Teulu o Fôn 'methu deall pam' fod cofeb mab wedi ei dwyn eto

Jackie Lewis gyda'i hŵyr, Mabon, a fu farw yn bedair oed yn 2023
- Cyhoeddwyd
Mae teulu bachgen ifanc a fu farw yn 2023 yn dweud eu bod wedi eu syfrdanu o glywed fod cofeb iddo wedi ei dwyn am yr eildro.
Bu farw Mabon Gwyn Lewis, oedd yn bedair oed ac o Ynys Môn, yn dilyn cyflwr prin ar ei galon.
Cafodd cofeb iddo ei gosod yn un o hoff lefydd Mabon ym Mae Trearddur ar Ynys Môn, ond mae'r gofeb wedi diflannu yn ddiweddar.
Yn siarad ar raglen y Post Prynhawn, dywedodd nain Mabon, Jackie Lewis, fod y teulu'n "methu deall pwy 'sa medru 'neud hyn".

Elsi, chwaer Mabon, o flaen y gofeb ym Mae Trearddur
Dywedodd Ms Lewis fod y gofeb wreiddiol wedi'i gosod ym mis Mai 2024, ond ei bod wedi ei dwyn o fewn deufis.
Ar ôl clywed fod y plac wedi mynd, fe wnaeth Arwel Hughes, ymgymerwr angladdau yn Llangefni, gysylltu â'r teulu a chreu un newydd a'i gosod mewn concrit yn yr un man ym mis Tachwedd.
Mae'r teulu wedi "ypsetio'n ofnadwy" ar ôl clywed fod "rhywun wedi mynd i drafferth fawr" i ddwyn y gofeb am yr eildro, meddai Ms Lewis.
"Oedd o'n ofnadwy o beth i'r teulu," meddai. "Oedd Elsi, ei chwaer o, a'i fam a'i dad yn mynd yna i weld y plac a just i gael gair bach hefo Mabon."

Roedd y teulu yn aml yn mynd at y gofeb i "gael gair bach hefo Mabon"
"Da ni fel teulu wedi ypsetio'n arw a just methu deall pwy 'sa medru 'neud hyn a be' oedd y rheswm tu ôl iddo fo achos oedd yr ail blac wedi'i osod mewn concrit a 'di cael ei gladdu yna.
"Felly mae rhywun wedi mynd i drafferth fawr. Oedd na ffens o gwmpas y lle hefyd felly ma' rhaid bod nhw wedi mynd dros dwyni i gyrraedd y lle, dros y ffens a gwneud hyn - mae'n gneud i rywun deimlo'n numb ac isel."
Bachgen 'hoffus, cariadus'
Roedd Mabon yn fachgen "hoffus, cariadus ac isio bod yn ffrindia hefo pawb", meddai ei nain.
"Oedd o mor hapus, oedd o i fewn i bob peth, isio gwneud bob peth. Oedd o'n hogyn ofnadwy o glyfar - ac wrth ei fodd bod hefo'i chwaer."
Roedd o "wrth ei fodd" yn mynd i Fae Trearddur ble'r aeth o cyn ei driniaeth olaf.
Penderfynodd y teulu ar ôl iddo farw ei fod yn "le braf i gael rhywbeth i gofio Mabon".

Mae cynlluniau ar waith am gofeb arall i Mabon, yma gyda'i dad Sean
Mae cynlluniau am gofeb arall i Mabon yn barod, gydag Arwel Hughes wedi creu plac newydd.
Mae'r RNLI a'r Cyngor Cymuned wedi cynnig helpu, gyda ffrindiau hefyd am godi arian i gael cof parhaol i Mabon.
"Da ni ddim am adael y person 'ma ennill," meddai Ms Lewis.
"A chwarae teg i'r RNLI, maen nhw wedi cysylltu am fainc ym Mae Trearddur.
"Mae mam Mabon, Gemma, hefyd isio 'neud gardd i gofio Mabon ond hefyd i rieni eraill sydd wedi colli plant fel bod nhw'n gallu mynd i rywle distaw a chofio amdanyn nhw a chofio'r amser yna gafodd nhw hefo nhw - a dwi'n meddwl fod hynna'n syniad gwych."
Gwrandewch ar gyfweliad Jackie Lewis ar Post Prynhawn
50:00 i mewn i'r rhaglen dydd Llun