithio hedfan i Tenerife o Faes Awyr Manceinion fore Iau.
Wrth siarad ar raglen Post Prynhawn, dywedodd Ms Brown ei bod wedi gorfod aros ar yr awyren am bedair awr cyn cael gwybod na fyddai'n hedfan heddiw.
"Roedd 'na wahanol negeseuon yn dod gan y peilot ac erbyn hyn ar ôl pedair awr... cael gwybod bydd eich flight chi ddim yn mynd heddiw.
"Oedd o mor siomedig, oeddet ti'n disgwyl eistedd wrth y pwll 'efo dy goctel ond dyna ni.
"O'n ni'n ddigon lwcus, roedd 'na ddau Gymro o Garmel yn isda wrth ein hymyl ni."
Dywedodd fod llawer o ddryswch ar yr awyren gyda "neb yn gwybod beth oedd yn digwydd... oedd 'na negeseuon gwahanol yn dod".
A hithau bellach yn aros i fysiau eu cludo i westy cyfagos, dywedodd ei bod yn gobeithio bydd yr amodau yn well yfory er mwyn i'r awyren allu hedfan.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am rew sydd mewn grym rhwng 16:00 brynhawn Iau a 10:00 fore Gwener.
Mae 'na gyngor i bobl gymryd gofal ar y ffyrdd, gyda rhybudd y gallai cyflwr y lonydd fod yn beryglus mewn mannau.
Fe ddylai pobl gynllunio eu teithiau a cheisio defnyddio prif ffyrdd os yn bosib.
Mae rhwng 2-4cm o eira yn bosib mewn mannau, yn enwedig ar dir uchel.
Mae'r rhagolygon yn awgrymu y gallai'r siroedd canlynol weld eira a rhew - Abertawe, Blaenau Gwent, Caerffili, Caerfyrddin, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Conwy, Dinbych, Gwynedd, Y Fflint, Merthyr Tudful, Mynwy, Penfro, Powys, Rhondda Cynon Taf, Torfaen, Wrecsam ac Ynys Môn.
Fe fydd ail rybudd melyn am rew - sy'n berthnasol i siroedd yn ne Cymru a de-orllewin Lloegr yn bennaf - yn dod i rym am 03:00 fore Gwener.
Daw'r rhybudd hwnnw i ben am 11:00.
Mae'r Swyddfa Dywydd yn cynghori pobl i gymryd gofal ar y ffyrdd ac wrth gerdded gan ei bod hi'n bosib y bydd rhai palmentydd yn llithrig iawn.
Dyma'r diweddaraf o gyfres o rybuddion tywydd tebyg dros y dyddiau diwethaf - gan gynnwys rhybudd oren am rew ac eira dros y penwythnos.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl