'Gofalu am Dad 24/7 wedi fy ngadael mewn lle tywyll iawn'

Llun o Danny Mendozo sydd a gwallt llwyd a barf gwyn ac mae'n gwisgo sbectol ddu a chrys glas. Mae'n eistedd mewn cadair ddu o flaen ffenestr ar ddiwrnod braf.
Disgrifiad o’r llun,

Fe waethygodd iselder Danny ar ôl cymryd y cyfrifoldeb fel unig ofalwr ei dad

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi sôn am y teimlad o "argyfwng" a ddaeth yn sgil yr unigrwydd o ofalu am ei dad yn llawn amser.

Mae Danny Mendoza, sydd o Gresffordd ger Wrecsam, yn galw am ragor o gymorth iechyd meddwl ar gyfer pobl sy'n gofalu am eu hanwyliaid.

Datblygodd ei dad, Bernard, sy'n 82, dementia dair blynedd yn ôl a Danny sydd wedi bod yn gofalu amdano ers hynny.

Mae Danny, sy'n 54, wedi bod yn "byw fel hermit" meddai, ac roedd y teimlad ynysig wedi arwain ato'n ystyried lladd ei hun.

Mae ffigyrau newydd yn awgrymu bod 38% o ofalwyr di-dâl yng Nghymru yn dioddef yn feddyliol, gyda 60% yn teimlo wedi eu llethu.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod rôl gofalwyr di-dâl yn hanfodol, a'i bod wedi ymrwymo i sicrhau bod cymorth ar gael iddynt.

Mae Bernard Mendoza mewn cartref gofal am gyfnod, er mwyn i'w fab, Danny, gael seibiant
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bernard Mendoza mewn cartref gofal am gyfnod, er mwyn i'w fab, Danny, gael seibiant

Mae Danny wedi bod yn brwydro ag iselder ers 20 mlynedd, ond fe waethygodd ei gyflwr ar ôl iddo gymryd y cyfrifoldeb fel unig ofalwr ei dad.

Mae ei dad bellach mewn cartref gofal am chwe wythnos er mwyn rhoi o seibiant iddo, ond mae Danny'n credu y dylai bod mwy o gymorth ar gael cyn iddo gyrraedd ei "fan isaf".

"Mae wedi cael effaith enfawr ar fy iechyd meddwl," meddai.

"Dydw i erioed wedi teimlo mor isel. Cyrhaeddais i fan ble roeddwn i'n ystyried bod lladd fy hun yn cynnig ffordd allan."

"Dyna pryd sylweddolais i nad oeddwn i'n iawn."

'Y system wedi torri'n llwyr'

Ar ôl siarad â'i feddyg, cysylltodd Danny â'r gwasanaethau cymdeithasol y diwrnod nesaf.

"Rydyn ni nawr wedi rhoi Dad mewn cartref gofal wrth i mi gael seibiant am chwe wythnos," dywedodd.

"Ond ni ddylai chi gyrraedd y pwynt o argyfwng cyn i chi gael y cymorth sydd ei angen arnoch."

"Dylwn i fod wedi gofyn yn gynharach, ond wedi dweud hynny dwi'n teimlo fel y dylai 'na rywbeth fod wedi bod ar waith er mwyn sicrhau bod pobl sy'n gofalu am aelodau'r teulu ddim yn gorflino nac yn cyrraedd man tywyll iawn fel y gwnes i."

Dywedodd bod cytuno i roi ei dad mewn gofal dros dro wedi ei adael "yn llawn euogrwydd", ond "hyn a hyn y gallwch ei wneud cyn i chi eich hun dorri, a dyw hynny ddim yn helpu fi na Dad".

Llun o Danny Mendozo, ar y dde, gyda'i dad, sydd ar y chwith. Mae Danny'n gwisgo crys denim glas a sbectol ddu. Mae ei dad yn gwisgo crys-t glas tywyll, oriawr a sbectol grwn. Mae'r ddau'n gwenu'n tra'n eistedd mewn cadeiriau esmwyth.
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Gofalwyr Cymru mae 310,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru

Dywedodd Danny fod y system i ofalwyr di-dâl wedi "torri'n llwyr" ac nad oes digon yn cael ei wneud i dynnu sylw at y cymorth sydd ar gael.

