Gwneud gyrfa o ymladd jiu-jitsu yn lle cael 'job go iawn'

- Cyhoeddwyd
Mae pethau wedi newid yn aruthrol i Ashley Williams. Ddeuddeg mlynedd yn ôl, roedd newydd gwblhau gradd mewn Astroffiseg ym Mhrifysgol Caerdydd.
Ond mewn ymladd jiu-jitsu oedd ei galon, felly yn lle dilyn cyngor ei rieni a dilyn cwrs ymarfer dysgu, rhoddodd flwyddyn i'w hun i geisio creu bywoliaeth o ymladd.
Bellach, mae wedi adeiladu gyrfa lwyddiannus yn y maes; yn cystadlu, cynnal seminarau a dysgu eraill, ac mae newydd agor campfa hyfforddi yn Llanelli.
Gwefr y cystadlu
Mae Ashley yn arbenigo mewn submission grappling, sef ymladd sy'n canolbwyntio ar drechu dy wrthwynebydd ar y llawr, ac wedi ennill nifer o gystadlaethau yn ystod ei yrfa, yn y gamp jiu-jitsu Brasilaidd.
"Ro'n i rhif chwech yn y byd yn safleodd Flow Grappling – sef prif gorff llywodraethol y gamp - am rhyw dair neu bedair blynedd. Ac o'n i'n rhif 1 y byd gyda sefydliad arall IBGF, yn y belt brown cyn ges i'r belt du.
"Sioeau Polaris ym Mhrydain ydi rhai o'r prif rai yn y byd, a dwi wedi dal teitlau mewn tri chategori pwysau gwahanol yno. Dwi 'di ennill y Pencampwriaeth Ewropeaidd ddwywaith, a chael lle ym Mhencampwriaeth y byd ddwywaith."

"'Nes i ennill teitl unwaith yn sioe Polaris yng Nghasnewydd, o flaen yr home crowd a rhyw 100 o ffrindiau a theulu yn cefnogi, a 'nes i guro boi oedd wedi fy nghuro i o'r blaen. Roedd y teimlad yna un o'r teimladau gorau o'n i wedi ei gael yn fy mywyd!
"Eleni oedd fy mlwyddyn ddistawaf o ran cystadlu; dwi'n gwrthod cystadlu os dwi heb allu hyfforddi ddigon da, a dwi'n blaenoriaethau pethau eraill yn fy mywyd.
"'Nes i benderfynu mod i ddim am jyglo pethau ddim mwy, a mod i am ganolbwyntio ar gael sefydlogrwydd, gyda'r busnes, teulu.
"Unwaith mae rheiny yn eu lle, a i nôl i hyfforddi llawn amser a mynd nôl i gystadlu."

Swydd 'go iawn'...?
Doedd Ashley byth wedi disgwyl y byddai'n gwneud hyn fel gyrfa, meddai. Mynd i'r brifysgol er mwyn cael swydd 'go iawn' oedd cyngor ei rieni ac athrawon, achos doedd gwneud jiu-jitsu yn broffesiynol ddim yn opsiwn pan oedd Ashley yn ddyn ifanc.
"Mae lle mae jiu-jitsu proffesiynol dros y 15 mlynedd ddiwetha, ychydig fel ei gymharu gyda sut oedd rygbi yn y '60au. 'Dyn ni wedi dod yn bell mewn amser byr, ac mae pobl ifanc heddiw yn gallu gwneud yn wych ac ennill arian mawr yn 17 oed.
"Ond pan o'n i'n 17, ac yn ceisio dewis beth o'n i eisiau ei wneud gyda fy mywyd, o'n i eisiau ymladd a gweithio mewn campfa i dalu'r biliau, a byddwn i wedi bod yn ddyn hapus yn gwneud hynny.
"Do'n i ddim wedi bwriadu ei wneud yn broffesiynol, 'nes i jest cymryd y cyfleoedd fel oedden nhw'n dod.
"'Nes i ddechrau cael mwy o gyfleoedd, tyfodd y gamp, a dwi wedi cael cyfleoedd dros y byd. Dwi mor ddiolchgar."
Caled ar y corff
Ag yntau yn 33 oed nawr, mae'r blynyddoedd o ymladd, hyfforddi a chystadlu yn dechrau dweud ar ei gorff, meddai, ac mae angen ambell i lawdriniaeth arno. Mae hyn oherwydd y ffordd mae rhywun yn trechu gwrthwynebydd yn y gamp.
"Be' ti'n trio'i wneud ydi gor-estyn (hyperextend) y cymalau – dyna ydy submission. Ac mae fel band elastig, sy'n cael ei stretshio drosodd a throsodd; mae fy ligaments yn cael eu tynnu a'u hymestyn, ac weithiau maen nhw'n rhwygo."

