Canfod corff wrth chwilio am fachgen, 17, yn y Fenai

Y Fenai a Phont y BorthFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd y gwasanaethau brys ue hysbysu dros wythnos yn ôl bod bachgen wedi mynd i'r Fenai

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau eu bod wedi darganfod corff yn ardal Y Fenai.

Roedd sawl asiantaeth wedi bod yn archwilio'r ardal ers rhai dyddiau yn dilyn adroddiadau bod bachgen 17 oed wedi mynd i'r dŵr ddydd Gwener 20 Medi.

Fe gafodd dronau arbenigol eu defnyddio gydol yr wythnos ddiwethaf i geisio dod o hyd iddo.

Dywedodd yr Uwcharolygydd Simon Barrasford: "Mae fy meddyliau gyda'r teulu ac mae ein swyddogion yn parhau i roi cefnogaeth iddyn nhw ar yr adeg anodd eithriadol yma.

"Hoffwn ddiolch i'r gymuned am eu cefnogaeth yn ystod y gwaith chwilio."

Pynciau cysylltiedig