Cymraes 16 oed yn ennill Pencampwriaeth Sgimio Cerrig y Byd
- Cyhoeddwyd
Mae merch 16 oed o Bowys wedi ennill Pencampwriaeth Sgimio Cerrig y Byd.
Cari Jones, o Lanwrin, yw'r person ieuengaf erioed i ennill adran y menywod yn y gystadleuaeth, sy'n cael ei gynnal mewn hen chwarel lechi ar Ynys Easdale yn Yr Alban.
Gyda thafliad o 45m, fe drechodd Cari'r person a ddaeth yn ail o 10m - ond roedd yn fyr o'i record bersonol o 60m.
Roedd rhaid i'r cerrig fod o Ynys Easdale, a chael eu gwirio gan stiwardiaid i sicrhau nad oedden nhw'n rhy fawr.
Dywedodd Cari ei bod yn "nerfus iawn" i gystadlu yn yr adran oedolion am y tro cyntaf, a hithau wedi bod yn sgimio cerrig am bum mlynedd.
"O'n i hefyd yn mynd yn erbyn y ferch oedd wedi ennill pencampwriaeth y byd pum gwaith, felly oedd hynny'n deimlad anhygoel i mi," meddai wrth Cymru Fyw.
Yn byw yn Llanwrin, rhyw hanner milltir o Afon Dyfi, dywedodd Cari ei bod hi wedi dechrau sgimio cerrig ar ôl iddi gael ei chi bach, Popi.
"Wnes i fynd fewn i sgimio pan welais fy nghi yn rhedeg ar ôl carreg o'n i wedi taflu," meddai.
"Roedd fy nhad gyda fi ar y pryd a welodd o 'mod i'n taflu'n eitha' pell, felly 'naeth o weld hysbyseb cystadleuaeth pencampwriaethau Prydain, a fanno cychwynnodd popeth."
Dywedodd fod byw yn Llanwrin, mor agos at yr afon, wedi "chwarae rhan fawr" yn ei datblygiad yn y gamp, ac mae'n gyfleus iddi allu ymarfer yn rheolaidd.
"Ar yr Afon Dyfi rwy'n ymarfer sgimio fwyaf. Mae'n afon lyfli i sgimio, gan fod ganddo ardaloedd hir er mwyn i mi gyrraedd fy nharged.
"Dyna fy hoff le i sgimio yn sicr. Mae o mor agos at adref, mae digon o gerrig yno, ac yn bwysicach - digon o ddŵr yno."
Mae Cari wedi bod yn cystadlu ers yn 11 oed.
Yn ei chystadleuaeth gyntaf, dywedodd ei bod wedi torri record y categori dan-12 ar y pryd, gan sgimio 44m.
Ar ôl ymarfer yn rheolaidd yn ystod y pandemig, fe wnaeth Cari ennill yr adran dan-16 ym mhencampwriaeth Prydain yn 2023, gan sgimio 52m.
"Rwy'n ceisio ymarfer pob tro y galla i. Rwy'n mynd â'r ci am dro lawr yr afon rhyw unwaith y dydd am tua hanner awr i awr - dibynnu beth yw’r tywydd," meddai.
"Nesa' ar y gorwel dwi'n meddwl yw i ddal ati gyda'r ymarfer er mwyn rhoi go arall blwyddyn nesa' a cheisio bwrw'r wal ym mhencampwriaeth y byd blwyddyn nesa' gobeithio."