Bachgen wedi boddi ar ôl nofio gyda ffrind yn Afon Tawe - cwest

Kane EdwardsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Kane Edwards yn 13 oed pan fu farw ym mis Mai 2022

  • Cyhoeddwyd

Clywodd cwest yn Abertawe fod corff bachgen 13 oed wedi ei ganfod yn gaeth o dan y dŵr gan goeden ar ôl mynd i drafferthion wrth nofio yn Afon Tawe gyda'i ffrind.

Bu farw Kane Edwards yn y digwyddiad ger Parc Anturiaeth Abertawe ym mis Mai 2022.

Clywodd y crwner fod yna ymdrech chwilio dwys gan y gwasanaethau brys mewn ardal o ddŵr cyflym yn yr afon, ond bod corff Kane wedi ei ganfod ger coeden dan ddŵr.

Fe glywodd y cwest fod Kane a'i ffrind wedi penderfynu mynd i nodio yn y dŵr.

Yn wreiddiol cafodd y ddau eu gweld yn padlo yn y dŵr gan ddau gerddwr wnaeth gymryd fawr o sylw gan ei fod yn rhywbeth y byddai nifer o bobl yn eu harddegau yn ei wneud, clywodd y llys.

Yn fuan wedyn, dywedodd y llygad dyst, Matthew Altarno, fod un o'r bechgyn i'w weld mewn sioc ac roedd yn gofyn a oedd rhywun wedi gweld ei ffrind. "Mae o wedi mynd o dan y dŵr a dyw e ddim wedi dod fyny," meddai.

Fe alwodd Mr Altarno y gwasanaethau brys a cheisio helpu chwilio ond roedd y dŵr yn rhy dywyll i weld ac fe gafodd gyfarwyddyd i gadw pawb arall o'r dŵr.

Dŵr rhewllyd

Fe wnaeth archwiliad post mortem ddod i'r casgliad bod marwolaeth Kane yn gyson â boddi.

Clywodd y llys bod ffrind Kane wedi dweud wrth yr heddlu i Kane fynd adref ar ôl ysgol am ryw 20 munud cyn gadael heb ddweud lle'r oedd yn mynd.

Dywedodd mai syniad Kane oedd mynd i'r afon lle'r oedd tri phwll creigiog a dŵr dwfn.

Roedd y dŵr yn rhewllyd meddai, gyda'r patholegydd yn awgrymu y gallai hynny fod wedi arwain at sioc.

Ychwanegodd y bachgen wrth yr ymchwiliad iddo gael ei gario gan y cerrynt ac y byddai'r un peth fel arfer yn digwydd i Kane, ond bod ei droed "wedi mynd yn sownd" a'r dŵr yn ei dynnu lawr.

Afon Tawe
Disgrifiad o’r llun,

Roedd ymdrech chwilio'r gwasanaethau brys yn canolbwyntio ar un rhan benodol o'r afon

Mewn datganiad i'r cwest dywedodd y Cwnstabl Richard Petherbridge o Heddlu'r De - a gafodd ei anfon i'r safle - iddo ddefnyddio cerrig yn yr afon i gyrraedd y canol, ond pan gyrhaeddodd roedd y dŵr "yn llifo yn hynod gyflym" ac roedd y dŵr budur yn gymysg a dŵr gwyn".

Wnaeth o ddim mynd mewn gan ei fod yn gwybod bod y "cerrynt dan y dŵr yn rhedeg yn gyflymach na'r hyn oedd ar y wyneb".

Mewn datganiad dywedodd Hannah Stanley o dîm galwadau Gwasanaeth Ambiwlans Cymru nad oedd yn hawdd adnabod union leoliad y digwyddiad ac nad oedd y cysylltiad drwy 'what3words' wedi gweithio.

Ond dywedodd ei bod wedi parhau i geisio adnabod yr ardal a bod hynny yn cyd-fynd â'r safonau perthnasol.

Clywodd y llys fod hofrennydd yr heddlu wedi ei alw ond bod y gwaith chwilio yn canolbwyntio ar ardal gymharol fach, gan na fyddai'r afon wedi gallu cario Kane ymhell.

Aeth aelod o'r gwasanaeth tân o dan y dŵr, cyn dod allan yn dweud ei fod wedi canfod "coeden ar wely'r afon a oedd yn dal y bachgen oddi tano".

Clywodd y cwest bod tîm o arbenigwyr wedi archwilio'r pyllau ar yr un pryd nes dod o hyd i Kane a bod yr ymdrechion i gyd yn canolbwyntio ar un ardal.

Clywodd y llys i esgid godi i'r wyneb a bod sgrech wedi dod o lan yr afon lle yr oedd teulu Kane wedi ymgasglu. Daeth cadarnhad mai esgid Kane oedd hi.

Fe fu chwilio dwys gan y gwasanaeth tân, yn ôl yr heddwas, gyda rhai aelodau yn "agos at gael eu sgubo" gan rym y dŵr.

Cafodd cwch bach ei ddefnyddio ac fe gafodd corff Kane ei godi.

Er gwaethaf yr ymdrechion ar lan yr afon am dri chwarter awr, doedd dim modd adfywio'r bachgen.

Mae'r cwest yn parhau.

Pynciau cysylltiedig