Gofal seibiant Dementia: 'Angen lleihau'r baich o ofalu'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Profiad June o ofalu am ei gŵr, Meirion, sydd â dementia

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn galw am newidiadau sylfaenol i wasanaethau gofal seibiant yng Nghymru.

Daw'r ymgyrch yn dilyn cyhoeddi adroddiad yn trafod profiad unigolion sy'n cael eu heffeithio gan ddementia.

Mae'r adroddiad yn nodi fod diffygion y gwasanaeth yn gallu cael effaith negyddol ar iechyd cleifion mewn rhai achosion.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y caiff darganfyddiadau'r adroddiad eu defnyddio wrth lunio cynllun gweithredu ar gyfer dementia yng Nghymru.

Gwasanaeth yn methu

Mae gwasanaethau gofal seibiant i fod i gynnig cefnogaeth ac ysgafnhau'r baich ar ddioddefwyr a gofalwyr di-dâl.

Ond mae adroddiad y comisiynydd yn awgrymu nad yw'r gwasanaeth yn dangos yr hyblygrwydd sydd ei angen ar gleifion dementia, ac o ganlyniad nid yw'r effaith yn un cadarnhaol.

Yn yr achosion gwaethaf, mae'r adroddiad yn honni y gall gofal seibiant gael effaith negyddol ar iechyd unigolion, a'u hamddifadu o'u hannibyniaeth.

'Straen' gwraig sy'n gofalu am ei gŵr

Un sydd wedi manteisio ar ofal seibiant yw June Williams o Flaenau Ffestiniog, sy'n gofalu am ei gŵr Meirion, sydd â dementia.

Ers y diagnosis dwy flynedd yn ôl, mae bywyd June wedi'i drawsnewid, ac mae'r angen am seibiant er mwyn gallu ymdopi yn y tymor hir yn "hanfodol".

Dywedodd June: "Dwi ddim eisiau iddo fo fynd yn bell, ac mae'n bechod fod yna ddim mwy o lefydd ar gael."

Mae'r teulu wedi gorfod dibynnu ar ganolfan ymhell o'u cartre', yn Llanrwst, er mwyn i June gael seibiant ac mae hi'n dweud bod gwir angen am ddarpariaeth yn fwy lleol.

"Gobeithio fod pobl ddim yn meddwl fy mod i'n annifyr yn ei yrru fo i ffwrdd, eisiau cael pum munud bach i fi'n hun ydw i.

"Eisiau teimlo fel y gallwn i fynd i'r gwely a chysgu trwy'r nos, dydy hynny ddim yn bod ddim mwy."

Gallwch glywed cyfweliad dirdynnol June ar wefan Radio Cymru.

'Dulliau traddodiadol yn methu'

Er y pryderon, mae'r adroddiad yn dangos fod achosion lle mae'r gwasanaeth yn hyblyg ac wedi ei bersonoli yn gallu bod yn llesol iawn i ofalwyr ac i gleifion dementia.

Mae'n awgrymu y gall dulliau arloesol arwain at ganlyniadau gwell a chynnig mwy am yr arian.

Cafodd canlyniadau'r adroddiad eu selio ar dystiolaeth a gasglwyd mewn sesiynau ymgynghori gyda phobl sydd wedi eu heffeithio dros Gymru.

Dywedodd Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru: "Tra bod yr ymchwil wedi amlygu sawl enghraifft o arfer dda, mae'r gofal presennol yn canolbwyntio yn ormodol ar wahanu a chynnig seibiant o faich gofalu.

"Mae'r dulliau traddodiadol hyn yn aml yn methu cyflawni anghenion y bobl yn ddigonol, a dyma pam mae angen gweld newid sylfaenol yn y ddarpariaeth."

Ychwanegodd: "Mae angen i wasanaethau gofal seibiant fod yn hawdd, yn hyblyg ac yn ymatebol er mwyn helpu'r dioddefwyr i gynnal perthnasau, i fod yn annibynnol a chynnal a datblygu sgiliau newydd."

Mae'r comisiynydd eisoes wedi dechrau trafodaethau gyda sefydliadau perthnasol, gan gynnwys Social Care Wales a'r Carers Trust er mwyn trafod sut i ymdrin â'r diffygion sydd wedi eu hamlygu.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n bwriadu defnyddio canlyniadau'r adroddiad wrth lunio eu cynllun gweithredu nhw ar gyfer ymdrin â dementia yng Nghymru 2018-2022.