Nofio'r Sianel i brofi bod posib 'bownsio nôl' wedi iselder

Tomos Bedwyr cyn mynd i'r môr i ddechrau ei sialens - byddai'n dod allan dros 15 awr yn ddiweddarach
- Cyhoeddwyd
Treulio 15 awr yn nofio 35 milltir ar draws un o foroedd prysura'r byd, yn ei dryncs, a chael ei bigo gan sglefrod môr ar hyd y ffordd…
Dyna'r sialens wnaeth Tomos Bedwyr gwblhau yn ddiweddar er mwyn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd siarad am iechyd meddwl a phrofi bod posib cyflawni pob math o bethau wedi cyfnod o iselder.
Nôl yn 2021 roedd o wedi gosod sialens iddo fo'i hun wedi iddo fo a'i gyfaill o'u cyfnod yn Ysgol y Preseli redeg ar hyd arfordir Sir Benfro mewn saith diwrnod.
"Roedd hynny fel marathon y dydd ac ar y seithfed dydd oedden ni wedi edrych mas a meddwl beth fyddai'n yn waeth na hwn?" meddai ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru.
"A ni wedi clywed y môr a'r tonnau yn taro'r ddaear a dyma fi'n dweud 'byddai nofio yn waeth na hyn'. Ac ers 2021 fi wedi meddwl - 'ia, nofio'r Sianel nawr'."

Tomos yn ystod ei sialens
Fel rhan o'i baratoadau, y llynedd a'r flwyddyn cynt roedd wedi nofio rhwng de Lloegr a Ffrainc fel rhan o dîm cyfnewid, lle'r oedd pedwar person yn cymryd eu tro i nofio awr o'r daith.
Ond mae nofio'r holl ffordd ar ben eich hun yn llawer anoddach a rheolau llym cyn cael eich cofrestru. Mae mwy o bobl yn llwyddo i gyrraedd copa Everest na nofio'r Sianel, ac mae hanner y bobl sy'n rhoi cynnig arni yn methu cyflawni'r sialens.
"Yn anffodus mae pobl wedi marw tra'n neud e felly mae rheola fanna i gadw pawb yn saff," meddai Tomos.
"I neud y Sianel ma' raid ti nofio chwe awr mewn môr sydd yn ddigon agos i conditions yr English Channel, rhaid pasio medical hefyd, rhaid ti cofrestru gyda The English Channel Swimming Association a nhw ddweud yeah or nay, ac un dydd ti'n cael galwad gan y cwch neu coach yn deud 'bore fore byddi di'n nofio… dere lawr'."
"Rhywsut, rhywbryd, mae pethe'n gwella"
Gwrandewch ar Tomos Bedwyr yn siarad gydag Aled Hughes
A daeth yr alwad i Tomos rai wythnosau yn ôl ac am 0310, ar 30 Mehefin, aeth i mewn i'r môr i ddechrau ei daith. Mae'r rheolau yn dweud bod yn rhaid gwisgo gwisg nofio arferol. Doedd o ddim yn cael cyffwrdd cwch tywys ei hyfforddwr ond roedd yn cael diod ganddo bob hanner awr.
"Yn hwnne bydd electrolytes a falle gels a phethe fel yna a bydd hynne'n cadw ti mor dwym â ti'n gallu," meddai. "Ti yn teimlo'r oerfel yn y môr, ond ma' hwnna'n rhan o'r sialens felly does dim hawl i ti wisgo wet suit neu dry suit oherwydd bydd hwnna'n cadw ti'n dwym ac yn helpu ti aros ar ben y dŵr hefyd.
"Felly yn llygaid y Channel Swimming Association - cheating yw hynne. A ti'n meddwl am pethe twym hefyd - ro'n i'n meddwl am farbeciw pan o'n i yn y môr i gadw fy hunain yn dwym."

Mae'r llinell goch yn dangos llwybr Tomos Bedwyr, a sut wnaeth y cerrynt ei effeithio
Y pellter uniongyrchol ydi 21 milltir ond oherwydd y cerrynt mae'n aml yn hirach i nofwyr - yn enwedig os ydyn nhw'n araf gan eu bod yn cael eu gwthio yn bellach o'u targed. Erbyn cyrraedd pen ei daith roedd Tomos wedi nofio 35 milltir, wnaeth gymryd 15 awr a 10 munud.
Meddai: "Yn anffodus o'n i ddim mor gyflym ag o'n i eisie bod. O'n i'n neud un munud a 33 eiliad am bob 100m yn y môr ond y fwya' cyflym wyt ti, y lleie o bellter wyt ti'n cymryd. Ond i fi roedd ysgwydde fi wedi rhoi lan ac wedyn roedd rhaid i fi nofio'r extra milltiroedd."
I wneud pethau'n waeth i Tomos, roedd o mewn poen am rhan fwyaf o'r cyfnod gan ei fod wedi ei bigo droeon gan sglefren fôr ar ddechrau ei daith.
Meddai: "Neshi gael fy nharo ar chops fi ac wedyn dechre taro gwyneb fi ac roedd e wedi mynd lawr corff fi.
"Roedd e jest cadw taro fi a nes i edrych lan at hyfforddwr fi a nes i achwyn ato fe - ac roedd e 'di deud bod e'n rhan o'r sialens ac agosâ i'r diwedd byddwn i'n hapus i gael fy nharo ganddyn nhw.
"Nes i chwyddo lan ar ôl hynne. We'n i'n edrych fel bod fi wedi cael crasfa gan Mam-gu fi neu Mam fi pan o'n i'n fach - bonclust a hanner…."

Tomos gyda'i dîm ar ôl llwyddo i gyrraedd Ffrainc - a'r oriawr sy'n dangos 15 awr a 10 munud
Ond mae'n falch o fod wedi cwblhau'r sialens er mwyn codi arian at elusen Movember, dolen allanol, sy'n ceisio gwella iechyd dynion, gan gynnwys iechyd meddwl, a chansyr y prostad a'r ceilliau.
Ac mae'n gobeithio y bydd yn dangos i bobl sy'n diodde' gyda'u hiechyd meddwl bod gwellhad yn bosib.
Meddai: "Yn anffodus, fi 'di byw gydag iselder a fi'n nabod cwpwl o bobl o gartref sydd 'di byw gydag iselder hefyd.
"Yn anffodus fi'n nabod cwpwl o fois sydd wedi hunan ladd a we'n i jest isie profi i bobl - rhywsut, rhywbryd, mae pethe'n gwella a ti yn gallu neud pethe ar ôl iselder a ti yn gallu bownsio nôl."
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd13 Mehefin
- Cyhoeddwyd8 Mehefin