Pobol y Cwm: 'Stori Gaynor yn gallu digwydd i unrhyw un'

Tom a Gaynor
Disgrifiad o’r llun,

Tom a Gaynor

  • Cyhoeddwyd

Mae Sharon Roberts a Rhys ap Trefor sy'n actio Gaynor a Tom yn yr opera sebon Pobol y Cwm yn gobeithio bod eu stori wedi dechrau sgwrs am reolaeth orfodol (coercive control).

Dros y misoedd diwethaf mae gwylwyr y gyfres wedi gweld Tom yn rheoli, manipwleiddio a cham-drin ei bartner, Gaynor, yn seicolegol.

Er fod y gynulleidfa adref yn sylwi fod Gaynor yn ddioddefwr trais yn y cartref, dyw Gaynor ei hun ddim yn sylwi oherwydd tactegau cyfrwys a chreulon Tom.

Yn ôl yr actores Sharon Roberts mae chwarae rhan Gaynor wedi gwneud iddi sylweddoli fod trais o'r math yma "yn gallu digwydd i unrhyw un ac ar unrhyw adeg o fywyd."

Ychwanegodd: "Mae Gaynor yn ddynes aeddfed efo lot o brofiad bywyd ond mae o dal yn digwydd iddi hi achos y pŵer sydd gan Tom, y manipulator, drosti.

"Dwi ddim yn meddwl bo' chdi'n gallu tanseilio pa mor bwerus mae hynna'n gallu bod. O sefyll o'r tu allan falla bo' chdi ddim yn sylwi bod rhywun yn diodde ond gobeithio fydd Pobol y Cwm yn agor y drws ar ddeialog ynglŷn â hyn."

Y rhwyd yn cau ar ddihiryn Cwmderi?

Ar hyn o bryd mae dihiryn Cwmderi, Tom, wedi llwyddo i dwyllo pawb o'r cwm.

Does neb yn gwybod mai fo yw llofrudd chwaer Gaynor, Cheryl, ac mae Tom yn gwneud bywyd yn anodd i unrhyw un sy'n ei herio am ei berthynas â Gaynor.

Ond yn ôl yr actor Rhys ap Trefor, mae'r rhwyd yn cau ar Tom, a bydd mwy o gymeriadau'r cwm yn dechrau ei amau dros y cyfnod nesaf:

"Mae o'n dechrau colli rheolaeth, dim o Gaynor ond o bawb o'i gwmpas. Mae o'n pwsio petha' 'chydig bach rhy bell efo'r bobl anghywir. Dydi o ddim mor ofalus â fysa fo fel arfer achos mae o'n panicio bod pobl yn ei amau. Ond dydi o ddim yn mynd i lawr heb frwydr."

Tom a Gaynor

Bydd stori Tom a Gaynor yn cyrraedd uchafbwynt mewn rhifyn awr ar ddydd Nadolig sydd, yn ôl Sharon, yn gwneud cyfiawnder â straeon dioddefwyr go iawn:

"Fel mae'r stori wedi mynd yn fwy dwys mae Gaynor wedi colli lot o hyder. Mae hi wedi mynd yn fwy a fwy ansicr a Tom wedi ei hynysu hi oddi wrth ei ffrindia. Mae hynna yn duedd coercive control.

"Mae o wedi gwneud iddi gwestiynu ei pherthnasau efo pobl fel Hywel a Colin ac mae o wedi 'neud iddi deimlo'n ansicr am hynna.

"Ti'n gweld Gaynor yn dechrau colli hunaniaeth a dwi'n siŵr 'mod i wedi cael ambell i lein yn deud 'Dwi'm yn siŵr iawn pwy ydw i weithie'. Dwi'n gobeithio fod y gynulleidfa yn gweld y siwrne yna yn Gaynor.

"Mae'n neis cael stori ddwys a phwysig fel hyn ac i wneud cyfiawnder ag o."

Cyngor gan elusen Cymorth i Ferched

Pan ymunodd Rhys â chast Pobol y Cwm rhyw 18 mis yn ôl, roedd yn "edrych ymlaen i chwarae cymeriad manipulative, twyllodrus".

Doedd Rhys erioed wedi chwarae cymeriad mor greulon â Tom o'r blaen ac felly'n "croesawu'r sialens".

Un peth sydd wedi gwneud ei waith yn haws yw'r berthynas mae wedi ei feithrin ag elusen Cymorth i Ferched yng Nghymru.

Eglurodd: "Weithiau pan wyt ti fel actor yn derbyn sgript, a ti'n gwybod bod y storïwyr a'r 'sgwennwyr wedi gwneud ymchwil ond ti'n edrych ar rywbeth a meddwl, 'fasa hynna byth yn wir, mae hynna'n wirion, fasa Gaynor yn gweld trwy hynna'.

"Ond o siarad efo rhywun sy'n hysbys yn y maes, fel y sgyrsiau dwi wedi ei gael gyda Women's Aid, ti'n sylwi bod pobl yn gallu cael getaway a neud y petha mwya afiach ac mae pobl yn gallu cael realiti gwahanol.

