Dedfrydu dyn o Sir Gâr am ddwyn 73 o ddefaid gan gymydog

Cafodd y defaid eu darganfod ar dir Hywel Williams ger Llandysul
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael dedfryd o 12 mis yn y carchar wedi ei ohirio ar ôl cyfaddef dwyn 73 o ddefaid cyfeb gan ei gymydog yng Ngheredigion.
Cafodd Hywel Williams, 40 oed o Langadog, Sir Gaerfyrddin, ei arestio ar 25 Mawrth yn dilyn adroddiadau bod tua 70 o famogiaid wedi cael eu dwyn yn gynharach yn y mis.
Fe wnaeth Williams ganfod y defaid, a oedd yn eiddo i Rhodri Llyr Evans, ar ei dir yn Llandysul cyn iddo eu symud i'w fferm yn Llangadog.
Cafodd y defaid eu canfod wythnos yn ddiweddarach yn dilyn tip lleol - rhai ar dir Williams, rhai heb eu tagiau clustiau mewn lladd-dy lleol, ac eraill wedi cael eu rhoi i ffermwr arall i dalu dyled.
'Straen annioddefol'
Mae Williams yn byw ar fferm 270 erw gyda'i ewythr 81 oed, a dywedodd yn y llys ei fod yn "difaru'n fawr yr hyn y mae wedi'i wneud".
Dywedodd wrth y llys ei fod wedi cymryd y defaid oherwydd ei fod "dan bwysau ariannol" ac yn derbyn bod y weithred yn "annerbyniol" a'i fod yn teimlo cywilydd.
Dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron fod gweithredoedd y diffynnydd wedi "cael effaith ddifrifol ar y gymuned".
Wrth siarad yn Llys Ynadon Aberystwyth, disgrifiodd Rhodri Llyr Evans y lladrad fel un a achosodd "straen annioddefol ar ei deulu a'i fusnes" gan ychwanegu "na ddylai pobl allu cyflawni troseddau fel hyn heb eu cosbi".
Roedd yr holl ddefaid a gafodd eu dwyn yn gyfeb, mewn ardal sydd wedi gweld y gyfran uchaf o ladradau anifeiliaid yn y DU rhwng Ebrill 2024-2025.
Fe blediodd Williams yn euog i ladrad, ac yn ogystal â'r ddedfryd ohiriedig o 12 mis, cafodd orchymyn i gwblhau 250 awr o waith di-dâl a thalu dros £5,000 mewn iawndal.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mawrth
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2024