Arestio dyn mewn cysylltiad â difrod i gerflun Lloyd George

Murlun Lloyd George
Disgrifiad o’r llun,

Fe ymddangosodd y graffiti ar y cerflun ddydd Mawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â difrod i gerflun o gyn-Brif Weinidog y DU, David Lloyd George yng Nghaernarfon.

Cafodd y dyn, 38 oed o Benmaenmawr, ei arestio ddydd Iau ar amheuaeth o achosi difrod troseddol.

Mae'r dyn eisoes wedi'i ryddhau ar amodau mechnïaeth lem wrth i ymholiadau barhau.

Ddydd Mawrth, cafodd Heddlu Gogledd Cymru wybod fod difrod wedi'i achosi i'r cerflun, sydd wedi'i leoli ar y Maes yng Nghaernarfon.

Roedd paent coch wedi'i beintio ar y cerflun gyda geiriau a sloganau yn galw am 'Balesteina Rydd' ac yn galw Lloyd George yn wladychwr ("coloniser").

Mae ymchwiliad i'r digwyddiad ar y gweill, meddai'r heddlu.