"Mae'r angen am y person arall yna mor fawr mae o'n shifftio realiti'r person. Mae be' sy'n dderbyniol i'r dioddefwr yn hollol wahanol i be' sy'n dderbyniol i ni."

Tom a Gaynor

Mae Sharon hefyd yn gobeithio bod y stori'n rhoi llais i'r niwed sy'n cael ei greu wrth feio'r dioddefwr.

"Mae victim blaming yn golygu bo' chdi'n gweld bai ar y person sy'n aros yn y sefyllfa yna a'u bod nhw'n rhydd i fynd.

"Ond mae o'n sefyllfa cymhleth pan mae rhywun yn meddwl bo' nhw mewn cariad, maen nhw'n gallu bod yn ddall. Felly dwi'n gobeithio fod o hefyd yn agor sgwrs a chodi ymwybyddiaeth am victim blaming, ac yn stori fydd o gymorth i ffrindiau dioddefwyr."

Meddai Dafydd Llewelyn, cynhyrchydd y gyfres: "Mae'r stori hon wedi bod yn yr arfaeth ers sbel ac rydym wedi bod mor ffodus i allu cyd-weithio'n agos ag Ann Williams o'r elusen Cymorth i Ferched.

"Er mor anodd a dirdynnol yw'r stori ar brydiau, mae Sharon a Rhys wedi cyflawni gwyrthiau ac wedi gweithio mor galed i sicrhau bod y portread yn un pwerus ac hynod afaelgar."

Gaynor

'Lle saff i chwarae'

Mae gan Sharon a Rhys stori ddwys ar eu hysgwyddau ar hyn o bryd ond mae'r hwyl maen nhw'n ei gael wrth gyd-weithio â'i gilydd yn gwneud pethau'n haws.

Er i'r ddau actio'n y ddrama deledu Talcen Caled yn y 90au dyma'r tro cyntaf iddyn nhw gyd-actio.

"Mae o'n le saff i chwarae. A'r gwir ydy mae on gallu bod yn lot o hwyl," meddai Sharon.

"'Dan ni yn trafod lot. 'Dan i'n cael y sgript, darllen o trwadd a meddwl be' ti'n feddwl o'r strand yma. Mae gynnon ni dîm sydd yn eitha hyblyg a does yna neb sy'n rhy precious felly 'dan ni'n gallu codi pwyntiau i wneud pethau'n haws i chwarae yn y foment.

"Mae cael cefnogaeth dy dîm cynhyrchu yn hynny yn rhoi gymaint o hyder i chdi fel actor."

Mae Rhys yn cytuno: "Un o'r pethau mwyaf dwi wedi ei brofi yn Pobol y Cwm ydi'r ffaith ein bod ni'n gweithio fel tîm a bo' ni fel actorion efo'r mewnbwn o beth sy'n gweithio i'r cymeriad. Mae o'n ffordd organig iawn o weithio."

Tom a Gaynor

Ymateb ar y stryd

Ond ar ôl diwrnod o ffilmio a mynd am dro fel Rhys yn hytrach nac actio Tom, sut mae'n dygymod â phawb yn ei adnabod fel dihiryn Cwmderi?

"Fe ddoth yna ddynes i fyny ata i yn Marks and Spencer a dweud 'You're in Pobol y Cwm aren't you, I hate you!' Chwerthin a cherddad i ffwrdd," meddai.

"Mae o'n digwydd yn bob man dwi'n mynd, hyd yn oed efo pobl dwi'n 'nabod. O'n i 'di mynd i wylio perfformiad y mab yn yr ysgol a rhiant arall dwi'n 'nabod yn ofn siarad efo fi.

"Neu mi fydda i'n cael, 'Chdi sydd ar Pobol y Cwm? Ti ddim byd tebyg, ti lot fwy cyfeillgar.' A dwi yna'n meddwl i fi fy hun 'ie, obvs!'

"Ond dydi o ddim yn poeni fi, mae o'n dangos bod y portread o'r cymeriad yn llwyddiannus a bod y stori wedi cydio... er dwi'n meddwl y basa'n well taswn i wedi aros adra ambell waith!"

Beth nesaf?

All y ddau ddatgelu unrhyw gyfrinach i wylwyr ffyddlon?

"Mi fydd yna bennod yn dod allan hwyrach yn y flwyddyn efo jest pedwar cymeriad. Mae Gaynor yn ffeindio allan bod Cheryl wedi marw ond wna i ddim dweud pa ddau gymeriad arall sydd yn y bennod, ond dwi'n gwybod fod y cynhyrchwyr yn hapus iawn efo hi," meddai Sharon.

Mae'r ddau actor yn hynod falch o fod yn rhan o stori fawr yng Nghwmderi ond eu gobaith mwyaf yw ei bod yn gwneud gwahaniaeth.

I Sharon a Rhys, os yw un person yn gwylio Pobol y Cwm ac yn penderfynu gofyn am gymorth iddyn nhw eu hunain neu ar ran ffrind, yna mae gwneud y stori yma'n hynod werthfawr.

Cliciwch yma os am gysylltu gyda elusen Cymorth i Ferched Cymru , dolen allanolneu Women's Aid., dolen allanol

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig