Huw 'Fash' Rees yn cau ei siop yn Llandeilo am 'resymau iechyd'
- Cyhoeddwyd
Mae'r cyflwynydd ac arbenigwr ffasiwn, Huw 'Fash' Rees wedi cyhoeddi ei fod yn cau ei siop briodas yn Llandeilo, Sir Gaerfyrddin.
Mewn datganiad dywedod bod ei siop 'Huw Rees Bridal' wedi bod yn gwerthu ffrogiau briodas ers dros 16 mlynedd ac enillodd y siop 14 o wobrau cenedlaethol yn ystod yr amser hwnnw.
Ond oherwydd "problemau iechyd parhaus", dywedodd bydd y siop yn cau erbyn diwedd mis Mawrth eleni.
Mae eisoes wedi rhannu ei brofiadau o ddechrau triniaeth dialysis ag yntau'n byw gyda chlefyd yr aren.
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd24 Mai 2022
Mewn datganiad ar gyfrwng cymdeithasol Facebook, dywedodd Mr Rees yr oedd yn "benderfyniad anodd" i gau'r siop.
"Bydd Huw Rees yn rhoi'r gorau i fasnachu ddiwedd Mawrth 2025," meddai.
Aeth ymlaen i esbonio bod "problemau iechyd parhaus yn cymryd fy amser i gyd ac yn gadael cyn lleied o amser ar gyfer rhedeg siop briodasol."
"Mae ein holl gwsmeriaid wedi cael eu cysylltu. Byddwn yn parhau i weithio gyda'r holl briodferched presennol nes eu priodasau.
Yn y datganiad, rhoddodd sicrwydd i bob priodferch na fydden nhw heb ffrog ar ddiwrnod eu priodas gan ddweud bydd y busnes "yn dirwyn i ben yn araf bach tan ddiwedd mis Mawrth."
Fe wnaeth ddiolch i'r holl briodferched a theuluoedd sydd wedi cefnogi'r siop ers 16 o flynyddoedd.