Teyrngedau i Meleri Mair, heddychwraig, cynhyrchydd a chantores

Y ddiweddar Meleri Mair, a fu farw yr wythnos hon yn 79 oed
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau lu wedi cael eu rhoi i Meleri Mair - heddychwraig, cenedlaetholwraig, cynhyrchydd a chantores - sydd wedi marw yn 79 oed.
Yn ferch i'r gwleidydd amlwg Gwynfor Evans - bu'n ysgrifenyddes iddo ar ôl ennill sedd gyntaf Plaid Cymru yng Nghaerfyrddin yn 1966.
Wrth ei chofio, dywedodd ei brawd-yng-nghyfraith, Ffred Ffransis, bod "grym cyfiawnder" yn bwysig i Meleri.
Cafodd ei haddysg uwchradd yn Ysgol Pantycelyn yn Llanymddyfri ac yn y fan honno y cafodd grŵp pop Y Diliau ei ffurfio - grŵp a wnaeth ryddhau sawl cân ac a oedd yn hynod o boblogaidd yn y 1960au a'r 70au.
"Meleri oedd â'r llais gwaelod, roedd hi hefyd yn canu'r gitâr ac mae sawl un wedi cyfeirio at ei llais melfedaidd," medd ei chwaer Meinir Ffransis wrth siarad â Cymru Fyw.

Roedd Meleri Mair (ar y dde) yn aelod o'r grŵp Y Diliau
Wedi cyfnod ysgol fe gwblhaodd Meleri gwrs ysgrifenyddol ac fe arweiniodd hynny at yrfa yn y cyfryngau.
Bu'n gweithio i HTV ac wedi i S4C ddod i fodolaeth - sianel y bu ei thad yn ymgyrchu drosti - fe sefydlodd sawl cwmni cynhyrchu, yn eu plith Hon, Pendant, Cadno a Chreu Cof.
Mewn teyrngedau iddi ar y cyfryngau cymdeithasol mae sawl un wedi cyfeirio at ei harloesedd yn y maes fel cynhyrchydd a chyfarwyddwr, ac wedi sôn hefyd am ei hangerdd dros roi cyfle i ferched.
Bu ei nith Lleucu Meinir yn gweithio iddi, "ac un peth trawiadol yn cwmni Hon oedd bod pawb - dim ots beth oedd y gwaith - yn cael yn union yr un cyflog", meddai.
"Mae sawl un wedi sôn sut roedd gweithio i gwmni Hon yn fan cychwyn i'w gyrfa ym myd y cyfryngau.
"Rhaid cofio hefyd bod hi'n ffotograffydd da - teithiodd yn helaeth gan gynnwys mynd i dde America a hi roddodd i fi fy nghamera iawn cyntaf," ychwanegodd Lleucu, sydd hefyd yn ffotograffydd.

Ddydd Sul roedd Meleri Mair mewn gwylnos heddwch gyda'i chwaer Meinir Ffransis
Yn ei blynyddoedd diweddaraf treuliodd Meleri Mair gyfnodau yn y Llyfrgell Genedlaethol fel un o'r gwirfoddolwyr.
"Roedd hi wrth ei bodd yno," ychwanegodd Meinir Ffransis, "ond yn ystod y blynyddoedd diwetha' roedd hi wedi symud i fyw yn ein hymyl ni.
"Ymhen pythefnos byddai hi wedi bod yn 80 ac roedd hi'n edrych ymlaen yn fawr at barti teuluol.
"Mae'r cyfan wedi digwydd yn eitha' sydyn gan bod hi ddydd Sul diwethaf mewn gwylnos heddwch yn Llandysul.
"Roedd hi'n chwaer gwbl arbennig - roedd heddychiaeth, cenedlaetholdeb a'i theulu yn bwysig iddi.
"Mae gen i a Ffred nifer o blant a ro'dd hi wastad mor hael gyda'i hamser i ni - wedi'n helpu ni gymaint.
"Mae 'da ni fusnes teuluol - Cadwyn - ac fe fyddai Meleri yn ein helpu ni'n gyson, ei chymorth bob tro yn werthfawr.
"Mae'n rhyfedd meddwl ei bod wedi mynd ac mae'r golled ar ei hôl yn anferth."
Mae Meleri yn gadael dwy chwaer Meinir a Branwen, a thri brawd Dafydd, Guto a Rhys. Bu brawd arall, Alcwyn, farw yn 2020.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.