Neuadd Dewi Sant: Rhybudd am gostau gwerth degau o filiynau

Neuadd Dewi Sant, Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Neuadd Dewi Sant wedi bod ar gau ers 7 Medi

  • Cyhoeddwyd

Fe allai'r gwaith o adnewyddu un o neuaddau cyhoeddus amlycaf Caerdydd gostio degau o filiynau o bunnoedd, yn ôl arweinydd y cyngor sir.

Bu'n rhaid cau Neuadd Dewi Sant dros dro ar 7 Medi er mwyn archwilio paneli concrit RAAC sydd wedi eu defnyddio yn y nenfwd.

Dywedodd arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas, wrth raglen Dros Frecwast ei fod yn aros am adroddiad archwilwyr peirianyddol yr wythnos hon.

Mae drysau'r neuadd gyngerdd wedi bod ynghau ers i ganllawiau ar goncrit RAAC, sydd yn bresennol yn nho'r adeilad, newid yn ddiweddar.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas: "Beth rydyn ni'n ddeall hyd yma yw y bydd rhyw fath o waith [ar Neuadd Dewi Sant] yn angenrheidiol.

"Bydd yr adroddiad yn cadarnhau faint o waith sydd angen a faint fydd hynny'n ei gymryd."

Disgrifiad,

Cymru Fyw yn egluro: Beth yw concrit RAAC a pham ei fod yn beryglus?

Dywed Cyngor Caerdydd nad oes tystiolaeth i awgrymu bod cyflwr y concrit - sy'n llawn swigod aer ac yn gallu dymchwel yn ddirybudd wrth heneiddio - yn anniogel.

Cyngor Caerdydd sydd yn rhedeg a rheoli'r neuadd gyngerdd ar hyn o bryd.

Ond mae cwmni preifat AMG (Academy Music Group) yn y broses o gymryd les ar y neuadd.

Dywedodd Huw Thomas fod trosglwyddo'r adeilad i gwmni preifat "yn dal i fod yn rhan o'r drafodaeth".

"Ar y pryd roedd rhai yn ddrwgdybus bod 'na broblem wirioneddol," meddai.

"Rydym wedi dysgu ers hynny pa mor ddifrifol y gall y broblem fod felly roedd y cwmni preifat yn ymwybodol o'r gwaith a fyddai angen ei gwblhau rhyw bryd.

"Y cwestiwn nawr yw a oes angen mynd ati i ail wneud y to yn gyfan gwbl neu a oes rhywbeth all gael ei wneud dros dro yn y cyfamser."

Pwysau ar gyllideb yn 'enfawr'

Ychwanegodd Huw Thomas: "Dwi'n angerddol dros ddyfodol Neuadd Dewi Sant ac eisiau ei gweld yn ailagor yn barhaol.

"Mae'n bwysig ei gweld yn parhau'n ariannol hefyd a dyna pam yr edrychon ni ar yr opsiwn hwn o gwmni preifat i ddod â'r buddsoddiad angenrheidiol i'r neuadd."

Daeth sylwadau Huw Thomas wrth i sawl cyngor sir yng Nghymru wynebu toriadau yn eu cyllidebau.

Dywedodd y Cynghorydd Thomas: "Cofiwch ein bod ni yn cael y drafodaeth yma yng nghyd-destun y bwlch ariannol y mae cynghorau a llywodraeth Cymru'n ei wynebu.

"Byddai cost ariannol ail-wneud y to yn gyfan gwbl yn ddegau o filiynau o bunnau gyda'r refurbishment arall sydd angen ar y neuadd, felly mae'n bwysig ein bod ni'n edrych ar opsiynau eraill o gael y buddsoddiad hynny i mewn achos byddai'r pwysau ar gyllideb y cyngor neu'r llywodraeth yn enfawr."

Pynciau cysylltiedig