"Mae fy nghorff wedi mynd drwy lawer dros y 10 mlynedd diwetha", meddai Ashley.
"Pan ti'n gweld gymaint o niwed sy'n cael ei wneud i dy gorff di, ti'n dechrau edrych ar y pethau eraill yn dy fywyd sy'n bwysig. Ac mae hefyd angen diogelu fy nghorff; dwi eisiau gallu cerdded pan dwi'n 40, a byw bywyd iach a da!
"Mae'n swnio'n gamp creulon, ond mae wir yn ddiogel iawn, os ti'n cadw at y rheolau. Ti'n gallu ei wneud bob dydd, a dyna pam dwi'n ei garu e.
"Ond fel mewn unrhyw gamp, mae unrhyw athletwr lefel uchel am gael rhestr hir o anafiadau.
"Mae 'na ambell i beth dwi eisiau eu croesi oddi ar fy rhestr. Ar ôl gwneud hynny, efallai 'nai i ystyried ymddeol, ond dwi'n rhoi pum mlynedd arall i'n hun i wneud hynny."
Pŵer y cyfryngau cymdeithasol
Yn ôl Ashley, mae'r cyfryngau cymdeithasol wedi bod o help mawr i godi proffil y gamp yn y blynyddoedd diwethaf, gan agor drysau a rhoi cyfleoedd i'r athletwyr.
"Galli di gael person does fawr neb yn gwybod amdano sy'n curo rhywun gwych, ac maen nhw'n mynd yn feiral ac yn fwy adnabyddus. Maen nhw'n dod â mwy o bobl i wybod am y gamp.
"Tua 10 mlynedd yn ôl, 'nes i ennill llawer o bethau, ond doedd gen i ddim wir y platfform gorau i bobl ei weld. Ond mae gan y bobl sy'n dechrau arni nawr y cyfle i fod yn sêr neu i wneud arian neu i gyrraedd mwy o bobl.
"Dwi mor ddiolchgar am bob cyfle dwi 'di gael – dwi 'di dysgu yn Awstralia, De Affrica, Mecsico, dros Ewrop. Dwi'n caru pob cyfle. Mae 'na rai pobl sy'n cael y cyfleoedd yna, dwy flynedd i mewn i'w gyrfaoedd, lle gymerodd hi rhyw ddegawd i mi."

Ac wrth gwrs, gyda'r cyfryngau cymdeithasol yn helpu i ddenu cynulleidfa newydd, mae'n rhoi cyfle i ddangos i bobl ifanc pa gyfleoedd sydd ar gael mewn camp o'r fath:
"Doedd yr esiamplau sydd i bobl ifanc heddiw, ddim yna pan o'n i'n tyfu lan. Doeddet ti ddim yn eu gweld nhw, a dyna pam oedd rhaid i mi frwydro gyda fy rhieni ac athrawon.
"Mae'r cyfryngau cymdeithasol wedi helpu pobl ifanc heddiw gyda'r neges, wir y gallu di wneud beth bynnag ti eisiau."
Camp o ddifri'
Nid i bobl ifanc yn unig mae'r gamp, wrth gwrs – ac er bod y gampfa newydd yn cynnig dosbarthiadau o saith oed, gall unrhyw oed gymryd rhan, meddai Ashley.
Beth sy'n bwysig yw eich bod eisiau gwthio eich hunain, ac mae'n edrych 'mlaen at greu cymdeithas newydd o ymladdwyr yn ei gampfa, sydd eisiau herio eu hunain a dysgu rhywbeth newydd.
"Dwi'n credu fod pawb yn gallu ei wneud. Mae'n gorfforol, yn anodd ac yn heriol, ac mae'n dysgu llawer iawn am pwy wyt ti.
"Mae martial arts wedi symud ymlaen llawer ers gwersi mewn neuaddau eglwysi gyda matiau ar y llawr. Roedden ni eisiau adeiladu rhywle sy'n dangos fod angen cymryd y gamp o ddifri a'n bod ni yn cymryd balchder yn beth ry'n ni'n ei wneud.
"Rydyn ni'n falch iawn o beth ry'n ni wedi ei adeiladu ac yn edrych mlaen at adeiladu cymuned."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd30 Awst
- Cyhoeddwyd27 Awst