Gwobr Arwr Tawel y BBC 2024 - Hysbysiad Preifatrwydd

  • Cyhoeddwyd

Gwobr Arwr Tawel Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC 2024 - Hysbysiad Preifatrwydd

Mae’n bwysig iawn i ni eich bod chi’n ymddiried ynom. Mae hyn yn golygu bod y BBC wedi ymrwymo i warchod preifatrwydd a diogelwch eich data personol. Mae’n bwysig eich bod yn darllen yr hysbysiad hwn er mwyn i chi wybod sut a pham rydym yn defnyddio data personol o'r fath. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn disgrifio sut rydym yn casglu ac yn defnyddio data personol amdanoch chi yn ystod eich perthynas â ni, ac wedi hynny, yn unol â chyfraith diogelu data.

Pam ydyn ni'n gwneud hyn a sut gallwch chi gymryd rhan?

Mae Gwobr Arwr Tawel Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC yn cael ei dyfarnu i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i chwaraeon ond efallai heb gael ei gydnabod. Gallwch enwebu gwirfoddolwyr eithriadol sy’n ymwneud â chwaraeon yn eich cymuned, gan gydnabod eu dylanwad dros y deuddeg (12) mis diwethaf.

Gallwch enwebu drwy ein ffurflen ar-lein sydd ar gael drwy bbc.co.uk/unsunghero.

Os byddwch yn defnyddio’r ffurflen ar-lein, bydd tîm cynhyrchu’r BBC yn casglu’r data personol drwy lwyfan ar-lein a ddefnyddir gan y BBC.

Bydd angen caniatâd yr enwebai, neu rieni/gwarcheidwaid yr enwebai os yw’r enwebai dan 18 oed.

Mae'n rhaid i’r sawl sy’n ennill gytuno i gymryd rhan mewn unrhyw gyhoeddusrwydd ar ôl y gwobrwyo os oes angen. Efallai y byddwn yn defnyddio eich cyfraniad chi neu gyfraniad eich enwebai at ddibenion cyhoeddusrwydd ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol y BBC.

Os byddwn yn darlledu eich cyfraniad ar yr awyr, gall hyn gynnwys bod ar gael ar-lein a/neu ar-alw, a gellir defnyddio’r cyfraniad eto mewn darllediad yn y dyfodol.

I gael gwybod sut bydd y BBC yn prosesu eich data personol chi neu eich enwebai pan fyddwch chi’n cyfrannu at ein rhaglenni, darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Cyfranwyr yma.

Pa ddata personol fydd y BBC yn ei gasglu?

Mae dau fath o ddata personol, sef data personol a data categori arbennig. Mae data categori arbennig yn ddata personol hefyd, ond rhaid i’r BBC ddilyn camau cydymffurfio ychwanegol er mwyn prosesu data o’r fath.

Rhaid i’ch enwebai fod yn 16 oed neu’n hŷn ar 1 Ionawr 2024 i gael ei enwebu.

Bydd y BBC yn casglu ac yn prosesu’r data personol canlynol amdanoch chi:

  • Enw llawn

  • Cod post

  • Cyfeiriad e-bost

  • Rhif ffôn cyswllt

  • Eich cyflwyniad (ffeil fideo neu ffurflen ysgrifenedig) sy’n cynnwys eich barn a’ch rhesymau dros enwebu rhywun

Bydd y BBC yn casglu ac yn prosesu’r data personol canlynol am eich enwebai os yw dros 18 oed:

  • Enw llawn

  • Rhanbarth y DU lle mae’n byw

  • Cyfeiriad e-bost

  • Rhif ffôn cyswllt

  • Y llwyddiannau a’r straeon personol rydych chi’n eu darparu am eich enwebai

Os yw eich enwebai dan 18 oed, byddwn hefyd yn casglu ac yn prosesu’r data personol canlynol am ei riant/gwarcheidwad, er mwyn cael caniatâd ar gyfer enwebiad ei blentyn:

  • Enw llawn

  • Cyfeiriad e-bost

  • Rhif ffôn cyswllt

Gan ddibynnu ar yr hyn mae eich cyflwyniad yn ei gynnwys, byddwn hefyd yn casglu’r data categori arbennig canlynol am eich enwebai:

  • Tarddiad hiliol neu ethnig

  • Credoau crefyddol neu athronyddol

  • Gwybodaeth iechyd

  • Cyfeiriadedd rhywiol

Gwiriadau Cefndir

Byddwn yn cynnal archwiliadau cefndir ar yr ymgeiswyr ar y rhestr fer drwy sgrinio ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol ac efallai byddwn yn prosesu lluniau neu negeseuon rydych chi wedi’u cyhoeddi sy’n datgelu gwybodaeth bersonol ychwanegol. Bydd y BBC yn defnyddio’r data personol sydd wedi'i brosesu fel rhan o’r archwiliadau sgrinio ar-lein a’r cyfryngau cymdeithasol i sicrhau bod y BBC yn ymwybodol o unrhyw negeseuon anffafriol a bostiwyd ar y cyfryngau cymdeithasol neu yn y cyfryngau a allai fod yn anghydnaws â’n gwerthoedd neu ein canllawiau golygyddol.

