Poen 'dirfawr' wrth aros misoedd i gael coil
- Cyhoeddwyd
Mae menyw gydag endometriosis wedi rhannu ei phrofiad o fyw gyda phoen "dirfawr" ar ôl gorfod aros misoedd i gael coil.
Buodd Gail Adams, 48 oed, adref o'r gwaith am bron i dri mis, er y gallai ei chyflwr fod wedi gwella trwy osod coil hormonaidd.
Fel Gail, mae cleifion yng Nghaerdydd a'r cyffiniau bellach yn gorfod aros hyd at naw mis i gael mynediad at ddulliau atal cenhedlu hir-weithredol, yn ôl ffynonellau.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro fod 1,600 o bobl yn aros i gael y coil neu i gael apwyntiad.
Ychwanegodd llefarydd fod gwasanaethau yn profi "pwysau sylweddol a pharhaus yn genedlaethol", gan ddweud: "Mae cydweithwyr yn gweithio'n ddiflino i weld cleifion mewn modd amserol."
Gobaith o leihau symptomau
I Gail Adams o'r Rhws mae cyfnod anodd gydag endometriosis yn golygu ei bod hi'n taflu i fyny, chwysu a llefain.
Roedd Gail, fel nifer o bobl eraill wedi gorfod aros misoedd i gael coil; triniaeth sy'n gallu helpu nifer gyda'r cyflwr endometriosis.
Mae modd defnyddio systemau mewngroth hormonaidd, neu coil, i helpu i drin endometriosis, sef cyflwr poenus sy'n effeithio ar un ym mhob deg menyw.
Mae'r coil hormonaidd, y coil copr a'r mewnblaniad yn cael eu defnyddio'n bennaf i atal beichiogrwydd.
I Gail, mi fyddai apwyntiad byr gyda'r meddyg teulu neu'r ysbyty wedi trawsnewid ei ffordd o fyw.
Yn hytrach na chael ei thrin, roedd yr athrawes Saesneg yn dibynnu ar boteli dŵr poeth a phoenladdwyr cryf i ymdopi â'r "poen ddiflas" cyson o fyw gydag endometriosis.
Roedd y boen mor ddrwg, rhoddodd y gorau i weithio am bron i dri mis, yn ogystal a chymdeithasu gyda'i ffrindiau.
Rhoddwyd opsiynau iddi - dywedodd meddyg teulu Gail wrthi am goil hormonaidd newydd a fyddai'n helpu i drin yr endometriosis a lleihau ei symptomau.
Ond bu rhaid aros o leiaf pum mis am y driniaeth.
Yn y cyfamser, fe wnaeth gwasanaethau iechyd rhywiol bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro ei rhoi ar restr aros o saith mis.
'Pryderu am y rhai sy'n aros o hyd'
"Yr unig opsiwn yw cynyddu nifer y tabledi dwi'n eu cymryd a bwrw fy hun allan," meddai Gail.
Mae apwyntiad i osod coil yn cymryd tua 30 munud, gyda'r driniaeth ei hun yn cymryd pum munud.
Ar hyn o bryd mae gan Ysbyty Brenhinol Caerdydd 900 o bobl ar ei restr aros am goil neu fewnblaniad, tra bod 744 arall bellach yn aros am ddyddiad apwyntiad.
Fe gafodd Gail apwyntiad funud olaf ar ôl i glaf arall ganslo.
Er ei bod hi'n ddiolchgar am ei thriniaeth, dywedodd ei bod hi'n pryderu am y bobl eraill sy'n aros o hyd.
"Mae 'na gymaint o ferched sydd wir yn ymladd i gael triniaethau syml iawn ar gyfer salwch gwanychol iawn sy'n newid bywydau," meddai.
Mae rhan fwyaf o fyrddau iechyd Cymru yn dweud bod rhaid aros am bythefnos am ffitiad ar ôl cyswllt cychwynnol, gyda'r ail arhosiad hiraf yn saith wythnos yn ardal Hywel Dda yng ngorllewin Cymru.
Fodd bynnag, o fewn Caerdydd a'r Fro, mae rhaid aros rhwng pum a chwe mis.
Fe awgrymodd rhai clinigwyr i BBC Cymru fod rhai cleifion yn aros wyth neu naw mis.
'Dim gwasanaeth teg i ferched Cymru'
Fe wnaeth llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro annog cleifion i gysylltu â'i dîm pryderon, gan ychwanegu: "Mae'n ddrwg gennym glywed am brofiad y claf hwn ac rydym yn deall pa mor anodd yw hi i gleifion sy'n aros am amser hir am driniaeth."
Yn ôl Dr Georgina Forbes, nid oes "gwasanaeth teg i ferched Cymru".
Dywedodd cadeirydd y Gyfadran Gofal Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlol yng Nghymru fod amrywiaeth gwirioneddol o amseroedd aros ar draws y wlad.
Ychwanegodd ei fod yn anodd ateb y galw cyn cyfnod cofid 19, ond ers y pandemig, cafodd coiliau a mewnblaniadau eu rhoi ar waelod y rhestr gan arwain at ôl-groniadau.
Dywedodd Dr Forbes, sy'n gweithio i fwrdd iechyd Aneurin Bevan, hefyd fod clinigau wedi cau tra bod hyfforddi a chadw staff hefyd yn broblem.
"Yn y cyfamser, rydych chi'n dal i gael yr un pwysau o atgyfeiriadau bob wythnos ac mae'r un nifer o fenywod yn ffonio bob wythnos, mae'n anodd iawn cael y swm yna i lawr," meddai.
Tynnodd Dr Forbes sylw at y ffaith nid yn unig ffitio, ond tynnu coiliau allan oedd yn broblem, sy'n gallu atal pobl rhag cael babi.
Yn ei adroddiad diweddaraf, cofnododd Iechyd Cyhoeddus Cymru gynnydd o 34% yn nifer yr unigolion a gafodd erthyliadau yn y pum mlynedd hyd at 2021.
Tynnodd Dr Forbes sylw at y ffaith bod cysylltiad rhannol rhwng cyfraddau erthyliad ac atal cenhedlu, gan ychwanegu: "Os ydym yn dargyfeirio ein gweithlu i ofal erthyliad, nid ydym yn datrys rhywfaint o broblem y cyfraddau erthyliad cynyddol."
Galwodd Dr Forbes am fwy o "ysgogiad" gan Lywodraeth Cymru, gan "roi rhywfaint o bwysau ar ymddiriedolaethau i ddarparu'r gwasanaeth mewn modd amserol".
'Disgwyl i bob bwrdd iechyd gymryd camau cadarnhaol'
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i sicrhau mynediad at ystod o opsiynau atal cenhedlu, a ddarperir yn ddiogel ac yn effeithiol gan weithwyr iechyd hyderus a chymwys.
"Sefydlwyd grŵp gorchwyl a gorffen ar gyfer iechyd rhywiol ac atgenhedlu menywod, gyda chynrychiolaeth eang o blith gwasanaethau iechyd rhywiol Cymru, i ddeall yr heriau o ran darparu LARC ar ôl y pandemig."
"Rydym yn disgwyl i bob bwrdd iechyd gymryd camau cadarnhaol i wella profiadau a chanlyniadau menywod a mynd i'r afael ag unrhyw anghydraddoldebau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2021