Mam bachgen fu farw yn dweud bod ei rhieni yn 'erchyll' tuag ati

Ethan Ives-GriffithsFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Ethan Ives-Griffiths yn ddwy oed ar 16 Awst 2021

  • Cyhoeddwyd

Mae mam sydd wedi ei chyhuddo o ganiatáu marwolaeth ei mab yn dweud ei bod hi wedi cael ei tharo bron yn "ddyddiol" gan ei thad pan yn blentyn.

Mae Shannon Ives, 28, yn gwadu creulondeb ac achosi neu ganiatáu marwolaeth ei mab dwy oed Ethan Ives-Griffiths, yn nghartref ei rhieni fis Awst 2021.

Mae ei rhieni Michael a Kerry Ives wedi eu cyhuddo o lofruddio'r bachgen ar ôl iddo gwympo'n ddiymadferth yn eu hystafell fyw yn Garden City, Sir y Fflint.

Wrth roi tystiolaeth yn Llys y Goron yr Wyddrgug ddydd Gwener, fe ddywedodd Shannon Ives bod ei rhieni yn "erchyll" tuag ati wrth iddi dyfu fyny.

'Cosbi corfforol a galw enwau'

Fe honnodd Ms Ives ei bod hi wedi cael ei chosbi'n gorfforol gan ei thad ers pan oedd hi oddeutu pedair oed, gydag ergydion a chiciau i'w choesau a'i breichiau a bod arni ei "ofn".

Roedd yn galw enwau arni hefyd, dywedodd Ms Ives.

Fe honnodd bod ei mam, Kerry Ives, hefyd yn ei tharo o bryd i'w gilydd am "ddim rheswm".

Fe symudodd hi o'r cartref pan oedd hi'n 16 oed.

Gofynnodd ei bargyfreithiwr Gordon Cole KC a wnaeth hi erioed gosbi ei phlant ei hun neu eu gorfodi i sefyll gyda'u dwylo ar eu pen.

"Naddo" oedd ateb Ms Ives.

Fe ddywedodd hi bod Ethan yn blentyn normal cyn symud i gartref ei daid a'i nain.

"Roedd o'n cerdded, siarad, chwarae gyda'i deganau. Roedd o'n gwneud popeth," meddai Ms Ives.

Shannon Ives
Disgrifiad o’r llun,

Mae Shannon Ives wedi'i chyhuddo o achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn, a chreulondeb tuag at blentyn

Yn gynharach yn y llys fe wadodd nain Ethan ei bod hi'n ceisio wedi ceisio gwarchod ei gŵr.

Wrth roi tystiolaeth am yr ail ddiwrnod yn Llys y Goron yr Wyddgrug fe ddywedodd Kerry Ives ei bod hi wedi "anghofio" dweud wrth yr heddlu bod ei gŵr yn trin Ethan yn greulon.

Mae'r llys wedi clywed bod y bachgen wedi disgyn yn ddiymadferth yn yr ystafell fyw gyda'i nain a'i daid ar 14 Awst 2021.

Bu farw ddeuddydd yn ddiweddarach o anaf catastroffig i'w ymennydd.

'Ddim eisiau i unrhyw un fod mewn trwbl'

Ar ran yr erlyniad, dywedodd Caroline Rees KC wrth Ms Ives fod Michael Ives yn trin Ethan gyda chreulondeb a bod Shannon Ives yn taro ei mab, ond na ddywedodd Kerry Ives wrth unrhyw un.

Gofynnodd Ms Rees i Ms Ives pam nad oedd hi wedi galw am ofal meddygol i Ethan pan gafodd ei daro yn wael ar y 13 Awst.

"Doeddwn i ddim eisiau i unrhyw un fod mewn trwbl," atebodd Kerry Ives.

Gofynnodd Ms Rees a oedd hi'n fwy pwysig i gadw ei gŵr allan o drwbl na chael gofal meddygol i Ethan.

"Oedd" atebodd Kerry Ives, cyn ychwanegu "dwi'n 'difaru hynny, dwi'n difaru hynny bob dydd."

"Fe ddylwn i wedi ffonio am ambiwlans a dweud wrth yr heddlu a'r gwasanaethau cymdeithasol."

Kerry a Michael Ives
Disgrifiad o’r llun,

Mae nain a thaid Ethan, Kerry a Michael Ives yn gwadu cyhuddiadau o lofruddiaeth

Cytunodd y nain ei bod wedi gadael ei hŵyr yn agored i niwed trwy beidio cysylltu gyda'r awdurdodau.

Gofynnodd Ms Rees pam nad oedd Kerry Ives wedi dweud wrth yr heddlu yn dilyn marwolaeth Ethan, bod Michael Ives yn trin eu hŵyr yn greulon.

"Fe wnes i anghofio," atebodd Mrs Ives, "roedd 'na lot yn mynd ymlaen."

"Roedd eich ŵyr wedi marw," atebodd Ms Rees, "ond roedd hi'n bwysicach i chi beidio dweud y gwir am beth ddigwyddodd. Ai am eich bod chi'n ceisio gwarchod Michael Ives?"

"Nage," atebodd Kerry Ives, "Dwi ddim yn gwarchod unrhyw un."

Mae'r achos yn parhau.

Dywedodd Ms Rees bod dau berson allai ddweud beth ddigwyddodd yn yr ystafell pan gwympodd Ethan yn ddiymadferth.

"Dwedwch wrthom ni pwy laddodd Ethan, Mrs Ives." dywedodd Ms Rees.

"Neb. Wnaeth dim byd ddigwydd iddo" atebodd y diffynnydd.

"Ydych chi'n celu'r gwir i warchod Michael?" gofynodd y bargyfreithiwr.

"Nadw" atebodd Mrs Ives.

Mae Michael Ives, Kerry Ives a Shannon Ives yn gwadu'r holl gyhuddiadau yn eu herbyn ac mae'r achos yn parhau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig