Amseroedd aros hir yn disgyn ond yn 'methu targed y prif weinidog'

LlawdriniaethFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae amseroedd aros hir am driniaethau yng Nghymru wedi gostwng dwy ran o dair yn y pedwar mis diwethaf.

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos fod amseroedd aros o fwy na dwy flynedd wedi gostwng i ychydig o dan 8,400 erbyn diwedd mis Mawrth 2025 – y lefel isaf ers mis Ebrill 2021.

Er y gostyngiad mae'r ffigwr yn dal yn uwch na rhai GIG Lloegr a oedd â dim ond 147 o bobl yn aros dros ddwy flynedd.

Y rheswm am y gostyngiad, meddai'r llywodraeth, yw bod apwyntiadau gyda'r nos ac ar benwythnosau yn golygu bod miloedd yn fwy o driniaethau a phrofion wedi'u cynnal.

Nodwyd hefyd bod gweithio rhanbarthol rhwng byrddau iechyd wedi bod yn ffactor, ac ymdrechion o'r newydd i wella mynediad at ofal wedi'i gynllunio.

Dywedodd Eluned Morgan ddiwedd 2024 mai'r nod oedd gostwng y niferoedd oedd wedi aros dwy flynedd neu ragor am driniaethau - o dros 24,000 i "oddeutu 8,000" erbyn y gwanwyn.

Mae'r gwrthbleidiau wedi cyhuddo'r llywodraeth o fethu targedau'n gyson.

Mae maint cyffredinol y rhestr aros hefyd wedi gostwng am y pedwerydd mis yn olynol a bu gostyngiadau hefyd mewn amseroedd aros hir ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol a thriniaethau diagnostig ym mis Mawrth 2025.

Dywed y llywodraeth bod y £50m a roddodd yr Ysgrifefnnydd Iechyd i fyrddau iechyd wedi darparu:

  • 5,143 o driniaethau ychwanegol y tu hwnt i weithgarwch craidd y GIG;

  • 2,160 o brofion diagnostig ychwanegol;

  • 6,084 o apwyntiadau cleifion allanol ychwanegol;

  • 2,166 o asesiadau niwroddatblygiadol ychwanegol y tu hwnt i weithgarwch craidd y GIG, gan ddileu rhestrau aros tair blynedd.

Dadansoddiad Daniel Davies, gohebydd gwleidyddol

Wrth i etholiad y Senedd flwyddyn nesaf agosáu, mae mwy na 600,000 o gleifion ar restrau aros.

O fewn y ffigyrau, mae nifer y bobl sy'n aros o leiaf dwy flynedd wedi denu llawer iawn o sylw.

Mae gweinidogion Llywodraeth Cymru yn cael eu hatgoffa'n aml fod perfformiad yng Nghymru yn waeth nag yn Lloegr.

Methwyd targedau eraill tra roedd Eluned Morgan yn weinidog iechyd, felly fel prif weinidog fe osododd hi'r targed diweddaraf hwn.

Mae bron â'i gyrraedd yn caniatáu i Lafur ddadlau bod amseroedd aros, o'r diwedd, yn symud i'r cyfeiriad cywir.

Ar y llaw arall, bydd methu â'i gyrraedd o drwch blewyn yn golygu mwy o ddadl ynghylch a yw Eluned Morgan yn cyflawni ei haddewid i arwain llywodraeth sy'n cyflawni dros bobl.

Pwy a ŵyr a fydd hynny'n newid arolygon barn sy'n dangos pleidiau eraill yn elwa ar draul Llafur.

Fel ddywedodd Eluned Morgan, mae'r "dasg anferth" o roi'r gwasanaeth iechyd nôl ar ei draed ar ôl y pandemig yn parhau.

'Mewn poen drwy'r dydd... oedd o'n garchar'

Roedd Lona Adamek, 57 o'r Felinheli, yn mwynhau bywyd nes i'w chlun ddechrau dirywio 10 mlynedd yn ôl.

Fe sylwodd ar symptomau gyntaf ar daith i Efrog Newydd gyda'i ffrindiau i ddathlu ei phen-blwydd.

Disgrifiad,

Dywedodd Lona Adamek ei bod mewn poen bob dydd

"O'dd gen i boen yn yr hip ac o'dd y glun just ddim yn dod hefo fi. O'dd y genod yn cerdded i bobman ond o'dd raid i fi gael tacsi neu o'n i'n gorfod eistedd mewn caffi."

Yn y blynyddoedd yn dilyn hynny fe waethgygodd pethau.

"Oeddwn i mewn poen drwy'r dydd, bob dydd. O'dd o'n garchar. O'n i ddim yn medru mynd i nunlla, o'n i ddim yn medru 'neud dim byd ac o'dd raid i fi ddisgwyl i'r diwrnod ddod os o'n i'n mynd i rwla i wbod os o'n i'n mynd i fedru mynd neu beidio.

