Canslo triniaeth canser y fron 'am fy mod i o Gymru'
- Cyhoeddwyd
Cafodd llawdriniaeth dynes o Bowys – oedd yn gorfod mynd i Loegr am driniaeth canser y fron – ei ganslo ar y funud olaf “gan ei bod hi o Gymru”.
A hithau’n byw ger y ffin, cafodd Lowri Mai Williams ei chyfeirio at ysbytai yng nghanolbarth Lloegr am gyfres o driniaethau canser yn 2023.
Tra’i bod hi mewn gwely yn yr ysbyty yn aros am lawdriniaeth, dywedodd meddyg ei fod wedi’i ganslo.
“Nath hi ddweud, ‘mi wyt ti'n byw yng Nghymru, yndwyt? Wel, gallwn ni ddim parhau â'r driniaeth oherwydd cyllideb',” esboniodd Ms Williams ar bodlediad 1 mewn 2 BBC Radio Cymru.
“O’n i just yn iste' yna’n meddwl, 'ma’ hwn fel rhyw fath o hunllef'.”
Dywedodd llefarydd ar ran y GIG yn Lloegr nad oedd modd gwneud sylw ar achosion unigol, a'u bod yn croesawu adborth.
Uchelgais Bwrdd Iechyd Addysgol Powys yw darparu'r gofal gorau posib, medd llefarydd, gan ychwanegu nad oedden nhw am wneud sylw ar achosion unigol.
- Cyhoeddwyd30 Mehefin
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd22 Mai
Yn 42 oed, cafodd Ms Williams o Foelfre ddiagnosis canser y fron ym mis Mawrth 2023.
“O ran y llwybr ‘dan ni’n mynd ar, ‘dan ni’n gorfod mynd i Shrewsbury a Telford Trust,” meddai.
Ar ôl derbyn cemotherapi ym mis Mai, aeth hi i'r ysbyty yn Telford i gael llawdriniaeth i dynnu ei nodau lymff yn yr hydref.
“Oddan ni ‘di mynd mewn yn y bore, dim bwyta ar y nos Sul wrth baratoi.
"Cyrraedd yna – gown ymlaen, nhw’n rhoi’r marker pens [ar ei chorff]. Dyma ni’n barod i fynd.”
Ond yna daeth meddyg i eistedd ar ei gwely a dweud na fyddai’r llawdriniaeth yn digwydd.
Roedd meddyg arall, a oedd fod i roi mastectomi i Ms Williams rai wythnosau’n ddiweddarach yn Birmingham, wedi sylwi ei bod hi o Gymru ac wedi dweud nad oedd cyllid i'w thrin, medd Ms Williams.
“A ti’n meddwl, maen nhw’n gwybod bo’ fi’n byw yng Nghymru o’r dechrau.
“Dyna sut oeddan nhw’n geirio fo – am taw’r ffaith bo’ fi’n byw yng Nghymru. Mae rhywbeth yn corddi yno' ti wedyn.
“Dyma fi wedyn yn dechrau crio a chrio yn meddwl, ‘dw i ddim yn siŵr sut i ymateb i hyn’.”
Ychwanegodd Ms Williams na chafodd unrhyw opsiwn arall ei gynnig iddi, fel talu’n breifat am y driniaeth.
Cafodd y llawdriniaeth y diwrnod hwnnw ei ganslo, yn ogystal â’r mastectomi ac adluniad (reconstruction) oedd i fod i ddigwydd yn ddiweddarach.
'Popeth yn dod lawr i bres'
Mae Ms Williams o’r farn mai “dadl” dros bwy fyddai'n talu am ei thriniaeth oedd yn gyfrifol am ei phrofiad – rhwng ei bwrdd iechyd lleol ym Mhowys, a’r ymddiriedolaeth iechyd yn Lloegr oedd wedi bod yn ei thrin.
“Mae popeth yn dod lawr i bres ar ddiwedd y dydd, sy’n anffodus.
“Dylse bod y politics yma ar y top ym Mwrdd Iechyd Powys wedi trefnu."
Treuliodd Ms Williams a’i phartner dridiau yn gwneud “73 galwad ffôn” er mwyn datrys y sefyllfa, gan gynnwys i gynghorydd lleol ac i ysbyty yn Abertawe i ofyn am driniaeth yn fanno.
“Yn y diwedd, nath y GPs yn Llanfyllin helpu fi allan,” meddai.
Fe wnaeth Bwrdd Iechyd Addysgu Powys drefnu bod modd i Ms Williams barhau â’i thriniaeth wythnos yn ddiweddarach.
Ond mae Ms Williams am godi ymwybyddiaeth o’i phrofiad, gan ddweud ei bod hi'n ymwybodol o ddwy fenyw arall o'r ffin sydd â phrofiadau tebyg.
"Ma’ fe’n rhywbeth sydd yn broblem pan ma' fe’n mynd allan o Gymru.
"Ma' fel postcode lottery bron - ma' hwn yn ddifrifol.”
Dywedodd llefarydd ar ran y GIG yn Lloegr: "Ni allwn wneud sylw ar achosion unigol, ond ry'n ni'n croesawu pryderon a chwynion fel adborth gwerthfawr fydd yn ein helpu i ddysgu o'ch profiadau a gwella'r gwasanaethau ry'n ni'n eu comisiynu."
Yn ôl llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Addysgol Powys, eu huchelgais yw "sicrhau'r gofal gorau posib i'n holl gleifion".
"Ond os nad yw eich triniaeth a'ch gofal yn digwydd fel yr oeddech chi wedi'i ddisgwyl, ry'n ni'n eich hannog i gysylltu â'n Tîm Pryderon a Phrofiadau Cleifion er mwyn i ni fedru ymchwilio i'ch profiadau, eu datrys lle'n bosib, a sicrhau bod y GIG a'n partneriaid yn gallu dysgu ohonynt.
"Rydyn ni'n cymryd ein cyfrifoldeb i ddiogelu preifatrwydd ein cleifion yn ddifrifol iawn, felly ni fyddai'n addas i ni wneud sylw ar achosion unigol."
Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai cyfrifoldeb Bwrdd Iechyd Addysgol Powys ydy "sicrhau bod trefniadau i bobl leol dderbyn triniaeth, boed hynny yng Nghymru neu yn Lloegr," a bod dim modd gwneud sylw ar achos unigol.