Wrecsam v Caerdydd ac Abertawe v Man City yng Nghwpan yr EFL

Dyw Wrecsam a Chaerdydd ddim wedi chwarae ei gilydd ers i Wrecsam ennill drwy giciau o'r smotyn yn rownd gynderfynol FAW Premier Cup yn 2004
- Cyhoeddwyd
Mi fydd dau dîm o Gymru'n wynebu ei gilydd ym mhedwaredd rownd Cwpan y Gynghrair wrth i Wrecsam groesawu Caerdydd i'r Stok Cae Ras.
Mae Abertawe hefyd wedi llwyddo sicrhau gêm gartref ond yn erbyn un o gewri'r Uwch Gynghrair, Manchester City.
Mi fydd y gemau'n cael eu cynnal yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 27 Hydref.
Dyma'r tro cyntaf yn hanes y gystadleuaeth i dri chlwb o Gymru gyrraedd y bedwaredd rownd, a'r tro cyntaf ers dros 20 mlynedd i Wrecsam chwarae Caerdydd.
O leiaf un tîm o Gymru yn y rownd nesaf
Abertawe oedd y tîm cyntaf o Gymru i gyrraedd y bedwaredd rownd ar ôl i dîm Alan Sheehan frwydro'n ôl i guro tîm arall o'r Uwch Gynghrair, Nottingham Forest.
Hyd yma mae'r Elyrch hefyd wedi curo Crawley Town a Plymouth Argyle yn y gystadleuaeth.
Fe gurodd Caerdydd, sydd bellach yn Adran Un, dîm o'r Uwch Gynghrair hefyd gyda Joel Colwill a Callum Robinson yn sgorio yn erbyn Burnley i'w curo 2-1.
Dim ond un gêm y mae'r Adar Gleision wedi'i cholli y tymor hwn, ac yng ngweddill y gystadleuaeth eleni mae nhw wedi curo Swindon Town a Cheltenham Town.
Mae Wrecsam wedi cyrraedd y bedwaredd rownd am y tro cyntaf ers 1977-78 ar ôl curo Reading 2-0 nos Fawrth, gyda'r Cymro Nathan Broadhead yn sgorio'r ddwy gôl yn y Stok Cae Ras.
Mae tîm Phil Parkinson hefyd wedi curo dau dîm o'r Bencampwriaeth i gyrraedd y man yma, sef Hull City a Preston North End.
Mae o leiaf un tîm o Gymru am gyrraedd y rownd nesaf ac yna dim ond dwy gêm fydd cyn cyrraedd Wembley.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl