Y Sioe Frenhinol yn 'allweddol' i'r Gymraeg

Arwyddion
  • Cyhoeddwyd

Mae'r Sioe Frenhinol, sy'n cael ei chynnal yn flynyddol yn Llanelwedd, wedi derbyn cydnabyddiaeth am ei hymrwymiad i'r Gymraeg.

Mae’r Cynnig Cymraeg yn gydnabyddiaeth swyddogol sy'n cael ei gyflwyno i sefydliadau sydd wedi cydweithio â swyddogion Comisiynydd y Gymraeg i gynllunio darpariaeth Gymraeg.

Er hyn, mae gan bobl ifanc farn gymysg ynghylch a yw’r Sioe yn rhoi sylw dyledus i’r Gymraeg yn ystod y digwyddiad blynyddol.

Dywedodd Prif Weithredwr y Sioe, Aled Rhys Jones fod y "Gymraeg yn rhan greiddiol" o'u gwaith.

Llynedd roedd 'na bryderon nad oedd bandiau Cymraeg wedi eu cynnwys yn narpariaeth y digwyddiad ieuenctid newydd yno.

I Esther Defis, 19, sy'n aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Capel Iwan, mae mynd i'r sioe yn ddefod flynyddol.

Dywedodd ei bod yn mwynhau'r sioe gan ei fod yn "gyfle gwych i ffermwyr ifanc weld pa mor bell maen nhw'n gallu mynd gyda'u ffermio a gweld bod ffermio yn gallu bod yn rhywbeth cymdeithasol".

Er hyn, mae o'r farn nad oes digon o Gymraeg yna.

"Wrth fynd i'r sioe, chi'n gweld fod 'na Gymraeg ar gael, ond yn bendant does dim digon o Gymraeg yn cael ei defnyddio yna."

Ffynhonnell y llun, Llun Cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Esther yn credu fod "yr Saesneg yn cael blaenoriaeth" yn ddiweddar

"Mae'r sioe i fod yn ddigwyddiad dwyieithog ond ar hyn o bryd ac yn y blynyddoedd diwethaf mae'r Saesneg yn cael blaenoriaeth".

Dywedodd mai enghraifft o hyn oedd y dewis o fandiau Saesneg yn y Sioe y llynedd.

"Mae'n amlwg wrth edrych ar y gigiau sydd wedi bod, fod bandiau Cymraeg ddim yn cael cyfle hafal i ddangos eu doniau," meddai.

Y Gymraeg 'i'w gweld' yn y Sioe

Dywedodd Grug Angharad Evans, 21, o Ddyffryn Banw ei bod yn teimlo bod y Gymraeg "i'w gweld llawer gwell" yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Aeth ymlaen i ddweud ei bod yn "wych gweld cymaint o fandiau Cymraeg yn chwarae yn y Garddwriaeth a'r Bandstand" eleni gan nodi fod y Sioe wedi "gwrando ar gwynion y llynedd a cheisio hyrwyddo'r Gymraeg hyd yn oed yn fwy eleni."

Dywedodd pa mor "allweddol" yw amaethyddiaeth i'r Gymraeg gan nodi y "byddai’r iaith yn dirywio" on ibai am y cymunedau cefn gwlad.

A hithau wedi mynd i'r sioe yn flynyddol ers ei bod yn ei harddegau, dywedodd fod y "Gymraeg i'w chlywed yn gryf yno".

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ceridwen yn ymwneud llawer â Chlwb Ffermwyr Ifanc Uwchaled

Roedd Ceridwen Edwards o Bentrellyncymer yn cytuno fod y Sioe yn "gweithio'n galed i adeiladu ar y defnydd o'r Gymraeg ar faes y sioe" er yn dweud fod 'na "bob amser le i wella".

Dywedodd ei bod yn "naturiol yn clywed llawer o Gymraeg yn y sioe" gan ei bod yn mynd i'r digwyddiad gyda'i ffrindiau sy'n medru'r Gymraeg.

Er hyn, dywedodd y byddai'n "ddiddorol gweld a fydd 'na ddatblygiad gyda hyn eleni' wrth gyfeirio at y diffyg bandiau Cymraeg oedd yn chwarae yn y Sioe y llynedd.

Dywedodd fod y Sioe yn "bwysig ymysg pobl o gefndir amaethyddol sy'n siarad Cymraeg ai peidio" gan ychwanegu ei fod yn gyfle i "fwynhau cystadlu a chymdeithasu".

Fe bwysleisiodd fod "gofalu am yr ardaloedd yma [gwledig Cymru] yn hollbwysig i sicrhau dyfodol i'r iaith".

Y gydnabyddiaeth yn 'gymorth'

Bydd y Sioe Frenhinol yn derbyn Y Cynnig Cymraeg, sef cydnabyddiaeth swyddogol gan Gomisiynydd y Gymraeg, am ei hymrwymiad i’r iaith.

Dywedodd Aled Rhys Jones, Prif Weithredwr y Sioe, ei fod yn hynod o falch o weld y Sioe yn derbyn y gydnabyddiaeth hon.

"Gyda chanran uwch o weithwyr yn y sector amaethyddol yn medru’r Gymraeg nag unrhyw sector arall yng Nghymru... mae cysylltiad byw iawn rhwng bodolaeth a dyfodol y Gymraeg, a’r diwydiant amaeth."

Aeth ymlaen i ddweud fod y "Gymraeg yn greiddiol, nid yn unig i'n gwaith ni yma ar faes y Sioe Amaethyddol, ond ar lefel ehangach yng nghefn gwlad Cymru".

Dywedodd hefyd fod derbyn y gydnabyddiaeth yn "gymorth i ni hyrwyddo'r Gymraeg ymhellach".

Disgrifiad o’r llun,

"Mae cysylltiad byw iawn rhwng bodolaeth a dyfodol y Gymraeg, a’r diwydiant amaeth," meddai Aled Rhys Jones

Dywedodd Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg fod y Cynnig yn "rhoi cyfle i sefydliadau godi ymwybyddiaeth am yr hyn y maent yn ei gynnig drwy'r Gymraeg."

Aeth ymlaen i ddweud fod y "diwydiant amaethyddol yn rhan hanfodol o economi a diwylliant cymunedau gwledig Cymru, lle mae'r Gymraeg yn iaith naturiol bob dydd".

Dywedodd fod "sicrhau ffyniant yr economi wledig ac amaethyddol yn hollbwysig er mwyn gweld twf yn y nifer sy'n siarad ac yn defnyddio'r Gymraeg bob dydd.”