Ynys bwysicaf America wedi'i henwi ar ôl Cymro

Ynys EllisFfynhonnell y llun, Wikipedia
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Ynys Ellis yn fan pwyig i fewnfudwyr ar ddiwedd y 19eg ganrif

  • Cyhoeddwyd

Draw dros y dŵr dan olwg y Statue of Liberty yn Efrog Newydd, mae ynys fechan sydd wedi chwarae rhan enfawr yn hanes America.

Ynys Ellis yw hon, cyrchfan miliynau o fewnfudwyr i'r wlad ar ddiwedd y 19eg ganrif.

Mae ystadegau yn dangos fod hyd at 12 miliwn o bobl wedi pasio drwy'r ynys o 1862 fel mynediad i fyw yn America.

Ond prin fod y bobl hynny, oedd yn crefu am fywyd newydd, yn gwybod fod yr ynys wedi'i galw ar ôl Cymro, oedd ei hun yn fewnfudwr bron i ganrif ynghynt.

Priodi a symud i America

Ganwyd Samuel Ellis yn 1712 yn Wrecsam.

Priododd dynes o'r enw Anne Evans yn 1734 cyn symud i fyw i ardal Manhattan, Efrog Newydd.

Yn ystod cyfnod Chwyldro America (1765–1783) roedd Ellis yn gweithio fel masnachwr yn Efrog Newydd.

Dyna pryd benderfynodd brynu ynys fach, ddigon di-nod yng nghanol harbwr Efrog Newydd.

Ynys y Cimychiaid neu Oyster Island oedd enw'r ynys bryd hynny, a doedd dim ar y tir tair acer ond tafarn a adeiladwyd gan Ellis ar gyfer y pysgotwyr.

Roedd yr ynys bryd hynny yn boblogaidd iawn gyda physgotwyr yr ardal yn enwedig i ddal cimychiaid.

Er mwyn dangos i ddinasyddion Efrog Newydd pwy oedd berchen yr ynys hon, fe newidiodd enw'r ynys ar ei ôl.

Ynys EllisFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ynys Ellis heddiw gyda Efrog Newydd yn y cefndir

Am flynyddoedd bu Ynys Ellis ym meddiant y teulu, nes marwolaeth Samuel Ellis yn 1794.

Roedd ewyllys Ellis yn benodol iawn o ran perchnogaeth yr ynys ar ei ôl.

Pwysleisiodd y byddai perchnogaeth yr ynys yn mynd i'w ŵyr cyntaf a'i enw fyddai Samuel Ellis.

Ganwyd bachgen bach i ferch Samuel Ellis, sef Catherine Westervelt, ac fe enwodd ei mab yn Samuel Ellis.

Yn anffodus bu farw'r plentyn yn ifanc iawn a daeth yr ynys wedyn yn ôl i feddiant Catherine.

Wedi'i ei hysgwyd ar ôl colli ei mab, roedd yr ynys yn atgof poenus iddi ac fe geisiodd werthu Ynys Ellis yn syth.

Fe basiodd yr ynys i'w dwy chwaer, Elizabeth Ryerson a Rachel Cooder ond doedd ganddyn nhw ddim diddordeb ynddi chwaith.

Doedd gan neb yr awydd i brynu'r ynys am flynyddoedd, ac yno roedd hi'n sefyll yn ddiddefnydd am ddegawdau.

Yn 1808 fe brynwyd yr ynys gan Lywodraeth America am $10,000. Erbyn 1810 roedd hi wedi'i thrawsnewid yn amddiffynfa filwrol oedd yn cynhyrchu arfau cyn y rhyfel yn 1812.

Mynedfa i fewnfudwyr

Hyd yn oed pan yn nwylo'r llywodraeth, fe gadwyd yr enw Ellis ar yr ynys.

Dros y blynyddoedd wedyn fe dyfodd statws yr ynys i fod yn un bwysig o ran y fyddin.

Yn ystod y rhyfel cartref yn America, roedd yr ynys yn cael ei defnyddio i ddal carcharorion rhyfel ac i storio'r arfau oedd yn cael eu dosbarthu oddi yno i faes y gad.

Ond newidiodd statws yr ynys 1892, pan ddaeth hi'n fynedfa i fewnfudwyr a symudai i America i gael bywyd newydd.

Dros gyfnod o 62 o flynyddoedd tan 1954, hon oedd y fynedfa brysuraf yn America o ran croesawu a phrosesu 12 miliwn o fewnfudwyr i'r wlad.

Erbyn nawr mae Ynys Ellis yn parhau i fod yn lleoliad poblogaidd ymysg twristiaid sy'n ymweld ag Efrog Newydd.

 hithau'n gorwedd yng nghysgod Y Statue of Liberty, mae twristiaid yn mwynhau ymweld â'r ddwy ynys a dysgu am hanes y mewnfudwyr a'r prosesau oedd yn gysylltiedig â chael mynediad i America.

Prin oedd y mewnfudwr o Wrecsam a fentrodd i America i geisio gwneud ei ffortiwn yn y 1730, yn gwybod y byddai ynys ddi-nod a brynodd yng nghanol afon Hudson, yn chwarae rôl mor bwysig yn hanes y wlad 150 o flynyddoedd yn ddiweddarach.

Mewnfudwyr Ynys EllisFfynhonnell y llun, Wikipedia
Disgrifiad o’r llun,

Mewnfudwyr yn cyrraedd Ynys Ellis

Pynciau cysylltiedig