Gŵyl newydd yn Y Bala i 'lenwi bwlch'

Pwyll Edwards gyda rhai o drefnwyr eraill Gŵyl y GogsFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Pwyll Edwards (yn y canol) gyda rhai o drefnwyr eraill Gŵyl y Gogs

  • Cyhoeddwyd

Mae trefnwyr gŵyl newydd sy’n dechrau yn Y Bala'r penwythnos yma yn gobeithio llenwi’r bwlch am ddigwyddiad cerddorol mawr yn yr ardal er lles y gymuned.

Eleni ydi’r flwyddyn gyntaf i Ŵyl y Gogs gael ei chynnal wedi i griw bychan ddod at ei gilydd fis Mehefin y llynedd i ddechrau trefnu.

“Roeddan ni’n wedi bod yn trafod bod ‘na ddim gŵyl fawr wedi bod yn ardal Y Bala ers blynyddoedd,” meddai un o’r trefnwyr Pwyll Edwards.

“Mae Wa Bala wedi dod i ben ers sbel ac roeddan ni’n gweld bod ‘na ofyn am ŵyl newydd felly ddaeth 'na griw bach at ein gilydd ac aethon ni o fanna.

“Mae ‘na ŵyl Llanuwchllyn ond mae’n ŵyl i’r pentref felly welon ni gap yn y farchnad i wneud un fwy yn Y Bala. 'Da ni’n dechrau’n eitha’ bychan a’i thyfu hi a gobeithio yn y diwedd codi pres ar gyfer rhywbeth lleol.”

Huw Chiswell a Bwncath

Fe ddechreuodd yr ŵyl ar nos Wener, 30 Awst, a bydd rhai o brif fandiau’r sîn Gymraeg yn perfformio drwy’r dydd a nos Sadwrn, 31 Awst.

Meddai Mr Edwards: “Ro’n i eisiau Huw Chiswell yn yr ŵyl fwy na dim byd arall gan fod o wedi sgwennu cân i fy yncl i Dyl Môr, wnaeth farw tua 20 mlynedd nôl.

“A ro’n i’n coleg efo Elidyr Glyn, ac wrth gwrs mae Bwncath wedi mynd yn anferth erbyn hyn, felly roeddan ni eisiau nhw yno hefyd. A chwarae teg i’r bandiau i gyd am gytuno â hithau’n ŵyl newydd.”

Mae ‘na gysylltiad lleol gyda gweddill yr artistiaid fydd yn perfformio ar y dydd Sadwrn - y cerddorion Rhys Gwynfor, Osian Williams (fydd yn perfformio efo Alys Williams) a Melda Lois.

Ar y nos Wener roedd Celt, Meinir Gwilym a Tew Tew Tenau ar y llwyfan.

Disgrifiad o’r llun,

Meinir Gwilym oedd un o'r artistiaid oedd yn perfformio ar noson agoriadol yr ŵyl

Mae gwyliau cerddorol yr haf wedi dod yn boblogaidd iawn ar hyd a lled Cymru dros y blynyddoedd.

Yn ôl Mr Edwards mae’n waith caled i wirfoddolwyr eu trefnu gyda risg o golli arian os ydi’r tywydd yn wael.

Ychwanegodd ei fod o’n lwcus o gael profiad o drefnu digwyddiad tebyg gan ei fod wedi bod ar bwyllgor gŵyl Llanuwchllyn am flynyddoedd ac yn dal i helpu’r trefnwyr.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Paratoadau munud olaf i'r llwyfan gan y cwmni sain

A gyda'r rhagolygon am dywydd braf i'r ŵyl eleni mae’r trefnwyr yn ffyddiog am ddechrau llwyddiannus.

Meddai: “Mae’n rhaid i ni ddiolch i deulu Talybont am y cae lle mae’r ŵyl yn cael ei chynnal. Gan fod hi’r flwyddyn gynta’ mae’n anodd gwybod sut aiff pethau ond mae’r tocynnau wedi bod yn mynd yn dda.

"Mae ‘na ychydig ar ôl ond unwaith 'da ni’n cyrraedd y maximum o ran niferoedd gawn ni yno, fydd pobl ddim yn cael dod i mewn.”