Teyrngedau i ddyn o Lanelli oedd yn 'ffrind i nifer' a fu farw ym Mryste

Dyn 28-oed gyda gwallt tywyll yn gwenu at y camera.Ffynhonnell y llun, Heddlu Avon a Gwlad yr Haf
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr heddlu fod Rehaan wedi diflannu yn ystod noson allan gyda'i ffrindiau ym Mryste

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu oedd yn chwilio am ddyn 28 oed o Lanelli oedd wedi mynd ar goll ym Mryste dros y penwythnos yn dweud eu bod wedi canfod corff.

Dywedodd Heddlu Avon a Gwlad yr Haf fod Reehan Akhtar wedi diflannu yn ystod noson allan gyda'i ffrindiau a'i fod wedi ei weld diwethaf ger harbwr y ddinas am tua 01:00 fore Sul.

"Rydym yn drist iawn i nodi bod corff wedi'i ganfod yn y dŵr wrth chwilio am Reehan," meddai'r llu mewn datganiad.

"Rydym yn trin y farwolaeth fel un heb esboniad ond sydd ddim yn amheus."

'Gwasanaethu cymunedau gyda balchder'

Dywedodd Heddlu De Cymru - ble roedd Mr Akhtar yn gweithio ers Hydref 2021 - mewn datganiad: "Gyda thristwch ofnadwy gallwn gadarnhau marwolaeth ein cydweithiwr a ffrind PC 9650 Rehaan Akhtar.

"Dechreuodd ei siwrnai gyda Heddlu'r De fel swyddog cymunedol yng Nghaerdydd cyn mynd ymlaen i hyfforddi fel swyddog heddlu ac ymuno gyda'r tîm lleol yn Abertawe ym mis Medi 2023."

Ychwanegodd y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan ei fod yn cydymdeimlo'n arw gyda theulu a ffrindiau Rehaan a'u bod yn barod i wneud popeth o fewn eu gallu i'w cefnogi.

"Yn ystod ei gyfnod gyda Heddlu'r De fe wnaeth o wasanaethu ein cymunedau gyda balchder a phroffesiynoldeb. Roedd yn cael ei barchu yn arw gan ei gyd-weithwyr a'r rhai fyddai'n dod ar eu traws yn ei waith o ddydd i ddydd."

Dywedodd Clwb Pêl-droed Calsonic Kansei Swiss Valley mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol fod Mr Akhtar yn bêl-droediwr ymroddgar ac yn bresenoldeb gwerthfawr ar ac oddi ar y cae.

"Roedd yn ffrind i nifer oedd yn cael ei adnabod am ei bositifrwydd, ei feddylfryd penderfynol a'i gariad at y gêm."

Pynciau cysylltiedig