Bu'n rhaid iddo adael ei swydd dair blynedd yn ôl, ac mae'n beirniadu'r Lwfans Gofalwr gwerth £328 y mis y mae'n dweud y mae'n ei gael.

"Sori, ond mae hwnna'n rhwbio halen yn y briw. Dwi'n ofalwr 24/7."

"Dwi'n gwybod mai fy nhad i ydy o a dwi'n ei garu ond fi yw ei ofalwr a dylai'r arian gyfateb i o leiaf yr isafswm cyflog. Mae dal angen byw. Dydy o ddim yn iawn."

69% angen mwy o gymorth

Yn arolwg blynyddol Gofalwyr Cymru o 1,217 o ofalwyr presennol a chyn-ofalwyr, dywedodd 69% bod angen mwy o gymorth gyda'u hiechyd a lles.

Dywedodd 66% fod trafferthion ariannol yn cael effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl, a 60% eu bod yn teimlo eu bod wedi'u gorlethu.

Ymhlith y rhai a geisiodd cymorth gan wasanaethau gofal cymdeithasol, dywedodd 57% nad oedd gwasanaethau ar gael pan oedd eu hangen.

Yn ôl eu Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus, Rob Simkins, dylai'r canfyddiadau godi cwestiynau mawr, gan ddweud bod y cynnydd mewn achosion iechyd meddwl yn "ddamniol ar gyfer y gwasanaethau sydd i fod i gynnig cymorth".

"Mae angen i ni nawr weld camau gweithredu brys ac arweinyddiaeth gan Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu mynd i'r afael â'r materion hyn. Mi fyddai unrhyw beth llai na hynny yn annerbyniol."

Llun o Gill Stafford (ar y dde) yn sefyll drws nesaf i'w mab Gareth sydd a'r cyflwr parlys yr ymennydd ac sy'n eistedd mewn cadair (ar y chwith). Mae Gill yn gwisgo cardigan lwyd a chrys-t du, a Gareth yn gwisgo siwmper du a chap pig yn pwyntio am yn ol.
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Gill Stafford, pan nad oes gofalwyr ar gael i'w mab, Gareth, fe allai wythnosau basio heb iddi weld unrhyw un

Gill Stafford, 76, o Abergele yn Sir Conwy yw unig ofalwr ei mab Gareth ers i'w gŵr farw 10 mlynedd yn ôl.

Mae gan Gareth, 38, barlys yr ymennydd (cerebral palsy) ac nid yw'n gallu cerdded na siarad ond mae'n chwarae boccia – math o bowls – ac yn cynrychioli Cymru yn y gamp.

Dywedodd Gill fod gofalwyr yn "teimlo'n anweladwy weithiau".

"Dwi'n gweld pobl yn cerdded heibio, drwy ffenest Gareth, ac mae rhai'n codi llaw ato, sy'n eithaf neis," dywedodd.

"Ond 'da chi'n cael awydd i fynd allan a gofyn 'allwch chi ddod mewn'?"

Dywedodd Gill bod Gareth yn cael rhywfaint o ofal cymdeithasol sy'n ei galluogi hi i fynd allan unwaith yr wythnos am chwe awr.

Yn ogystal, mae gofalwr yn gyrru Gareth i chwarae boccia am hanner diwrnod bob wythnos ond dywedodd ei bod hi'n aml yn mynd gyda nhw er mwyn sicrhau ei bod hi'n "siarad â rhywun".

£42m i gefnogi gofalwyr

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i "sicrhau bod cymorth yn parhau i fod ar gael".

Dywedon nhw eu bod wedi dyrannu £42m i gefnogi gofalwyr di-dâl ers 2022.

"Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda byrddau iechyd ac awdurdodau lleol i wella gwasanaethau ar gyfer gofalwyr, gan gynnwys y mynediad at asesiadau o anghenion gofalwyr."

Mae cais wedi'i wneud am sylw gan Lywodraeth y DU.