Lluniau: Gŵyl Rhuthun yn dathlu'r 30
- Cyhoeddwyd
Nôl yn yr un gyntaf un gafodd ei chynnal yn 1994, dim ond un diwrnod o ddathliad oedd Gŵyl Rhuthun ond mae wedi tyfu cryn dipyn ers hynny fel mae'r lluniau yma yn ddangos.
Wrth iddi ddathlu'r 30, mae'r ŵyl bellach yn wythnos gyfan o ddigwyddiadau gyda'r ffocws ar gerddoriaeth.
Cychwynnodd y digwyddiad fel Gŵyl Gefeillio Rhuthun - wedi iddi gael ei hysbrydoli gan ddigwyddiad tebyg yn ei gefeilldref Briec yn Llydaw - ond erbyn 1997 Gŵyl Rhuthun oedd yr enw.
Uchafbwynt yr wythnos ydi Top Dre sy'n denu nifer o fandiau Cymraeg poblogaidd ac ymysg y perfformwyr ar 29 Mehefin roedd Bwncath, Fleur De Lys a Band Pres Llareggub. Ac roedd 'na ddigon yno yn mwynhau...
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mehefin
- Cyhoeddwyd13 Mai
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2019