Pwy yw'r Rheolydd Data?

Y BBC yw “Rheolydd Data” eich data personol. Mae hyn yn golygu mai’r BBC fydd yn penderfynu ar gyfer beth y bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio, a sut y bydd yn cael ei brosesu. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, dim ond at y dibenion sydd wedi’u nodi yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn y bydd eich data personol yn cael ei gasglu a’i brosesu. Fel y Rheolydd Data, mae gan y BBC gyfrifoldeb i gydymffurfio â chyfraith diogelu data, ac i ddangos ei fod yn cydymffurfio â hi.

Y sail gyfreithiol dros brosesu eich data personol

Mae’r ffordd y mae’r BBC yn prosesu’r data personol wedi’i seilio’n gyfreithiol ar gyflawni ei rôl gyhoeddus. Rôl y BBC yw gweithredu er budd y cyhoedd a gwasanaethu pob cynulleidfa gyda chynnwys sy’n hysbysu, yn addysgu ac yn diddanu.

Mae’r BBC yn prosesu data personol at ddibenion archwiliadau cyfryngau cymdeithasol ar sail buddiant dilys. Mae sicrhau bod gwerthoedd unrhyw ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer yn cyd-fynd â gwerthoedd y BBC, gan gynnwys ein rhwymedigaeth i lynu wrth ganllawiau golygyddol, yn fuddiant dilys i’r BBC. Byddwn wedi ystyried yn ofalus yr effaith arnoch chi, ac ni fyddwn yn defnyddio'ch data personol pan fydd yr effaith yn fwy na’r buddiannau i ni.

Os byddwch yn rhoi data categori arbennig i ni fel y disgrifir uchod, bydd y BBC yn prosesu eich data categori arbennig ar y sail gyfreithlon bod prosesu’r data yn angenrheidiol am resymau o fuddiant sylweddol i’r cyhoedd. Mae’r rhesymau hyn at ddibenion newyddiaduraeth, oherwydd dibenion ehangach y BBC yw cynhyrchu’r allbwn a’r gwasanaethau mwyaf creadigol, unigryw ac o’r ansawdd gorau ac adlewyrchu, cynrychioli a gwasanaethu cymunedau amrywiol holl wledydd a rhanbarthau’r DU.

Rhannu eich data personol

Mae’r BBC yn gweithio gyda’n darparwyr trydydd parti cymeradwy sy’n ein helpu i ddarparu rhai o’n gwasanaethau. Dim ond ar ran y BBC y mae’r partneriaid hyn yn defnyddio eich data personol, ac nid yn annibynnol ar y BBC.

Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu data personol â thrydydd parti, os bydd y gyfraith yn mynnu neu’n caniatáu hynny.

Cadw eich data personol

Byddwn yn cadw eich data personol ar gyfer enwebiadau aflwyddiannus am hyd at naw deg (90) diwrnod ar ôl cyhoeddi enw'r enillydd.

Byddwn yn cadw data personol ar gyfer enwebiadau buddugol am ddwy (2) flynedd at ddibenion archwilio a chydymffurfio.

Bydd eich data personol yn cael ei storio yn y DU a'r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Eich hawliau a rhagor o wybodaeth

Mae gennych chi hawliau o dan gyfraith diogelu data:

  • Gallwch ofyn am gopi o’r data personol mae’r BBC yn ei storio amdanoch chi.

  • Mae gennych chi hawl i ofyn i ni gywiro unrhyw ddata personol anghywir neu anghyflawn sydd gennym amdanoch chi.

  • Mae gennych chi hawl i ofyn i’r data personol rydym yn ei gasglu amdanoch gael ei ddileu, ond mae cyfyngiadau ac eithriadau i’r hawl hon a allai roi’r hawl i’r BBC wrthod eich cais.

  • Mewn rhai amgylchiadau, mae gennych chi hawl i gyfyngu ar brosesu eich data personol neu wrthwynebu prosesu eich data personol.

  • Mae gennych chi hawl i ofyn i ni drosglwyddo’r data personol i chi neu i sefydliad arall, mewn rhai amgylchiadau.

Gallwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data os oes gennych gwestiynau, neu os ydych chi am gael gwybod mwy am eich hawliau. Tarwch olwg ar Bolisi Preifatrwydd a Chwcis y BBC yn http://www.bbc.co.uk/privacy.

Os ydych chi’n poeni am y ffordd mae’r BBC wedi delio â’ch data personol, gallwch godi’r pryder gyda’r awdurdod goruchwylio yn y DU, sef Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) https://ico.org.uk/, dolen allanol.

Diweddaru'r hysbysiad preifatrwydd hwn

Byddwn yn diwygio’r hysbysiad preifatrwydd os bydd y ffordd rydym yn defnyddio’ch data personol yn newid yn sylweddol.

Pynciau cysylltiedig