Cynnig Cymraeg yn nodi carreg filltir o bum mlynedd

CymraegFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae'r Cynnig Cymraeg yn nodi carreg filltir eleni wrth i'r cynllun ddathlu ei bumed pen-blwydd.

Cydnabyddiaeth swyddogol y comisiynydd iaith ydy'r Cynnig Cymraeg, a chaiff ei rhoi i sefydliadau sydd wedi cydweithio â swyddogion y comisiynydd i gynllunio darpariaeth Gymraeg.

Erbyn hyn mae dros 160 o sefydliadau wedi ei dderbyn - yn fusnesau, elusennau a sefydliadau trydydd sector.

Dywedodd Osian Llywelyn, Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, ei fod yn "rhoi cyfle i fudiadau godi ymwybyddiaeth am yr hyn y maent yn ei gynnig drwy'r Gymraeg".

'Balch iawn o fod yn un o'r rhai cyntaf'

Roedd cwmni cyfreithiol JCP yn un o'r rhai cyntaf i dderbyn y Cynnig Cymraeg, a dywedodd eu cyfarwyddwr a chydlynydd y Gymraeg, Meinir Davies, fod y cynllun yn "ganolog" i'w hethos.

"Bu'n ganolog i ethos JCP erioed ein bod yn rhan annatod o'r cymunedau yr ydym ni'n eu gwasanaethu, ac mae'r gallu i gyfathrebu â'n cleientiaid yn yr iaith y maen nhw fwyaf cartrefol ynddi yn rhan allweddol o'r ymagwedd honno."

Ychwanegodd eu bod yn "falch iawn o fod yn un o'r rhai cyntaf i dderbyn cymeradwyaeth y Cynnig Cymraeg bum mlynedd yn ôl ac rwy'n falch o allu dweud fod ein hymrwymiad i'r Gymraeg yr un mor gryf ag erioed".

Bydd sylw'n cael ei roi i'r sefydliadau hynny sydd wedi derbyn y Cynnig Cymraeg yr wythnos hon, gyda'r gobaith o annog eraill i fynd amdani.

Yn ôl Osian Llywelyn, mae'n "hollbwysig fod y gwaith o hyrwyddo a hybu'r Gymraeg drwy ein gwaith rheoleiddio yn y sector gyhoeddus a'n hanogaeth yn y sector breifat a'r trydydd sector yn cyd-redeg".

"Mae'r ddwy elfen yn angenrheidiol os ydym am weld cynnydd mewn defnydd naturiol o'r iaith Gymraeg yn ein bywydau bob dydd," meddai.

Ychwanegodd fod yr ymateb wedi bod yn "galonogol iawn" dros y pum mlynedd ddiwethaf "ac rwy'n falch o weld cymaint o amrywiaeth yn y sefydliadau sydd wedi derbyn y gymeradwyaeth".