"Oeddwn i 'di arfer gweithio, wedi arfer gwneud petha' bob dydd ac o'dd methu neud hynna - o'dd hynna'n torri calon rhywun.

"O'n i'n gweld fy hun yn heneiddio... Mae o'n deud ar dy wyneb di.

"O'dd pobl yn deud bo' fi'n edrych mewn poen ac o'n i'n deud 'yndw drwy'r dydd'. O'n i methu cysgu yn y nos a methu setlo - does dim byd gwaeth."

'Mae fatha cwmwl yn codi'

Fis Tachwedd diwethaf - ar ôl bod yn aros am dair blynedd fe gafodd Lona glun newydd.

"Dwi ddim yr un ddynas ag o'n i 'di bod. Dwi ddim yn medru egluro faint o wahaniaeth mae o 'di neud.

"Mae o 'di neud gwahaniaeth i fi yn gorfforol ac yn feddyliol.

"Mae'r pwysau 'na, mae o fatha cwmwl wedi codi. Mae fy mywyd i'n hollol wahanol. Dwi'n hogan lot hapusach nag o'n i."

Yr Athro Jon Barry
Disgrifiad o’r llun,

Dydy'r cynnydd ddim yn digwydd yn ddigon cyflym meddai'r Athro Jon Barry

Wrth groesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i leihau'r amseroedd aros, mae Coleg Brenhinol y Llawfeddygon yn dadlau bod y cynnydd hyd yma wedi bod yn " rhy araf".

"Mae'n rhwystredig iawn i fi fel llawfeddyg, teimlaf yn ddrwg iawn dros y cleifion hynny sy'n eistedd gartref yn dioddef, heb allu symud", meddai'r Athro Jon Barry, Cyfarwyddwr yng Nghymru y Coleg Brenhinol.

"Rydym yn gwneud cynnydd - y broblem yw nad yw'n digwydd yn ddigon cyflym."

Er hynny mae'n dweud bod byrddau iechyd wedi gallu gwella'r sefyllfa -  yn rhannol trwy dalu am fwy o waith pnawn a gwell tâl; comisiynu mwy o waith o'r sector preifat a gweithio gyda'i gilydd yn rhanbarthol i rannu cyfleusterau, staff ac adnoddau.

'Neb yn aros dros ddwy flynedd'

Yn y cyfamser mae bwrdd iechyd Hywel Dda yn dweud eu bod yn hyderus y bydd yr ystadegau diweddara yn dangos fod amseroedd aros o dros ddwy flynedd wedi cael eu dileu yn gyfan gwbl yng ngorllewin Cymru.

"Ry 'ni wedi cyrraedd y pwynt bod neb yn aros dros ddwy flynedd am driniaeth. Yr her nawr yw gwella ar hynny a bod y bobl sy'n aros hyd at ddwy flynedd yn cael eu trin yn amserol," meddai Olwen Morgan Cyfarwyddwr Cynorthwyol Nyrsio y bwrdd iechyd.

Ond sut mae'r bwrdd wedi cyflawni hynny?

"Yn lleol rydyn ni wedi sicrhau bo ni'n gwneud y mwyaf o'r adnoddau sy' gyda ni fel defnyddio'n theatrau i'r eithaf.

"A mae staff wedi bodloni bod yn hyblyg yn y ffordd maen nhw'n gweithio er mwyn gallu gweithio saith diwrnod yr wythnos os bo angen."

'Methiant cyson' yw record Llafur

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles ei fod yn croesawu'r ffigyrau gan ychwanegu: "Hoffwn ganmol byrddau iechyd prifysgol Bae Abertawe a Hywel Dda yn arbennig, sydd wedi ymuno â Bwrdd Iechyd Powys am nad oes unrhyw gleifion yn aros mwy na blwyddyn am apwyntiad claf allanol cyntaf neu ddwy flynedd am driniaeth."

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Mabon ap Gwynfor AS: "Cannoedd o filoedd o bobl ar restri aros, dros 8,000 ohonyn nhw'n aros am fwy na dwy flynedd.

"Mae'r ffaith bod unrhyw lywodraeth yn ceisio hawlio hynny fel buddugoliaeth, yn arwydd o ba mor ddifrifol mae Llafur wedi camreoli ein gwasanaeth iechyd.

"Record o fethiant cyson a thargedau a fethwyd - dyna record y llywodraeth Lafur hon pan ddaw i'n gwasanaeth iechyd. Record o bobl yn aros yn rhy hir, heb dderbyn y gwasanaeth maen nhw'n ei haeddu - record o fethiant."

Ar ran y Ceidwadwyr dywedodd James Evans AS: "Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn dal i fethu ei thargedau canser ac ni ddylai unrhyw un o gwbl fod yn aros am ddwy flynedd am driniaeth neu dros 12 awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, heb sôn am dros 10,000 o gleifion."

Pynciau cysylltiedig